Ceidwad y Prysgyll

Emyr Wyn Roberts

Derbyniodd tref PWLLHELI ei Siarter Gorffori gyntaf gan y Brenin Iorwerth, y Tywysog Du, a chadarnhawyd hynny’n ddiweddarach ym 1422 gan y Brenin Harri VI.

Mae’r arwyddnod wedi ei gyfyngu i’r Prisgyll (cadwyn y maer a bathodyn) a sêl fwrdeisdrefol goeth a diddorol.

Mae’r Prysgyll, yn rhyfeddol, ac yn wir o nodwedd unigryw, yn 41 a hanner modfedd o hyd. Mae’r ffon, sydd yn 34 a hanner modfedd o hyd, wedi ei thurnio o fahogani, gyda bandiau canolog yn ei rhannu’n ddau hyd, a bandiau ar ei phen a’i gwaelod. Mae pen y Prisgyll yn syml yn gwpan cariad wedi ei gorchuddio a dwy glust iddi. Nid yw’r Prisgyll felly yn ddim amgen na chwpan - nifer o fodfeddi o uchder - i yfed ohoni, ac wedi ei chysylltu - dros dro - fel arwydd o Awdurdod Bwrdeisdrefol i ben y ffon bren. Digwydd enghreifftiau heb fod yn anaml o Brisgyll tebyg y gellir newid y pen neu’r gwpan er mwyn ei defnyddio fel cwpan cariad, neu wedi ei gwneud yn y fath fodd fel y gellir newid y llestr i’w defnyddio yn yr un modd, ond ni wyddir am unrhyw enghraifft arall o gwpan gyda dwy glust iddi ac wedi ei gorchuddio y gellir yfed ohoni a wnaed yn arbennig ac addas, ar gyfer bwrdd cyhoeddus i fod yn arwydd o urddas ac awdurdod. Mae’r gwpan wedi ei gwneud o arian, ac o ffurf cain, gyda phennau geifr ar y mannau gafael ac ar un ochr yn dwyn y geiriau. In usum Laetitiae, ac ar yr ochr arall, Repeteta placebit. (‘Does dim dilysnod ar y ddogfen, and mae’n debygol o fod oddeutu 1750).

Mae’r sêl yn grwn ac yn fodfedd a thri chwarter ar draws. Mae’n cynnwys o fewn pigau anwastad addurniedig eliffant rhwng dwy goeden a chastell gyda thri tŵr ar ei gefn. O dan yr eliffant y mae tusw o wair. Mae’r pigau yn llawn o beli wedi eu haddurno, a’r sbandrelau gyda meillion.

Yr arysgrif yw:

* SIGILLUM : COMMUNITATIS : VILLE : DE : PORTHELY

(Mae’n debygol fod y dyddiad ar y sêl ddiddorol hon yn tua 1422).

(Mae mantell y Maer yn goch, a chroenflew drewgi o amgylych ei hymylon. Mae’r Maer hefyd yn gwisgo cadwyn ei swydd gyda chopi o sêl y fwrdeisdref wedi ei hatodi wrthi fel bathodyn).

Hen Neuadd Dref Pwllheli

Drwy law'r diweddar Glerc Cyngor tref Pwllheli Mr. Robin Hughes, daeth i’n llaw y nodiadau hyn (ond mai yn Saesneg y cawsant eu hysgrifennu):

Dyfyniadau o “Nodiadau ar Hanes a Thyfiant Pwlheli”

Adeiladau Cyhoeddus: Nid oes yn y dref unrhyw adeiladau Eglwysig, Dinesig na Bwrdeisdrefol o werth gwir hynafol nac o wir deilyngdod pensaernïol. Yr adeilad hynaf yw ‘Hen Neuadd y Dref a’r Farchnad,’ oedd yn cael eu hadnabod yn wreiddiol fel ‘Neuadd y Dref,’ y mae dyddiad ei hadeiladu yn 1818 mewn cyhoeddiad a ymddangosodd ym 1842 gan J. Hemingway dan yr enw ‘A Panorama of the Curiosities and Antiquities of North Wales,’ y mae’r canlynol yn ddyfyniad ohono:-

Y mae Neuadd Tref (Pwllheli), a godwyd ym 1818, yn adeilad twt a sylweddol, gyda’r rhan isaf ohono yn cael ei ddefnyddio fel marchnad a’r rhan uchaf yn cynnwys neuadd gyfarfod ardderchog lle cynhelir y Sesiynau.

Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd ym 1818 oedd fod yr Uchel Reithgor wedi cynnal archwiliad i gais y bwrdeiswyr am Neuadd Dref a Marchad yr oedd eu gwir angen ar gyfer gwerthu grawn a chig ar gyfer y cigyddion.”

Yn ôl adroddiadau sydd ar gael, penderfynwyd gwneud cais at Syr Thomas Mostyn, a oedd bryd hynny ac am sawl blwyddyn wedyn, yn Faer y Fwrdeisdref, am ddarn o dir a’i ddiddordeb yn y mater, ac yn ôl yr adroddiad, cafodd hynny ei ganiatάu ym 1819.

Yr oedd costau’r adeiladu i ddod “drwy gasgliadau a thanysgrifiadau.” Ond roedd y cyfanswm angenrheidiol yn fyr o £300, a llwyddwyd i’w dalu drwy godi morgais a fu’n faen melin am yddfau’r bwrdeisdrefwyr hyd ymhell i’r ganrif.

Gosodwyd cloch gyrffyw yn y groglofft gyferbyn â’r cyfarpar crwn yn y talcen sy’n wynebu Sgwar y Farchnad. Mae Adroddiadau’r Dref o’r cyfnod hwn yn cynnwys y datganiad yma:- “Fod J.J.Jones, Rhingyll y Brisgyll, i dderbyn tâl o 20/- y flwyddyn am ganu’r gloch am 6 o’r gloch y bore ac 8 o’r gloch yr hwyr gydol y flwyddyn, ac hefyd am weithredu fel Rhingyll y Brisgyll ac fel Cwnstabl.”

Cafodd darlun olew mawr o Syr.Thomas Mostyn, a oedd yn byw ym Mhlas Hen – y Talhenbont o gyfnod cynharach ac o ddyddiau diweddarach – ei gyflwyno i’r Gorfforaeth pan grewyd honno gan Ddeddf Corfforaeth 1835, a bu ar fur y brif neuadd am dros gan mlynedd. Tua 720 mlynedd yn ôl, cafodd ei roi ar fenthyg i’r Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd. Ym 1844, cafodd Syr Thomas wared â’i ddiddordebau lleol – y cyfan o Ystâd Plas Hen oedd yn cynnwys 8000 o erwau, mewn Arwerthiant yn Neuadd y Dref yn ystod Hydref 21 – 26 y flwyddyn honno.

Ymddengys mai Hen Neuadd y Dref oedd yr adeilad cyntaf i gael ei godi â cherrig o Garreg yr Imbill, er - fel y dangosir mewn man arall - cafodd y cerrig hynny eu defnyddio’n gynharach i adeiladu Pontydd Llanw’r Cob.

Byddai carcharorion, a fyddai’n aros eu prawf yn y Sesiwn Fach, eu cadw yn y celloedd swnllyd a oedd yn llawn o lygod mawr yn seler yr adeilad gyda ffordd i fynd iddo drwy fynedfa yn y cefn a gafodd wedyn ei chau ar gais y cyhoedd. Yn rhannol, anaddasrwydd y celloedd hynny a arweiniodd, rhyw 22 mlynedd yn dddiweddarach, i adeiladu carchar yn Stryd y Moch, gan roi i’r stryd honno ei henw Saesneg, Goal Street.

Ym 1847, pan sefydlwyd y Llysoedd Sirol, apeliodd y Trysorlys ar y Gorfforaeth am ddefnydd RHAD o’r Neuadd i gynnal y Llys, ond gwrthodwyd y cais, a chytunwyd ar rent o £12 y flwyddyn. Yn ddiweddarach, achwynnodd y Barnwr y dylai ffordd gefn gael ei pharatoi fel y gallai’r Barnwr ac ynadon y Dref a’r Sir gael mynedfa uniongychol i ystafell orffwys. Cafodd hynny ei ganiatau yn ystod 60au’r ganrif wedyn.

prysgyll

Atgofion