Yn galw rhieni a gofalwr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru!
Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisiau clywed eich barn am ofal plant yn eich ardal leol. Llenwch yr arolwg byr yma a chewch ddweud eich dweud heddiw.
Rydyn ni eisiau deall mwy am y gofal plant sydd ei angen arnoch, boed ar gyfer plant ifanc neu blant hŷn sydd angen gofal cyn neu ar ôl ysgol neu yn y gwyliau. Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich profiad o ddod o hyd i ofal plant addas gan y bydd hyn yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’r arolwg ar gael tan hanner nos ar 24 Hydref 2021