PEIDIWCH Â BOD YN DDIODDEFWR
Mae achosion o ddwyn olew gwresogi a diesel fel arfer yn cynyddu pan fydd prisiau olew crai yn codi.
Mae prisiau tanwydd uwch yn aml yn arwain at gynnydd ym mhris olew gwresogi, sydd yn ei dro yn temtio lladron i dargedu tanciau tanwydd ar ffermydd, canolfannau cludiant ac eiddo domestig.
Darllenwch y cyngor canlynol a chymerwch gamau i leihau'r risg o ddioddef trosedd o’r fath.
LLEOLI EICH TANC OLEW
Efallai y byddwch yn meddwl ei bod yn syniad da cuddio’r tanc y tu ôl i sied, garej neu adeilad allanol, ond bydd hyn yn hwyluso pethau i leidr.Ystyriwch osod y tanc rywle ble gellir ei weld yn glir o un neu fwy o ffenestri yn y ty. Bydd hyn yn atal lladron posibl oherwydd y byddant ofn cael eu gweld yn mynd at y tanc.
CLOEON
Argymhellir eich bod yn cloi’r cap llenwi ac yn buddsoddi mewn clo clap o ansawdd da. Os yn bosibl dylech hefyd ddiogelu’r pibellau sy’n bwydo’r olew i’r ty.
TECLYNNAU MESUR LEFELAU OLEW
Mae teclynnau electronig ar gael erbyn hyn sy’n mesur lefel yr olew yn y tanc ac yn cychwyn larwm swnllyd os bydd y lefel yn disgyn yn sydyn. Gellir gosod y teclynnau hyn yn y gegin neu’r ystafell amlbwrpas i’ch rhybuddio o unrhyw broblem bosibl.
SWITSYS RHEOLI
Diffoddwch y switsys rheoli (sy’n rheoli llif yr olew) ac ynyswch y cyflenwad trydan pan nad yw'r tanc yn cael ei ddefnyddio.
GOLEUADAU DIOGELWCH
Gosodwch oleuadau diogelwch i oleuo’r ardal o amgylch y tanc gan fod y rhan fwyaf o droseddau’n digwydd gyda’r nos. Mae goleuadau diogelwch sy’n dod ymlaen oherwydd symudiadau’n effeithiol iawn o ran atal troseddwyr.
CCC
Gall system Camerau Cylch Cyfyng fod yn declyn atal a datgelu trosedd rhagorol. Gofalwch eich bod yn dewis system addas ar gyfer eich anghenion chi - ystyriwch y lleoliad, goleuo a gallu’r camera i weld yn y tywyllwch.
CYNGOR PELLACH
Siaradwch â’ch cyflewnwr ynglyn â’r posibilrwydd o gael cyflenwadau llai ond yn fwy aml. Gwnewch nodyn o rifau cofrestru unrhyw gerbydau amheus a riportiwch unrhyw unigolion amheus i’r heddlu.