Bwletin Gwasanaeth Cefnogi Busnes Gwynedd 08.03.2021

Ail gyfnod ymgeisio Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden agor 10:00am 9 Mawrth 2021

Bydd ail gyfnod o’r Grant Penodol i’r Sector Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, wedi’i dargedu at fusnesau Lletygarwch, Twristiaeth a Hamdden a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi, yn agor am 10:00am yfory (9 Mawrth 2021) tan 8:00pm ddydd Gwener (12 Mawrth 2021). Nod y grant yw cefnogi busnesau gyda sy’n cyflogi 10 neu fwy o staff sy’n disgwyl gostyngiad mewn trosiant o fwy na 60%, o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud Lefel Rhybudd 4 parhaus rhwng 25 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021, i gyfarfod â’u costau gweithredu. Gallwch adolygu’r meini prawf a pharatoi i ymgesio yma:

https://fundchecker.businesswales.gov.wales/ssgp2/cy

Yn amodol ar ganlyniad yr adolygiad nesaf ar 12 Mawrth 2021, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd yr wythnos diwethaf y gallai £150 miliwn pellach mewn grantiau fod ar gael i gwmnïau, gan gynnwys microfusnesau, drwy’r cynllun Ardrethi Annomestig os caiff cyfyngiadau Coronafeirws eu hymestyn.

Annog trigolion Gwynedd i gadw at reolau Covid-19

Mae’r grŵp aml-asiantaeth sy’n gweithio i amddiffyn cymunedau Gwynedd rhag Covid-19 yn annog preswylwyr i ddilyn y rheoliadau i atal yr haint rhag lledaenu. Rhyddhawyd datganiad i’r wasg wythnos diwethaf pan roedd gan Wynedd y cyfraddau uchaf o achosion Coronafeirws yng Nghymru dros gyfnod saith diwrnod (89.1 fesul 100,000), sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol (50.9 fesul 100,000). Yn wahanol i’r mwyafrif o siroedd eraill Cymru, nid yw nifer yr achosion Covid-19 yr adroddir amdanynt yn gostwng yn sylweddol fesul wythnos ar hyn o bryd. Felly mae Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb COVID-19 Gwynedd yn annog y cyhoedd i ddal ati i ddilyn y rheolau er mwyn cadw cymunedau’r sir yn ddiogel. Am y datganiad yn llawn, ewch i:

http://bit.ly/DatganiadGwynedd05Maw2021

Newid ar y gorwel?

Bydd yr adolygiad nesaf o gyfyngiadau Coronafeirws yn cael ei gynnal ddydd Gwener yma (12 Mawrth 2021) a gall y cyfyngiadau presennol newid. Os ydych chi’n ystyried ailgychwyn ac ailagor eich busnes, bydd y canllawiau a’r pecynnau cymorth ar wefan Busnes Cymru yn ddefnyddiol, ewch i:

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/diogelu-cymru-yn-y-gweithle

‘Yn Gefn i Chi’: Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd

Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch newydd ar 1 Mawrth 2021 i hyrwyddo’r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i’w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.Bydd yr ymgyrch ‘Yn Gefn i Chi’ yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a’r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein. Am fwy o wbodaeth, ewch i:

http://bit.ly/3qd5TK8

Ar gyfer y Porth Sgiliau i Fusnes, ewch i:

https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy

Cymorth Recriwtio Prentisiaid Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn sgiliau a swyddi sydd werth £40 miliwn er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc. Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol o ran darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a’r economi, gan gynnig cyfle i recriwtio mewn ffordd gosteffeithiol ac adeiladu gweithlu medrus. Bydd y cymelliadau prentisiaethau, a gaiff eu cynnig o Awst 2020 i 31 Gorffennaf 2021, yn helpu busnesau i recriwtio prentisiaid a datblygu gweithlu sy’n medru bodloni anghenion busnes sy’n newid. Am fwy o wybodaeth, ewch i:

http://bit.ly/3sXrrfK

Gweminarau ar gyfer mewnforwyr cynhyrchion bwyd a diod o’r UE i Brydain Fawr

Cofrestrwch ar gyfer gweminarau i gael gwybod am newidiadau i fewnforio bwyd a diod, gan gynnwys bwyd cyfansawdd a chynhyrchion pysgodfeydd o’r UE i Brydain Fawr (GB) o 1 Ebrill 2021. Ewch i:

http://bit.ly/3sW6O3F


Mae mwy o wybodaeth defnyddiol i’w gael o:

Cyngor Gwynedd – Cefnogaeth i Fusnes

https://www.gwynedd.llyw.cymru/busnescovid19
https://twitter.com/BusnesGwynedd

Rhwydwaith Busnes Gwynedd

https://www.gwyneddbusnes.net/Hafan
https://twitter.com/gwyneddbusnes

Busnes Cymru

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/
https://twitter.com/_busnescymru

Busnes@llandrillomenai

https://www.facebook.com/BusnesatLlandrilloMenai/posts
https://twitter.com/busnesLLM

FSB Cymru

https://twitter.com/FSB_Wales

Croeso Cymru

https://twitter.com/croesocymrubus

Cofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf
https://bit.ly/3klWPAU


Os oes gennych gwestiwn neu angen cyngor ebostiwch busnes@gwynedd.llyw.cymru


Newyddion 2021