Gair gan Y Maer, Mici Plwm

Gair gan Y Maer, Mici Plwm

CYFARFOD CYMERYD Y GADAIR FEL MAER TREF PWLLHELI

Deng mlynedd union yn ôl i heno, fe gerddais i mewn i Siambr Cyngor Tref Pwllheli am y tro cyntaf.

Ma hi’n hanodd iawn, mewn geiria, egluro a disgrifio be yn union oedd yn mynd trwy fy meddwl y noson honno; ond mae un peth yn sicr roedd hi’n deimlad pleserus iawn ac roedd rhaid rhoi ‘pinsiad’ go eger i mi fy hun i wneud imi sylweddoli fy mod i wedi fy nerbyn yn Gynghorydd Tref Pwllheli – y dref rydw’i, wedi byw ynddi ers 20 mlynedd a mwy bellach, ac heb os yn ei ystyried fel fy nghartref ac  hefyd fel ‘Perl Pen Llŷn’

Mae’r croeso gwresog gefais i gan y Cynghorwyr y noson honno yn glir iawn yn fy ngof, a da deud fod y rhan fwyaf oedd yn bresennol dal hefo ni heno ‘ma – ond yn drist iawn nifer annwyl iawn wedi’n gadael.

Taswn i’n troi y cloc ar yn ôl, i fy mhen blwydd yn 21ain oed, fe gefais fy hun mewn sefyllfa eithaf tebyg y flwyddyn honno hefyd – sef cerdded i mewn i fy nghyfarfod cyntaf o Gyngor Plwyf Penrhyndeudraeth fel y Cynghorydd ieuangaf, nid yn unig ym Meirionydd a Chymru – ond Gwledydd Prydain!! (a rhaid bryd hynny, yn oes yr arth a’r blaidd, oedd bod yn 21ain oed i fod yn Gynghorydd Tref neu Blwyf!).

Tri cynnig i Gymro (neu Gymraes) medda nhw, ac hefyd fod popeth yn digwydd mewn niferoedd o dri. Wel gwir y gair – dyma fi heno, deng mlynedd arall wedi mynd heibio, yn ôl yn Siambr y Cyngor tref, ac yn cael yr anrhydedd o wisgo lifrau Maer Tref Pwllheli. Gwefr, balchder ac anrhydedd, a nifer dda o ansoddeiriau perthnasol eraill i ddisgrifio fy nheimladau heno.

Dyna ni yn sydyn wedi cymryd cip olwg ar fy DDOE a HEDDIW - ond ymlaen i fory a’r DYFODOL achos heb os dyna sydd bellach yn bwysig.

Nid yw’r rhestr isod mewn trefn penodol – dim ond y math o enghreifftiau y byddaf heb os yn eu cefnogi gant y cant:

  • Mae’n fwriad gennai symud ymlaen yn ôl troed y Maeri dwi’n cael yr anrhydedd o’u dilyn.
  • Fe hoffwn weld trigolion tref Pwllheli yn gwerthfawrogi a chefnogi ein busnesau lleol – ac yn sgil hynny yn denu mwy o fusnesau i’r dref
  • Annog pobol ifanc y dref i ystyried a mentro i fusnesau
  • Sicrhau fydd gan pobol ifanc y dref lais pendant yn ein cymdeithas
  • Cefnogi ‘digwyddiadau’ o fewn y dref, a ddaw heb os a’r trigolion at eu gilydd i’w mwynhau
    •  a hefyd yn eu sgil denu nifer luosog o Pen Llŷn a thu hwnt i’r dref hefyd.
  • Manteisio ar yr adnoddau sydd eisoes mewn bodolaeth – Neuadd Dwyfor (ar ei newydd wedd), Y Llyfrgell, Chwaraeon, fel Pêl-droed, Rygbi, Criced, Hwylio, Llwybrau Cyhoeddus a safleoedd hanesyddol) a llawer mwy
  • Gorymdaith Gŵyl Ddewi, Hwyl yr Ŵyl, Gŵyl Fwyd, Marchnadoedd cynnyrch lleol, Wythnos denu siopwyr i’r dref (i siopa a gwerthfawrogi addurniadau tymhorol) a llawer mwy..

Heb os mi rydw i’n edrych ymlaen yn arw i fy nhymor fel Maer Tref Pwllheli am y flwyddyn nesaf

Diolch yn fawr iawn ichi gyd cyd gynghorwyr am yr anrhydedd.    


Newyddion 2021