Banc Gwirfoddolwyr Argyfwng Gwynedd

Annwyl Gynghorwyr

Mae Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd wedi creu ‘Banc Gwirfoddolwyr Argyfwng’ newydd. Prif bwrpas y Banc yw tynnu rhestr canolog o unigolion fyddai’n awyddus i helpu mewn sefyllfa o argyfwng megis llifogydd, cyfnod clo arall ble fydd angen cymorth, yn ogystal â’r galw am wirfoddolwyr i gynorthwyo gydag ymdrechion brechu a phrofi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth yma ymysg eich cysylltiadau a chyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda.

Yr oll sydd angen ei wneud er mwyn cofrestru ar y Banc yw dilyn y cyswllt yma: https://forms.office.com/r/fX4nVHxVzL

Diolch am eich cenfogaeth.


Newyddion 2021