DIWEDDARIAD: Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) i fusnesau sydd â throsiant o £85k+ wedi’i ymestyn tan 14 Mehefin 2021

Yn sgîl y newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Llywodraeth Cymru heddiw, mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) i fusnesau sydd â throsiant cyn COVID o £85,000+ wedi’i ymestyn o 7 Mehefin 2021 tan 5:00pm. Gall busnesau cymwys, sydd wedi/a fydd yn cael eu effeithio gan y cyfyngiadau sy’n dal i fod ar waith yn ystod mai a Mehefin 2021, wneud cais i’r Gronfa Cadernid Economaidd am gymorth ariannol i helpu i dalu eu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff). Mae cymorth ar gael i fusnesau sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau a’u cadwyni cyflenwi. I wirio eich cymhwysedd, ewch i:

https://fundchecker.businesswales.gov.wales/businesssupport/cy

Llywodraeth Cymru yn cadarnhau camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Cymru yn dechrau symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1 o ddydd Llun 7 Mehefin 2021. Bydd hyn yn golygu:

  • Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus
  • Gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi’u trefnu, fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon, fel grwpiau rhedeg wedi’u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd. Rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau pellach i’r rheoliadau ar weithgaredd dan do yn ddiweddarach yn y mis, cyn 21 Mehefin 2021, i benderfynu a all digwyddiadau dan do ailgychwyn os yw cyflyrau iechyd cyhoeddus yn caniatáu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau
  • Cynyddu’r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau wedi’u trefnu o dan do
  • Agor canolfannau sglefrio iâ

Mae mwy o wybodaeth defnyddiol i’w gael o:

Cyngor Gwynedd – Cefnogaeth i Fusnes
https://www.gwynedd.llyw.cymru/busnescovid19
https://twitter.com/BusnesGwynedd


Newyddion 2021