Argraffu ym Mhwllheli Gan D.G. Lloyd Hughes

Argraffwyd llyfr am y tro cyntaf ym Mhwllheli yn y flwyddyn 1828. Cyn i hynny ddigwydd mae’n werth ystyried pa anawsterau yr oedd awduron yr ardal yn gorfod eu hwynebu i gael llyfr mewn print. Nid mater syml o gael cerbyd i’r dref agosaf oedd hi ond, am gyfnod hir, cael llong i Lundain. Medrai’r daith honno, yn dibynnu ar y tywydd, gymryd hyd at dair wythnos.

Henry Maurice y Piwritan oedd y cyntaf i wynebu’r broblem. Tra oedd hwnnw yn offeiriad ac yn ysgolfeistr yn y dref tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg, bu wrthi’n golygu cyfrol o farddoniaeth y Ficer Pritchard o Lanymddyfri. Yn Llundain yr argraffwyd honno yn 1659.

Hanner ffordd drwy’r ganrif nesaf, yn 1746 ac yn ystod berw cynnar y Diwygiad Methodistaidd yn yr ardal, cyfansoddodd William Roberts, clochydd Llannor, ei anterliwd, Ffrewyll y Methodistiaid. Ar draws y tir i’r Amwythig yr aed â honno i gael ei hargraffu. Nid siwrne foethus mewn coets oedd y daith honno yng nghanol y ddeunawfed ganrif.

Yn y flwyddyn 1801, ychydig dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach, roedd y bardd Sion Lleyn o Bwllheli yn trefnu’r argraffiad cyntaf o’i waith barddonol. Pum mlynedd cyn hynny sefydlwyd gwasg gyntaf Caernarfon. Dim ond ugain milltir i ffwrdd, ond doedd honno ddim yn ddigon cyfleus. Ar un olwg doedd pethau ddim wedi newid dim ar ôl cant a hanner o fynyddoedd, gan mai yn Llundain yr argraffwyd gwaith Sion Lleyn, ond roedd ganddo gyfaill yn y ddinas honno, yr alltud enwog o Bwllheli, Thomas Roberts, Llwynhudol, i drefnu pethau drosto. Dibynnai’r ddau, yn ddiau, yn drwm ar y llongau i gynnal yr ohebiaeth rhyngddynt.

Blwyddyn yn ddiweddarach, 1802, gwasg yng Nghaerfyrddin a argraffodd y gerdd nesaf o waith Sion Lleyn, a thros y môr, y mae’n debyg, y gwnaed y trefniadau hynny. Yn dilyn hynny dibynnodd Sion Lleyn ar weisg yn y gogledd, ac yn Nhrefriw y cyhoeddwyd dau lyfr o farddoniaeth yn 1815. John Jones oedd yn cynnal y wasg yn y fan honno, ond un o’i gydweithwyr oedd ei frawd, Robert Jones, a hwnnw a fu’n gyfrifol am sefydlu’r wasg gyntaf ym Mhwllheli.

Yng Nghonwy y dechreuodd Robert Jones ei yfra fel argraffwr ar ei liwt ei hun, ond symudodd i Bwllheli tua 1828. Mae’n werth ystyried pa beth a’i cymhellodd i symud oblegid wrth wneud hynny fe ddatguddir ychydig am natur y fasnach mewn tref gymharol fechan yn ystod hanner y ganrif. Sylweddolodd Robert Jones, ar ôl symud i Gonwy, nad oedd cynnal ei wasg ei hun yn fêl i gyd. Dysgodd, fel llawer iawn o fân argraffwyr Cymru, na allai gynhyrchu ar gyfartaledd lawer mwy na thua un llyfr y flwyddyn, ac ni chadwai hynny’r blaidd o’r drws. Roedd angen cymaint ag y gallai ei gael o waith argraffu arall arno. Argraffwyd pethau fel baledi a phosteri, ond edrychwyd hefyd am waith fel rhybuddion cyfreithiol a gorchmynion gweinyddol o bob math. Mae’n debyg y cadwai argraffwr siop, i werthu llyfrau, pob math o bapur, nid yn unig bapur ysgrifennu ond papur i addurno muriau tai hefyd. ac inc, penseli, pâst a glud. Rhyw grafu bywoliaeth a wnâi argraffwr gya’r holl amrywiaeth yna, ond os medrai gael swydd ar wahân gallasai fod ar ben ei ddigon. Yn ffodus iawn roedd swydd felly i’w chael ym Mhwllheli.

Roedd tipyn o fwrlwm yn nhre Pwllheli erbyn 1820au. Enillwyd llawer o dir o grafangau’r môr, a dynion ieuainc, o natur fentrus, yn brysur yn y lle. Y mwyaf blaenllaw ohonynt oedd y cyfreithiwr David Williams, gŵr a oedd am ddod yn dra enwog ddeugain mlynedd yn ddiweddarach fel y Rhyddfrydwr cyntaf i drechu’r Toriaid i ennill sedd aelod seneddol Sir Feirionnydd. Gwelodd David Williams ogoniant y llecyn sydd erbyn hyn wedi dod yn adnabyddus fel Porthmeirion cyn bod sôn am y pensaer Clough Williams Ellis. Symudodd yno i fyw, i dŷ – Bron Eryri – yn 1841 a newidiodd yr enw i Castell Deudraeth ar ôl gwario arian arno a’i droi’n gastellog.

Rhan o waith David Wiliams oedd bod yn ddirprwy siryf sir Gaernarfon, y math o swydd a chwenychai ar y pryd oherwydd y perthynai iddi lawer o dyletswyddau cyhoeddus, swydd a agorasai bob math ar ddrysau iddo. Cyflogai ddyn, y Sheriff’s Officer, i wneud llawer o’r mân waith drosto ac y mae Pigot’s Directory, 1828-29, yn dangos mai Robert Jones, argraffwr, oedd yn dal y swydd honno. Er mwyn sicrhau swydd y Sheriff’s Officer y symudodd Robert Jones i Bwllheli. Sut ddaeth David Williams a Robert Jones i gysylltiad â’i gilydd nid yw’n glir ond mi fuasai David Williams, gyda’i ddiddordeb ysol mewn codi statws y dref, wedi gweld y fantais o ddenu argraffwr i weithio yno.

Y wasg gyntaf a ddefnyddiodd Robert Jones ym Mhwllheli oedd yr hen wasg bren a brynwyd yn Nulyn tua 1732 gan Lewis Morris. Arni hi, yn Sir Fôn, yr argraffwyd y rhifyn cyntaf, yr unig rifyn, o’r cylchgrawn Cymraeg cyntaf, Tlysau yr Hen Oesoedd. Prynwyd y wasg bren gan ei daid, Dafydd Jones, a’i symud i Drefriw, ac yng nghwrs amser aeth y wasg i ganlyn Robert Jones i Bwllheli.

Argraffodd Robert Jones naw o lyfrau ym Mhwllheli, saith ohonynt ar y wasg bren a dau ar wasg Albion haearn a sicrhawyd ganddo yn 1832, pob un yn y categori moes a chrefydd. Cynnyrch gwahanol iawn i’w gynnyrch yng Nghonwy. Yno argraffodd lyfr ar hanes llofruddiaeth, catalog o lyfrau ar werth o lyfrgell arbennig a llyfr yn cynnwys meddyginiaethau teuluaidd. Digon o amrywiaeth.

Wrth gymharu testunau’r gwahanol lyfrau fel mater o chwaeth y ddwy ardal gallech feddwl fod Conwy a Phwllheli yn ddau le gwahanol iawn. Beth oedd i gyfri am hynny?

Rwy’n credu mai presenoldeb un gŵr, y Parchg. Michael Roberts, gweinidog Penmount, Capel y Methodistiaid, un o hoelion with y Cyfundeb, a oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am natur y cynnyrch o wasg Robert Jones ym Mhwllheli. Rhyw drigain mlynedd yn ôl oenodwyd gŵr o Bwllheli – Cynan – yn sensor dramâu cyntaf y wlad. Can mlynedd cyn hynny roedd Michael Roberts, heb ymyraeth unrhyw Arglwydd Ganghellor, wedi cymryd arno’i hun i wneud gwaith cyffelyb efo llyfrau. Dywedir fod y diwygiwr Howell Harris wedi cyflyru ei hun i beidio dangos gwên ar ei wyneb, ac mi gaf y teimlad fod yr hen Michael Roberts wedi bod yn was ffyddlon iddo.

Gellir dychmygu Michael Roberts yn rhoi ei law ar ysgwydd Robert Jones cyn i hwnnw gael cyfle i gael ei draed oddi tano, a hwyluswyd y ffordd iddo wneud hynny gan mai prif glerc swyddfa’r cyfreithiwr David Williams, lle treuliai Robert Jones ran o’i ddydd fel Sheriff’s Officer, oedd ei fab, John Roberts, gŵr uchel iawn ei barch yn y dref. Ychydig a wyddai Robert Jones, wrth roi ei drwyn am y tro cyntaf trwy ddrws y swyddfa honno, beth oedd o’i flaen.

Yn 1834 symudodd Robert Jones i Fangor ac mae’n debyg ei fod yn falch o ysgwyd llwch Pwllheli oddi ar ei draed oblegid wrth wneud cafodd ryddid i argraffu fel a fynnai. Ymhlith cynnurch ei wasg ym Mangor yr oedd Y Ffigaro, papur dwyieithog, a oedd yn cynnwys ysgrifau gwawdlyd am bersonau neilltuol a darluniau ohonynt, y papur Cymraeg cyntaf i fento i’r maes hwnnw. Wrth adael i’r Parchg. Michael Roberts ffrwyno rhyddid Robert Jones collodd Pwllheli gyfle i dorri tir newydd yn hanes argraffu ond, fel y gwelir nes ymlaen, ni bu’r hen le yn brin o sawl cyfle arall i wneud hynny.

Wedi ymadawiad Robert Jones cafwyd bron bedair blynedd ar ddeg heb argraffu llyfr sy’n werth sôn amdano ym Mhwllheli, ond y ma’n werth crybwyll enw Isaac Fransis Jones, argraffwr a fu yn ôl Llyfrau Trethi’r Tlodion, yn cynnal gwasg mewn tŷ yn Stryd Penlan sy’n dal ar ei draed ar y tro at festri Capel Penlan. Yr unig enghraifft o’i waith y gwyddys yn sicr amdano yw’r Cyfrif o Dderbyniadau a Thaliadau Tuag at Adeiladu Capel Penmount yn nechrau’r 1840au, sy’n ddiogel yng nghist y capel, ond y mae’n bosibl awgrymu un arall.

Ers sawl blwyddyn bellach y mae’n glir mai cangen o wasg I.F. Jones ym Machynlleth oedd y wasg ym Mhwllheli. Gwyddys am lyfrau a argrafwyd gan Jones yn ei bencadlys ond y mae’n debyg y defnyddid y wasg ym Mhwllheli i argraffu mân bethau at ofynion lleol.

Tua blwyddyn a hanner yn ôl bu boneddiges o’r Ariannin – ond nid o Batagonia – ym Mhwllheli yn dangos bil am nwyddau a brynwyd yn 1846 o siop Thomas Owen, fferyllydd, drygist a groser, yn y Stryd Fawr, Pwllheli. Mae’r bil yn dangos enw a chyfeiriad y masnachwr, llun eryr ar un ochr a llun ceffylau a buwch ar yr ochr arall ac y mae’n brawf fod un o siopwyr y dref yn defnyddio biliau a oedd wedi cael eu hargraffu yn barod cyn canol y ganrif ddiwethaf. Lle anghysbell iawn oedd Pwllheli yr adeg honno gyda dim ond gwasanaeth cerbyd y post unwaith y dydd i gysylltu’r lle â’r dref agosaf, Caernarfon.

Roedd yn bosib, gellir tybio, i sicrhau’r biliau pwrpasol hynny o weisg yng Nghaernarfon, Bangor, neu fannau eraill ond y tebygolrwydd yw fod gwasg Isaac Francis Jones yn medru eu cynhyrchu. Nid argraffwr lleol heb wybod dim am y byd tu hwnt i’w filltir sgwâr oedd Isaac Jones ond un a fu am gyfnod yn gweithio mewn gwasg fawr yn Llundain lle yr argraffwyd The Watchman, misolyn y Wesleaid, lle cafodd weld beth a ddarperid ar gyfer masnachdai’r brifddinas. Buasai wedi bod yn bosibl iddo brynu’r teip angenrheidiol, megis llun yr eryr a’r anifeiliaid ar gyfer argraffu’r biliau cyn dychwelyd i Gymru. Gellir ystyried, hefyd, y posibilrwydd fod rhai o gynhyrchwyr cyfarpar a gyfer argraffwyr yn Lloegr wedi body n hysbysebu yng Nghymru, fel y gwnaeth S. a T. Sharwood, Austin Letter Foundry, 120 Aldersgate Street, Llundain, yn Rhifyn 1 o Addysg Chambers a argraffwyd ym Mhwllheli yn Ionawr 1849.

Byddai’n ddiddorol cael llais un neu ragor o aelodau’r Gymdeithas sydd wedi ymddiddori yn yr agwedd hon o argraffu yng Nghymru er mwyn cael gwybod pa mor hen yw’r dystiolaeth fod biliau wedi cael eu hargraffu yn cael eu defnyddio gan siopau’r wlad. Nid wyf yn cofio gweld neb yn sôn am y peth yn Y Casglwr, a da fyddai cael gwybod a oes gwerth hanesyddol i’r bil o Bwllheli.

Tua diwedd 1847, neu'n gynnar yn 1848, fe aeth gwasg I. F. Jones ym Mhwllheli i ddwylo Robert Edwards ac y mae'n debyg y symudwyd hi i'r ochr arall o Stryd Penlan, rhyw ddau neu dri drws i'r gogledd o dafarn Penlan Fawr. Yn ystod y tair neu bedair blynedd y bu yno cyhoeddodd Edwards beth fyddwn i yn ei alw yn llyfr hynotaf o holl gynnyrch gweisg Pwllheli. Honno oedd y gyfrol gyntaf o Addysg Chambers i'r Bobl, cyfieithiad o'r gwaith Saesneg Chambers's Information for the People.

Ar wahân i Addysg Chambers dechreuodd Robert Edwards argraffu llyfr Owen Jones (Meudwy Môn) ar hanes Cymru hefyd, cyn rhoi'r gorau i'r cwbl tua dechrau 1852 a diflannu o olwg pawb. William Edwards oedd enw'r argraffwr a orffennodd y gwaith o gyhoeddi Hanes Cymru a gorfodwyd fi, oherwydd tebygrwydd y cyfenwau, i ystyried y posibilrwydd bod Robert a William Edwards yn berthnasau, hwyrach yn frodyr. I dorri'r stori'n fyr derbyniais yn y diwedd y tebygolrwydd mai argraffwr o Gaernarfon oedd William Edwards a ddenwyd i Bwllheli i roi tipyn o drefn ar wasg Robert Edwards ar ôl ei ymadawiad sydyn.

Yn 1855 aeth y Parchg. Hugh Hughes (Tegai) i Bwllheli i weithio gwasg Edwards. Wedyn fe'i prynodd. Mae'n ymddangos nad oedd gan Tegai ddiddordeb mewn cynhyrchu'r ail gyfrol o Addysg Chambers ac fe gymerwyd y cyfan drosodd gan Hugh Humphreys, Caernarfon, yn 1856.

Y pwysicaf o gyhoeddiadau Tegai ym Mhwllheli oedd Yr Eifion, newyddiadur wythnosol pris dimai cyntaf Cymru, a ddaeth allan yn Ionawr, 1856. Er na chyfaddefodd hynny y mae'n bosib mai meddwl am y gystadleuaeth o gyfeiriad Yr Herald Cymraeg a'r Amserau, dau bapur wythnosol Cymraeg a oedd eisoes yn cylchredeg yn yr ardal, yr oedd Tegai wrth benderfynu pris Yr Eifion.

Doedd pawb ddim yn cytuno ag ef. Teimlai llawer na chaent ddigon o newyddion mewn papur pris dimai, y byddai'n well ganddynt dalu ceiniog er mwyn cael papur mwy o faint. Daliodd Tegai ei dir i ddechrau ond, wedi pum mis, ildiodd ac o Fehefin 1856 ymlaen dyblwyd maint y papur, codwyd ei bris i geiniog a rhoddwyd enw newydd arno, Yr Arweinydd.

Yr hyn a ddaeth i'r golwg yn gynnar yng ngyrfa Yr Eifion oedd uchelgais mawr Tegai. Hoffai weld y papur yn datblygu'n gylchgrawn cenedlaethol amhleidiol, olynydd i'r Gwladgarwr, papur wythnosol poblogaidd o Gaer a Lerpwl a welodd ei ddiwedd yn 1841. Cynhwysai'r Gwladgarwr lawer o wybodaeth gyffredinol ac ym marn Tegai, a oedd hefyd am weld y papur yn cynnwys llenyddiaeth, roedd gwir angen cylchgrawn o'r fath.

Yn anffodus i freuddwydion Tegai roedd Y Gwyddoniadur wedi dechrau ymddangos mewn rhifynnau ers dwy flynedd, ac yn fuan wedi dechrau cyhoeddi Yr Eifion dechreuodd Hugh Humphreys, Caernarfon, gyhoeddi rhifynnau cyntaf ail gyfrol Addysg Chambers. O feddwl beth oedd y sefyllfa ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth gyffredinol cyn hynny yn y Gymraeg roedd mwy na digon ohono ar gyfer y cyhoedd yn 1856.

Llwyddodd Tegai i gario ymlaen tan 1859 pan benderfynodd, yn gryn golledwr gyda'i wasg, yn ôl Charles Ashton, ddychwelyd at y Weinidogaeth a derbyniodd alwad o Aberdâr. Gadawodd Yr Arweinydd yn nwylo ei fab, Henry Hughes, ac fe gadwodd ef y papur yn fyw am ychydig dros chwe mis cyn dilyn ei dad i Aberdâr.

Y nesaf yn y maes oedd Francis Evans, genedigol o Lanarmon yn Eifionydd, a oedd wedi dechrau ei yrfa fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr. Yn 1856 prynodd fusnes llyfrwerthwr a rhwymwr llyfrau yn y dref, ac yna, tua 1860, prynodd wasg Tegai. Ni ddysgodd Francis Evans y grefft o argraffu ei hun ond cyflogodd argraffwyr a dechreuodd gyhoeddi llyfrau yn 1862. Evans oedd y cyntaf o argraffwyr Pwllheli i gyhoeddi hanes un o gapeli'r ardal a chasgliad o gerddi bardd lleol.

Y casgliad — Byr Ganeuon gan Robert Griffith (Patrobas), Nefyn — oedd y cyntaf o'i gyhoeddiadau. Mae'r gyfrol yn cynnwys un gerdd hynod ddiddorol i bobl sydd â diddordeb yn yr hen ddulliau o adloniant yn yr ardal, cyn i law oer Methodistiaeth droi pawb yn drwynsur.

Ymddengys bod Francis Evans wedi rhoi'r gorau i weithio'r wasg yn 1871, oherwydd roedd argraffwr arall, Robert Owen, wedi dechrau cyhoeddi llyfrau ym Mhwllheli erbyn hynny.

Robert Owen oedd y cyntaf o argraffwyr a chyhoeddwyr y dref a oedd, cyn belled ag y medraf weld, yn enedigol o'r lle. Bu wrthi'n argraffu ym Mhwllheli am dros 17 o flynyddoedd, o 1871 hyd 1888. Fel Francis Evans fe gynhyrchodd un llyfr y flwyddyn ar gyfartaledd ond roedd cryn wahaniaeth rhwng cynnyrch y ddau. Llyfrau bychain 32 o dudalennau neu lai oedd bron pob un o gynnyrch Francis Evans ond roedd bron hanner rhai Robert Owen yn llyfrau mwy, efo pedwar ohonynt dros gant o dudalennau ac un yn cynnwys dau gant o dudalennau.

Yn 1875 argraffodd Robert Owen ddetholiad o Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1875. Hwn, y mae'n debygol, oedd yr enghraifft gynharaf o gyhoeddi detholiad o gyfansoddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol ac, fel y dywedodd Hywel Teifi Edwards mewn darlith am eisteddfodau cenedlaethol Pwllheli, fe fyddai'n ddiddorol pe gellid gwybod y nifer ohonynt a argraffwyd. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn bosibl ond fe welir copïau o'r gyfrol ar werth o hyd yn y siopau llyfrau ail-law.

Argraffwr mwyaf cynhyrchiol Pwllheli oedd Richard Jones, brodor o Foduan. Cynhaliwyd ei wasg ganddo ef a'i deulu am bron gan mlynedd. Er i un ffynhonnell honni mai gyda Francis Evans y dysgodd Jones ei grefft fe ddywed un arall mai yng ngweithdy Alltud Eifion yn Nhremadog y digwyddodd hynny. Beth bynnag am hynny, cafodd waith gan Robert Owen, ond yn 1876 agorodd ei fusnes ei hun, y Minerva Printing Works, yn 19 Stryd Fawr, Pwllheli.

Pan agorwyd hwnnw, felly, roedd gan Bwllheli, am y tro cyntaf yn ei hanes, ddwy wasg ar waith. Gwelwyd rhagor o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol ond adlewyrchai'r datblygiad gynnydd sylweddol hefyd yn yr amrywiaeth o waith a oedd ar gael i argraffwyr. Dechreuodd Richard Jones argraffu cerddoriaeth, hen nodiant a thonic sol-ffa, yn 1878, a gwnaeth hynny i gerddorion o bob rhan o Gymru ac yn eu plith yr enwog David Jenkins.

Wrth ddechrau gwneud hynny roedd Richard Jones yn datblygu'n rhywbeth amgenach nag argraffwr lleol ac, yn 1878, cafodd y gwaith o argraffu cyfrifon Coleg Annibynnol y Bala. Yn 1884 dechreuodd argraffu misolyn newydd, Cydymaith yr Ysgol Sul, ateb yr Annibynwyr i Trysorfa'r Plant y Methodistiaid. Parhaodd hwnnw am ryw bum mlynedd. Drwy'r Annibynwyr, mae'n debyg, sicrhaodd Richard Jones lawer o waith argraffu cyfieithiadau o dractau crefyddol.

Os oedd Richard Jones yn Annibynnwr mae'n debyg mai Methodist oedd Robert Owen. Pan gynhaliwyd Cymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli yn 1879 ef a gafodd y gwaith o argraffu'r rhaglen, nid Richard Jones yr Annibynnwr. Hwnnw oedd yr arwydd cyntaf bod enwadaeth yn dechrau gwthio'i drwyn i mewn i'r byd argraffu yn y dref.

Yn 1888 bu farw Robert Owen ac fe gymerodd Richard Jones y busnes yn 74 Stryd Fawr drosodd. Yn ystod yr un flwyddyn bu un Robert Roberts yn argraffu cyfrifon adeiladu eglwys newydd yn y dref, ond ymddengys nad oes enghraifft arall o'i waith. Yn 1889 agorodd Owen Humphreys, brodor o Gaernarfon, wasg yn y dref. Methodist oedd hwnnw, un a welodd gyfle i elwa i ryw raddau ar y gystadleuaeth rhwng yr enwadau yn y cylch. Serch hynny, ymddengys nad oedd pobl y wlad mor gaeth i enwadaeth â phobl y dref, ond y duedd oedd i Richard Jones yr Annibynnwr gael gwaith ei enwad ei hun a'r Bedyddwyr; i Owen Humphreys gael gwaith y Methodistiaid; ac i'r Eglwys aros yn ffyddlon i Richard Jones gan mai newydd-ddyfodiad oedd Owen Humphreys.

Dechreuodd y capeli, a oedd eisoes wedi bod wrthi'n cael argraffu testunau a rhaglenni eisteddfodol, roi rhagor o waith i'r argraffwyr trwy ddechrau'r ffasiwn o gyhoeddi adroddiadau blynyddol a gynhwysai'r rhestr aelodau a'u cyfraniadau. Capel Annibynwyr Penlan, gydag adroddiad 1891 gan Richard Jones, oedd y cyntaf a chapel Methodistiaid Penmount gydag adroddiad 1892 o wasg Humphreys oedd yr ail.

Cyhoeddiadau hynotaf Richard Jones oedd y ddau newyddiadur, Udgorn Rhyddid a'r Pwllheli Chronicle. Ymddangosodd y cyntaf yn 1888, yn bapur wythnosol a sefydlwyd gan Lloyd George i hyrwyddo ei ymgyrch seneddol. Argraffwyd 3,500 o gopïau yr wythnos gyntaf a 3,000 yr ail. Oherwydd bod llyfrau cyfrif wedi mynd ar goll ni wyddys beth ddigwyddodd wedyn tan 1893 pan argraffwyd 1,200 a bu hwnnw'n gynnyrch rheolaidd am dair i bedair blynedd. Newidiwyd yr enw yn 1898 i Yr Udgorn ac ymddangosodd yn rheolaidd bob wythnos tan ddiwedd ei oes yn 1952.

Yn 1889 daeth y papur Saesneg, Pwllheli Chronicle, allan i wasanaethu arfordir Bae Ceredigion o Lŷn i Feirionnydd ac ymddangosodd am bedair blynedd. Argraffwyd 500 o gopïau bob wythnos.

Yn 1899 yr oedd yr 'Inglis Côs', chwedl Emrys ap Iwan, yng nghapel y Methodistiaid Saesneg yn Ala Road, a oedd yn cael ei gadw ar ei draed trwy gefnogaeth Cymry Cymraeg, yn teimlo mor sicr o'i le, ac mor hyderus o'i ddyfodol, i anturio cyhoeddi newyddiadur misol, y Pwllheli Home Messenger, gyda Chymro yn olygydd. Richard Jones argraffodd yr archeb fisol o 250 o gopïau am y flwyddyn gyntaf.

Yn 1908 wele Seisnigeiddrwydd yn cael ei hybu drachefn yn y dref drwy gyhoeddi, yn ystod tymor gwyliau'r haf, y Pwllheli Chat. Y golygydd oedd Fred Young, rheolwr Ystâd Andrews ym Mhwllheli, ac yn frodor o dde Lloegr, a'r argraffwr oedd Richard Jones. Hyd y gwn, dim ond un rhifyn sydd yn bod. Piti garw am hynny oblegid buasai cael bwrw golwg ar gyfres ohonynt yn darparu tystiolaeth i anthropolegwyr y dyfodol a fyddai'n awgrymu nad oedd y fath beth â'r iaith Gymraeg yn bod mewn cyfnod pan oedd tua 95% o'r bobl yn y lle yn ei siarad. Mae gennyf gof plentyn o'r papur yn ystod yr 1920au ond, erbyn yr 1930au, newidiwyd yr enw i Pwllheli News. Os oes rhywun yn gwybod am becyn o'r Pwllheli Chat neu'r Pwllheli News byddai'n dda cael gwybod.

Bu farw Owen Humphreys yn 1899 ac fe'i dilynwyd gan W. Llywelyn Ellis, Methodist arall. Un arall o'r un enwad a ddechreuodd ym Mhwllheli tua'r un adeg oedd David Caradog Evans, un a wasanaethodd y Methodistiaid yn arbennig fel argraffwr am hanner canrif. Cyn hir roedd gan y dref bedair gwasg pan ddechreuodd William Hughes, Caxton House, Methodist arall, argraffu. Pedair gwasg lle nad oedd yr un ganrif ynghynt. Dyna gystal mesur â dim o'r cynnydd ym mhwysigrwydd argraffu yn y dref.

Parhaodd gwasg Richard Jones yn agored hyd farwolaeth ei fab, Chris Jones, yn 1972. Yn nechrau'r pumdegau cymerodd Herbert Thomas, Porthmadog, feddiant o argraffdy Caradog Evans. Roedd wedi cychwyn newyddiadur wythnosol, y South Caernarvonshire Leader, ac ef a gaeodd Yr Udgorn i lawr.

Cyn terfynu rhaid sôn am y gŵr nodedig a symudodd i Lanbedrog, rhyw gwta bedair milltir o Bwllheli, yn nechrau'r ganrif. J. Gwenogvryn Evans oedd hwnnw, un a wnaeth gyfraniad goleuedig i ysgolheictod Cymru trwy gyhoeddi cyfres o destunau Cymraeg. Mae'n syndod cyn lleied o sylw sydd wedi ei roi i Gwenogvryn. Sefydlodd wasg law yn ei gartref ond wrth enwi Pwllheli fel y man yr argraffwyd nifer o'r testunau cyntaf, ceir awgrym mai yn y dref y gorffennwyd y gwaith. Byddai'n naturiol i Gwenogvryn droi at argraffwr profiadol am gymorth a phwy ym Mhwllheli a oedd yn fwy profiadol na Richard Jones. Yn sicr yr oedd gan hwnnw fwy o adnoddau, ond yn anffodus ni wyddys yn union beth a ddigwyddodd.

Mae gen i gof am sgwrs a gefais, tua deugain mlynedd yn ôl, â Chris Jones, mab Richard Jones. Yr oedd hwnnw'n rhy ifanc i wybod o'i brofiad ei hun beth ddigwyddodd ond cofiaf ef yn dweud fod ei dad wedi gwneud rhyw waith i Gwenogvryn. Pe bawn wedi medru rhagweld fy nhynged eleni mae'n siŵr y byddwn wedi gwneud mwy o'r cyfle hwnnw!

Sylwedd darlith flynyddol Cymdeithas Y Casglwr ym Mhrifwyl Abergele 1995 [www.casglwr.org]. Gyda diolch am ganiatâd y Gymdeithas a meibion y darlithydd i gyhoeddi sylwedd y ddarlith.


Atgofion