Bwletin Gwasanaeth Cefnogi Busnes Gwynedd 17.02.2021

Chwaraeon Cymru: Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yn cau Dydd Gwener 19 Chwefror 2021

Mae Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon newydd ar agor rŵan i helpu darparwyr preifat a masnachol sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Mae’r gronfa ar gyfer darparwyr preifat a masnachol sy’n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn uniongyrchol i’r cyhoedd yng Nghymru. Mi fydd ceisiadau i Gronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon drwy wefan Chwaraeon Cymru yn cau am 4:00pm 19 Chwefror 2021. Am fwy o wybodaeth, ewch i:

https://www.chwaraeon.cymru/cronfa-darparwyr-preifat-y-sector-chwaraeon/

Llywodraeth DU yn cyhoeddi Cronfa Gymorth Brexit BBaChau gwerth £20 miliwn

Cyhoeddodd Canghellor Duchy Lancaster Gronfa Gymorth Brexit BBaChau gwerth £20 miliwn i helpu busnesau bach gyda newidiadau i reolau masnach gyda’r UE. Bydd masnachwyr yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £2,000 i dalu am gymorth ymarferol ar gyfer mewnforio ac allforio. Bydd y gronfa’n helpu busnesau i baratoi ar gyfer gweithredu rheolaethau mewnforio a ddaw i rym o fis Ebrill a mis Gorffennaf 2021. Am fwy o wybodaeth, ewch i:

http://bit.ly/3s0nmab

Cyhoeddi gweledigaeth ‘Egin gwyrdd’ ar gyfer y diwydiant bwyd a diod ôl-Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gweledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol wrth iddi osod ei golygon, dros y blynyddoedd nesaf, i fod yn arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd. Bydd ffigurau bwyd a diod blaenllaw yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw amlinellu cynlluniau i osod arferion cynaliadwy wrth wraidd agenda adfer y diwydiant ar ôl Covid. Am fwy o wybodaeth, ewch i:

https://llyw.cymru/cyhoeddi-gweledigaeth-egin-gwyrdd-ar-gyfer-y-diwydiant-bwyd-diod-ol-covid

Digwyddiad Gwersi C-19 ac Edrych i’r Dyfodol 18 Chwefror 2021

Mae digwyddiad ar y cyd Gogledd Creadigol, Cymru Greadigol a Chelfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, “Gwersi C-19 ac Edrych i’r Dyfodol”, yn cael ei gynnal am 9:30am -11:00am ar 18 Chwefror 2021.

Y siaradwyr fydd:

  • Geraint Evans, S4C
  • Siân Eirian, Eisteddfod yr Urdd
  • Siân Gale, CULT Cymru
  • Kev Tame, AM Cymru
  • Colin Heron, Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

Archebwch eich tocyn yma:

http://bit.ly/37hCIzl

Adferiad Rhanbarthol 2021 – Uwchgynhadledd Busnes 24 Chwefror 2021 (Ar-lein)

Uwchgynhadledd Busnes a fydd yn rhoi sylw i’r buddsoddiadau, y cynlluniau a’r cymorth diweddaraf ar gyfer adferiad economaidd ardal Gogledd Cymru, Mersi a’r Ddyfrdwy. Cyflwyniadau gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, a Growth Track 360. Bydd y digwyddiad ar-lein di-dâl hwn, rhwng 10:00am a 3:00pm ar 24 Chwefror 2021, yn cynnwys sesiwn holi ac ateb a chyfraniad dilynol gan fusnesau. I gofrestru, ewch i:

http://bit.ly/3nZFAGn

Cronfa Band Eang Llywodraeth Cymru: Digwyddiad gwybodaeth ar gyfer mentrau cymdeithasol 2 Mawrth 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i gefnogi mentrau cymdeithasol ac awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol. Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy’n darparu atebion band eang arloesol i gymunedau a rhannau o Gymru nad oes ganddynt fynediad at gyflymder band eang 30 Mbps ar hyn o bryd. Trwy fynychu’r sesiwn wybodaeth hon, byddwch yn gallu darganfod mwy am y gronfa a’r cyfleoedd allai fod ar gael i chi a’ch cymunedau. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad rhithwir yma, fydd yn cael ei gynnal o 10:00am – 12:30pm ar 2 Mawrth 2021, ac i gofrestru, ewch i:

http://bit.ly/3dg8alc

Gweminarau am ddim FSB

  • Referral Marketing: 24 Chwefror 2021, 11:00am – 12:00pm
  • Time Management: 1 Mawrth 2021, 10:00am – 11:00am
  • An introduction to the Money and Pensions Service 2021: 4 Mawrth 2021, 12:00pm – 1:00pm

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i:

http://bit.ly/37n2H8x

Cyfrif Twitter FSB Cymru:
https://twitter.com/FSB_Wales

Gweminarau Llesiant RCS

Yn ystod yr argyfwng Covid-19, mae RCS yn cyflwyno cyfres o weminarau am ddim sy’n cynnig arweiniad arbenigol i gyflogwyr ar sut i gefnogi staff yn ystod y cyfnodau heriol hyn, ac awgrymiadau ac offer i weithwyr ynghylch gofalu am eu llesiant meddyliol a chorfforol. Am fwy o wybodaeth am y gweminarau ar y gweill, ewch i:

https://rcs-wales.co.uk/cy/webinars-cy/


Mae mwy o wybodaeth defnyddiol i’w gael o:

Cyngor Gwynedd – Cefnogaeth i Fusnes

https://www.gwynedd.llyw.cymru/busnescovid19
https://twitter.com/BusnesGwynedd

Rhwydwaith Busnes Gwynedd

https://www.gwyneddbusnes.net/Hafan
https://twitter.com/gwyneddbusnes

Busnes Cymru

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/
https://twitter.com/_busnescymru

Busnes@llandrillomenai

https://www.facebook.com/BusnesatLlandrilloMenai/posts
https://twitter.com/busnesLLM

FSB Cymru

https://twitter.com/FSB_Wales

Croeso Cymru

https://twitter.com/croesocymrubus

Cofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf
https://bit.ly/3klWPAU


Os oes gennych gwestiwn neu angen cyngor ebostiwch busnes@gwynedd.llyw.cymru


Newyddion 2021