Yr Urdd ym Mhwllheli

Atgofion o adran yr Urdd yn Mhwllheli 1958 – 1982

Côr Adran yr Urdd ym Mhwllheli o dan 15 oed, 1976

Mae fy atgofion i am Adran yr Urdd ym Mhwllheli yn dechrau ym 1958, ond roedd yr Adran wedi ei sefydlu ym 1956. Y gweithwyr cyntaf oedd Mrs. Edith Edwards, Mrs. Mair Jenkins Jones, Mrs K. White, gyda Mrs Nansi Pugh yn ysgrifennydd, a Mr. Dafydd Lloyd Hughes yn drysorydd. Y llywyddion oedd y Fonesig Marian Gronwy Roberts a Mrs. Edwards, a’r arweinyddion oedd Mr. a Mrs. Emlyn Jones. Ychydig yn ddiweddarach, daeth Mrs. Nell Jones, Y Traeth, i helpu gyda’r plant a Mrs. Cadwaladr yn drysorydd. Roedd tua 120 o aelodau ar y dechrau.

Côr dan 12 oed Adran yr Urdd, Pwllheli, 1969

Gofynnwyd i mi ymuno ym 1958 gyda’r bwriad o sefydlu Côr Adran. Gwnes hynny gyda llawer o bleser. Mrs. Ogwen Williams oedd yn cyfeilio. Daethom yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1959 yn Llanbedr Pont Steffan, ac yn gyntaf yn Nolgellau ym 1960. Ar ôl hynny, buom yn cystadlu yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd bob blwyddyn - heblaw 1962 (pan anwyd fy merch) - hyd at Eisteddfod yr Urdd yn Llŷn ac Eifionydd ym Mhwllheli a gynhaliwyd ar dir Bodegroes ym 1982. Yn y cyfnod yma, bu, bu Mrs. G. Jones (anti Annie), a Mr. Eric Williams (Athro Cerdd Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli) yn gyfeilyddion. Daeth y corau a’r partïon canu yn gyntaf 22 o weithiau. Un Eisteddfod fythgofiadwy oedd honno yn Aberystwyth ym 1969, pan enillwyd y darian am weithgareddau llwyfan, gyda’r ddau gôr, y parti deulais a’r parti cyd-adrodd (wedi ei hyfforddi gan Miss. Beti Jones) i gyd yn gyntaf, a Marian Williams yn gyntaf ar yr unawd dan 12 oed. Enillwyd y darian chwe gwaith i gyd. Yn Abertawe, daeth y parti cerdd dant hefyd yn gyntaf, gyda Mrs. Iona Williams yn ei hyfforddi. Daeth Côr yr Adran hefyd yn fuddugol ddwywaith, sef yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cymru ym Mangor ac ym Mro Dwyfor. Bu llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd hefyd i’r dramâu a gafodd eu cyflwyno gan ficer Pwllheli, y Parchg.Hugh Pierce Jones, gŵr a dawn arbennig ganddo, ac a fu’n arweinydd a chyfaill i’r Adran hyd at ei farw sydyn ym 1978 ac yntau’n 62 mlwydd oed. Enillwyd gwobrau hefyd am Gelf a Chrefft, a death I tîm peldroed yn bencampwyr Eryri fwy nag unwaith.

Rhai o aelodau Urdd Pwllheli yng Nghaergybi, 1966

Roedd llawer o weithgareddau heblaw cystadlu, ac roedd llawer o hwyl yng nghyfarfodydd nos Wener yr Adran. Roedd llawer o’r aelodau yn cymryd rhan mewn cyngherddau a nosweithiau llawen, ac yn arbennig yn y gwasanaeth carolau blynyddol ar adeg y Nadolig a’r gwasanaeth ar Sul Ewyllys Da. Un o’r cyngherddau mwyaf nodedig i’r Côr oedd canu yn Llundain yn Neuadd Albert ym 1972 i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn 50 oed. Cofiaf hefyd y Côr yn canu yn seremoni ail-agor Ffynnon Felin Bach ym Mhwllheli fis Ebrill 1968, a chael tynnu llun o flaen Karina, cartref Mr. a Mrs. Jones, Bon Marche. Bu’r côr yn canu hefyd ym mhriodas merch yr Uwchgapten a Mrs. Richard Harden, Nanhoron, yn Eglwys Pwllheli. Ym 1971, buom yn gwneud record yn Festri Salem yn y dref, a byddaf yn dal i fwynhau gwrando ar y plant yn canu.

Aelodau Adran Urdd Pwllheli yn Aberystwyth ar y ffordd i Gaerfyrddin 1967

Ym 1971, cynhaliwyd Gŵyl Llŷn ac Eifionydd a bu llawer o frwdfrydedd yn yr ardal. Yr uchafbwynt oedd y rhaglen nodwedd, Y Môr a’r Glannau, a ysgrifennwyd gan y Cynghorydd Glyn Roberts –yn ystod ei dymor cyntaf fel Maer Pwllheli – ac a gynhyrchwyd gan y Parchg. Huw Pierce Jones. Bu gan holl adrannau’r cylch – yn ddawnswyr, llefarwyr a chantorion – eu rhan yn y digwyddiad.

Llwyddiant Adran Urdd Pwllheli, Aberystwyth 1969

Yn dilyn darllediad ar Radio Cymru un tro, cefais lythyr gan y Fonesig Edwards, ac ynddo mae’n dweud, “Teimlais fod yr Urdd ym Mhwllheli yn esiampl i holl Adrannau ac Aelwydydd yr Urdd trwy Gymru gyfan.” Dros y blynyddoedd, daeth llythyrau gan nifer o unigolion a chymdeithasau yn gwerthfawrogi gwaith yr Urdd ym Mhwllheli.

Seremoni Ail-Agor Ffynnon Felin Bach, Ebrill 1968 Côr yr Urdd o flaen Karina

Yn anffodus, mae popeth da yn dirwyn i ben rhyw dro, ac fe ddigwyddodd hynny i Adran Tref yr Urdd ym Mhwllheli. Credaf mai un o’r rhesymau am hyn oedd penderfyniad rheolwyr y mudiad i ganolbwyntio ar ysgolion, a phan sefydlwyd Adrannau o’r Urdd yn ysgolion Pwllheli, daeth dyddiau Adran y Dref o’r Urdd i ben. Mae’r athrawon yn gwneud gwaith ardderchog, ond teimlaf, serch hynny, ein bod wedi colli rhywbeth arbennig. Fe gofiaf gyda diolch am y gefnogaeth a gawsom gan bawb yn y dref - yn gynghorwyr, yn ffrindiau, ac yn enwedig, gan rieni’r plant. Bu’n rhan bwysig o’m bywyd i am dros chwarter canrif. Pan ddaeth yn amser i mi ymddeol, ysgrifennodd y Cynghorydd Glyn Roberts y penillion yma i mi fis Mai 1983. Go brin fy mod yn haeddu ei eiriau caredig, ond rwyf yn eu trysori.

Diolchwn am ymroddiad
Dros chwarter canrif faith,
Bu’n tywys plant Pwllheli
Ar hyd gerddorol daith:
Yn frwd, yn fwyn, yn graff, yn glen,
A’i chalon gynnes yn ei gŵen.

Rhoes fri ar gân a geiriau,
Dyrchafodd ddysg a dawn;
Bu’n ffyddlon i’w hegwyddor,
Bu’n byw y bywyd llawn.
Ei chanllaw fyth, fe wyddom ni,
Fu Cyd-ddyn, Crist a’n Cymru ni.
I’r plant bu’n llusern olau,
A’i chymwynasau’n fyrdd;
Rhoes fri ar dref Pwllheli,
Ac urddas ar yr Urdd,
Ac o Gaerdydd i Ynys Môn
Fe glywodd Cymru, do, ei thôn.

A heno, wrth ddweud “Diolch,”
Fe gofiwn lawer awr
Pan ganai côr Pwllheli
I fuddugoliaeth fawr.
A daw yn awr dros fryn a phant
Gyfarchion cynnes yr hen blant.

Elenna! Diolch eto,
Fe gofiwn geinder glân
Y plant fu dan eich gofal.
A chofiwn, gwnawn, y gân
Hir oes a bendith fo i chwi,
Dyna yn awr, ein dymuniadau ni.

Ar y ffordd i Aberdâr, 1961

Mrs. Cadwaladr, Mrs. Annie J. Jones (Bronygarth), Mrs. Jones (Y Traeth), Mrs. Roberts, Mrs. Ifan Pugh, Mrs. Dafydd Ogwen Williams (cyfeilydd)

Y cynhyrchydd Huw Pierce Jones gyda'r awdur Glyn Roberts

Te i’r plant yn Y Clogwyn, cartref Mr. a Mrs. J.Pollecoff Adrannau’r Urdd Pwllheli a Llangybi

Eisteddfod Porthmadog 1964

Rhes gefn: Iorwen Jones, Pat Foreman, Linda Evans, Glenda Foreman, Rhian , Heulwen Hughes, Rhian Jones
Rhes ganol: Glenys Williams, Gwen Jones, Mair Jones, William Lloyd Jones, Emyr Evans, Ieuan Williams, Arwyn Evans, Dei Ellis, Mervyn Evans, Pamela Hughes
Rhes flaen: Margaret Ward-Jones, Nerys , Emily Murray Williams, Eirian Evans, Gwenda Grffith, Glenda Roberts, Davine Evans
Cyfeilydd: Eric Lloyd Williams. Arweinydd: Elenna Hughes

Côr yr Urdd Pwllheli o dan 12 oed, 1976

Rhes gefn: Gwenan Parry, Iona Jones, Siân Buckley, Pamela A. Davies, Dyddgu Williams, Fiona Giraud, Siwan Meirion
Rhes ganol: Bryn Williams, Carol Pritchard, Bethan Parry, Sioned Evans, Catrin W. Williams, Jane E. Jones, Manon Evans, Rhian Jones, Anne Roberts
Rhes flaen: Nia Hughes, Sera Clark, Iona Williams, Nia Llewelyn Jones, Elenna Hughes, Delyth Haf Williams, Carys Hughes, Dewi Hughes, Meirion Williams

Y llun ar glawr record Côr Adran Urdd Pwllheli, 1972


Atgofion