CORFF GWARCHOD IECHYD YN GOFYN I BOBL I SIARAD AM WASANAETHAU IECHYD MEDDWL

 CORFF GWARCHOD IECHYD YN GOFYN I BOBL I SIARAD AM WASANAETHAU IECHYD MEDDWL (pdf) - cliciwch yma


Mae corff gwarchod gwasanaethau iechyd annibynnol Gogledd Cymru - Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC) - yn awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiadau o Wasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru.
 
Bydd CICGC yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar Zoom yn gwahodd staff y GIG, cleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd i siarad am Wasanaethau Iechyd Meddwl.  Mae nifer dda wedi mynychu’r digwyddiadau hyd yma ac mae pobl yn falch bod CICGC wedi rhoi’r cyfle iddynt fynegi eu barn.


Bydd digwyddiadau pellach yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:


•       22 Chwefror 2021 – 1pm –  LGBTQ+ profiadau o ddefnyddio a chael mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru
•       22 Chwefror 2021 – 6pm – Mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl yn ystod y pandemig Covid-19
•       24 Chwefror 2021 – 6pm – Y gymuned Amaethyddol profiadau o ddefnyddio a chael mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru


Dywedodd Mr Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog CICGC “Mae hyn yn gyfle i bobl gael dweud eu dweud am ddyfodol gofal iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru.  Mae’n hanfodol ein bod yn cyflwyno profiadau ac awgrymiadau pawb sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a pholisïau”
Aeth Mr Ryall-Harvey ymlaen i ddweud “Rydym eisiau clywed gan gymaint â phosib am brofiadau o Wasanaethau Iechyd Meddwl ar draws Gogledd Cymru.  Bydd y digwyddiadau wedi eu strwythuro o amgylch nifer o agweddau megis canmoliaeth, pryderon a chwynion, cynllunio gofal, darparu gofal a chyfathrebu.  Rydym yn deall, ar rai adegau, mae’n well gan bobl rannu eu profiadau a ni yn gyfrinachol, a byddwn yn sicrhau bod man diogel i hwyluso trafodaethau o’r math”.
Os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ar y rhif ffôn canlynol: 01248 679284 (nodwch fod system peiriant ateb ar waith - gadewch neges os gwelwch yn dda a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad â chi) neu e-bost yourvoice@wales.nhs.uk
 
Mae modd i chi hefyd gofrestru eich presenoldeb ar ein ap SurveyMe drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol:


Survey - cliciwch yma
 

UK-E4AS-7EAE


 
NB Mae cofrestru ar sail cyntaf i’r felin, ond byddwn yn cynnal sesiynau ychwanegol yn ôl yr angen.


Newyddion 2021