Eglwys Babyddol - Eglwys Sant Joseff

Cyfeiriad: Ffordd Mela, Pwllheli, Gwynedd LL53 5AP Ffôn: 01758 612331 “Os bu encilio o’r eglwysi a’r capeli, ymddengys y bu cynnydd yn nifer addolwyr Eglwys Rhufain yn y dref, a chodwyd eglwys fwy ar eu cyfer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ychydig dros gan mlynedd yn ôl, gellid cyfrif nifer y Catholigion ym Mhwllheli ar fysedd un llaw ac nid oedd unrhyw wasanaethau ffurfiol ar eu cyfer.” Felly yr ysgrifennodd Dafydd Lloyd Hughes am Gatholigion y dref yn Hanes Eglwys Pwllheli ym 1987. Teg gofyn, felly, pa bryd y dechreuodd Eglwys Rhufain ei gwaith a’i thystiolaeth yn nhref Pwllheli? Pa ddatblygiadau a arweiniodd at hynny? Mae lle i gredu, yn ôl tystiolaeth rhai o Gatholigion y dref heddiw, fod rhai lleianod wedi dod i Bwllheli gan sefydlu Cwfent ym Mhlas Tanrallt. Pryd a sut y bu hynny, nid yw’n eglur. Amhosibl oedd i unrhyw Babydd arddel ei grefydd yn agored yn yr ardal am gyfnod maith ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Yn wir, mor gynnar â 1828, bu Corfforaeth Pwllheli’n casglu enwau ar ddeiseb i’w hanfon i’r Senedd i roi mynegiant i wrthwynebiad y trigolion i lacio dim ar y llyffetheiriau a’r gwaharddiadau a fodolai ar weithgreddau‘r Catholigion.

Doedd, mae’n debyg, ond tri Phabydd yn byw yn nhref Phwllheli ym 1860. Dechreuodd offeiriaid o Gaernarfon gynnal Offeren yn nhai rhai o’r ffyddloniaid, ac erbyn 1879, roedd rhyw ddwsin o deuluoedd ym Mhwllheli yn arddel y ffydd Gatholig.

Trefnodd un Mrs. Richardson, gweddw Henry Richardson – dyfeisiwr cychod achub – i godi capel bach o haearn rhychiog ar y lawnt o flaen ei chartref. Gan mai Brynhyfryd, dros y ffordd i Orsaf Betrol Glan-y-Don heddiw, ei hen gartref oedd hwnnw, hawdd tybio y byddai William Jones – yr adeiladwr llongau a gwrthwynebydd pybyr Catholigiaeth – wedi troi yn ei fedd pe gwyddai. Cafodd y gwasanaeth cyntaf ei gynnal yn y capel hwnnw ar ddydd Nadolig 1879. Cafodd ei gysegru yn enw Sant Joseff. Tua 1882, symudwyd y capel i North Villa, Pentrepoeth (nid nepell o leoliad Bro Cynan heddiw).

Fel y datblygai rhannau o Ogledd Cymru, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y Catholigion, a deuai ymwelwyr yn eu tro i ychwanegu fwyfwy at y niferoedd hynny. Gwelwyd hynny’n digwydd mewn cenadaethau Catholig mewn mannau fel Y Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn ac ar Ynys Môn. Yng ngofal y gweithgawch hwnnw yr oedd y Prelad Francis Edward Joseph Mostyn, brodor o Dalacre, Sir Fflint, a ddyrchafwyd ym 1921 yn Archesgob Pabyddol Caerdydd. Bu ef farw yn ym 1939, yn 79 mlwydd oed, wedi bod yn Archesgob am ddeunaw mlynedd. Ymfwriodd ef i’r gwaith o sefydlu rhagor o ganolfannau cenhadol Catholig yn y Gymru Gymraeg. Fel Cymro Cymraeg, gwyddai'r Archesgob Mostyn fod cyswllt agos rhwng yr iaith Gymraeg a'r iaith Lydaweg ac mai gorchwyl rwydd a fyddai i offeiriaid o Lydaw ddysgu'r Gymraeg. Ei ymgais bwysig gyntaf oedd defnyddio cenhadon o Lydaw ac o Goleg y Santes Fair yn Nhreffynnon.

Gwnaed y genhadaeth Lydewig yn bosibl drwy haelioni Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent (1802 – 96), a dau noddwr arall.

Glaniodd y Tad Petr Merour a'r Tad Yann Trebaol yng Nghaergybi ar Awst 28, 1900. Ymhen pymtheg mis wedyn, sef Rhagfyr 1, 1901, ymsefydlodd y Tad Trebaol yn Llanrwst, lle gwyddid fod un Pabydd yn byw. Y flwyddyn wedyn, aeth y Tad Merour i fro’r chwareli llechi i Flaenau Ffestiniog - ardal gwbl Gymraeg ei hiaith bryd hynny. Doedd dim croeso iddo yn y Blaenau, a chymaint oedd yr elyniaeth tuag ato fel y symudodd i Bwllheli ym 1903. Roedd yr eglwys Babyddol ym Mhwllheli, a godwyd ym 1879, wedi bod heb offeiriad ers deng mlynedd. Dichon fod gan weithgarwch y diweddar Dad Henry Bailey Maria Hughes yn yr ardal (gweler isod) lawer i'w wneud â'r diffyg gwrthwynebiad i Babyddiaeth ym Mhwllheli bryd hynny, gan fod gan y Tad Henry amryw o berthnasau yn yr ardal.

Wedi cyrraedd Pwllheli ym 1903, sefydlodd y Tad Petr Menour, o Lydaw, ei genhadaeth, ac ymhen blwyddyn wedyn dilynwyd ef gan ragor o offeiriaid a lleianod. Ar y cyntaf, profodd y genhadaeth o Lydaw ym Mhwllheli yn gryn lwyddiant. Deuai Catholigion a oedd heb fynychu’r Offeren ers blynyddoedd yn ôl i wneud hynny. Deuai plant i Gatholigion a oedd wedi dechrau mynychu capeli ac Ysgolion Sul y Protestaniaid yn ôl i’r eglwys fel Catholigion unwaith yn rhagor. Dechreuodd y Cymry eu hunain fynychu oedfa’r hwyr yn Eglwys Sant Joseff mewn cryn niferoedd, a chael eu hatdynnu gan newydd-deb y gwanaethau, y defodau Catholig gwahanol, a chan bregethu Cymraeg huawdl a grymus y Tad Petr Merour, 0.M.I. Ar hwyrddydd Nadolig, roedd yr eglwys fechan yn orlawn o Gymry, a llawer, wrth ymadael, yn datgan eu hyfrydwch a’u boddhad o gael ymuno yn y gwasanaeth. Doedd popeth, serch hynny, ddim yn berffaith. Roedd un nodyn amhersain – amryw yn wir – a hynny’n dod o’r harmoniwm hen nad oedd modd ei hatgyweirio. Roedd y Tadau o Lydaw yn rhy dlawd i allu pwrcasu un newydd, a’u gobaith oedd y deuai rhywun hael a charedig i brynu un iddynt fel y gallai’r côr yn Eglwys Babyddol Pwllheli fod yn deilwng o foliant gwlad y gân.

Cyfuniad o Ladin a Chymraeg oedd yr iaith yng ngwasanaethau’r Tad Menour. Ac ni newidiai’r drefn pe bai’r capel yn llawn o ymwelwyr di-Gymraeg! Gwnaeth y Tadau hyn o Lydaw waith arloesol a defnyddiol ymysg y Cymry hyd oni chawsant eu galw’n ôl i Lydaw pan dorrodd y Rhyfel Mawr ym 1914. Daeth cenhadaeth Llanrwst i ben, gan ddibynnu wedyn ar y genhadaeth a gawsai ei sefydlu yn Nhrefriw gerllaw. Bu ffyniant graddol ar y genhadaeth Babyddol ym Mhwllheli – yn rhannol ar gyfrif yr ymwelwyr a ddeuai i’r fro – i fannau fel Nefyn, Aber-soch, Cricieth a Borth-y-gest. Ym 1928, gwelwyd agor eglwys newydd ym Mhwllheli.

Ym 1910, yr oedd y Tad Trebaol wedi dechrau cyhoeddi cylchgrawn plwyf pedair tudalen a’i alw’n Gennad Catholig Cymru. O fewn blwyddyn, roedd y cylchgrawn hwnnw wedi cynyddu i 16 tudalen, a chylchrediad iddo dros Ogledd Cymru gyfan. Cai’r cylchgrawn unigryw hwnnw ei argraffu mewn Cymraeg a Saesneg, ac ambell waith roedd ynddo gyfraniadau mewn Llydaweg a Chernyweg hefyd. Defosiynol oedd ei brif nodwedd, er fod ynddo erthyglau hanesyddol a rhai a oedd yn ymgais i ledaenu’r ffydd Babyddol. Dod i ben wnaeth y cyhoeddiad hwnnw pan fu’n rhaid i’w olygydd adael Cymru a ddychwelyd i Lydaw.

Yn ystod yr 13 mlynedd a dreuliodd yn Llanrwst, llwyddodd y Tad Trebaol i gynyddu ei braidd yno o 1 i 120. Prin, serch hynny, y gellid dweud fod y genhadaeth o Lydaw i Ogledd Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dichon mai un rheswm am y methiant oedd anallu’r cenhadon i ddeall Protestaniaeth ac i amgyffred meddylfryd crefyddol y Cymry. Roedd y ddau Dad Pabyddol o Lydaw yn gallu siarad y Gymraeg yn rhugl, ac roedd eu cydymdeimlad yn amlwg tuag at eu cefndryd Cymraeg; ond doedd y gallu i siarad Cymraeg ynddo’i hun ddim yn ddigon. Serch hynny, y mae’n rhaid cydnabod fod y ddau’n dra phoblogaidd ymysg y Cymry, a chlywyd Protestaniaid Cymraeg hyd yn oed yn llefaru’n edmygol iawn am y Tad Trebaol.

Cyfeiriwyd eisoes uchod at y Prelad Francis Mostyn. Yr oedd wedi bod yn freuddwyd ganddo ers blynyddoedd i weld sefydlu coleg ar gyfer gwŷr ifainc a oedd a’u bryd ar fod yn offeiriaid Pabyddol, a lle byddai anghenion arbennig pobl Cymru’n cael eu hystyried, eu cydnabod a’u parchu. Llwyddodd y Prelad Mostyn i wireddu ei freuddwyd drwy haelioni a charedigrwydd mawr un wraig arbennig. Yr oedd dau deulu Catholig nodedig a phwysig yn byw yn y gymdogaeth: teulu’r Graingers a theulu’r Parry – y naill a’r llall o Sir Ddinbych. Rhoddwyd maen coffa yn eglwys Treffynnon i Mary Anne Parry, gweddw Charles Sankey. Hi oedd disgynnydd olaf teulu’r Parry, un o’r teuluoedd a gadwodd y ffydd Babyddol drwy erledigethau blin yr 16eg a’r 17eg ganrif. Ganwyd Mrs. Sankey ym 1791 a bu farw ym 1881, a chysylltir enw’i phriod â dechreuadau’r eglwys Babyddol fodern yn nhref Dinbych. Rhoes eu merch, Miss. Sankey, o Ddinbych, i’r Eglwys Babyddol ystad o 70 erw o dir a elwid Y Fron, yn Nhreffynnon. Yno roedd tŷ mawr a fuasai unwaith yn Ariandy Treffynnon. Buasai’r adeilad hwnnw am gyfnod ym meddiant lleianod a oedd wedi ffoi o Ffrainc – lleiandod Chwiorydd y Cymun Sanctaidd – a oedd wedi cael eu halltudio o Bernay, dinas yng ngogledd Ffrainc, ym 1903. Doedd yr adeilad ddim yn y cyflwr gorau pan fu iddyn nhw ei adael a symud i’w cartref newydd yn Sir Fynwy.

Pan ddaeth yn adeg i benodi prifathro i’r coleg newydd, gwahoddwyd y Parchg. Paul Edward Hook, offeiriad Castellnedd, a oedd yn berson cymwys iawn i ymgymryd â’r gwaith. Cawsai’r Tad Hook ei eni ym 1872 yn Henffordd yn fab i rieni Saesneg – er yr honnai fod gan ei nain waed Cymraeg – a’i uchelgais fawr oedd gweld troi’r Cymry i’r ffydd Babyddol. Roedd ganddo ddawn arbennig i adnabod tafodieithoedd gwahanol, a gwnaeth ymdrech lew i feistroli’r Gymraeg gan ymddiddori yn llenyddiaeth genedlaethol Cymru, ei harchaeoleg a’i hanes. Yr oedd yn gyfaill i amryw o ysgolheigion Cymraeg blaenllaw, ac yn arbennig felly i’r bardd, yr ysgolhaig a’r beirniad llenyddol, yr Athro T. Gwynn Jones.

Yr oedd y Tad Hook wedi dechrau ei fywyd fel newyddiadurwr gyda’r Hereford Times, ond gadawodd y swydd honno a mynd i Ysgol Uwchradd Sant Joseff yng Nghaerdydd, cyn mynd oddi yno i goleg yn Rhufain. Ar gyfrif cyflwr ei iechyd, gorfodwyd ef i ddychwelyd adref. Cwblhaodd ei astudiaethau diwinyddol yn Leominster cyn cael ei urddo’n offeiriad ym 1897. Treuliodd gyfnod yng Nghaerdydd ac yn Llanarth cyn cael ei benodi i Gastellnedd. Yno bu’n gyfrwng i sefydlu ysgolion newydd ar gyfer cenhadaeth. Yn dilyn cael ei wneud yn brifathro’r coleg yn Nhreffynnon, a phenodi cynorthwydd iddo yno – cynorthwydd oedd hefyd yn hyddysg yn y Gymraqeg – ymroes y ddau i addasu’r tŷ yn y Fron yn Nhreffynnon yn ysgol. Agorwyd Coleg y Santes Fair, Treffynnon, yn ffurfiol ym mis Hydref 1904 gydag ychydig llai na deuddeg o fyfyrwyr. Amcan y cyfan oedd sefydlu semiari iau lle byddai’r myfyrwyr ar gyfer y genhadaeth Gymraeg yn cael eu trwytho yn yr iaith Gymraeg.

Ond i ddychwelyd i Bwllheli. Yn dilyn ymadawiad y Tadau ymroddedig o Lydaw, gadawyd y gwaith ym Mhwllheli, fel mewn rhannau eraill o Ogledd Cymru, mewn sefyllfa ddigon anodd. Yn gymaint felly wir, fel y bu i’r Esgob Mostyn ystyried o ddifrif y byddai’n dirwyn i ben waith yr Eglwys Babyddol ym Mhwllheli. Ni ddigwyddodd hynny. Yn hytrach, ym 1925, penododd yr Esgob Mostyn gurad ifanc o Landudno i ddod yn offeiriad i Bwllheli gan ofalu am y wlad o Benrhyn Llŷn hyd at droed yr Wyddfa ac ymestyn o’r tu hwnt i Flaenau Ffestiniog. Yr offeiriad hwnnw oedd y Tad Leopold Cunningham, y cawn sôn amdano yn nes ymlaen.

Cafodd yr ychydig Gatholigion Cymreig a oedd yng nghymdogaeth Pwllheli yr hyfrydwch mawr o glywed yr Offeren yn cael ei gweinyddu eu hiaith eu hunain am ysbaid fer gan y Tad Henry Bailey Maria Hughes.

Cafodd Henry Bailey Hughes (1833 - 1887) ei eni yng Nghaernarfon. Yr oedd gan ei dad, y Parchg. Howell Hughes, M.A., a’i briod, Charlotte, ddau fab. Roedd teulu’r tad - teulu’r Huwsiaid - yn un o hen deuluoedd y sir: teulu a fu’n byw am flynyddoedd yn Llwyn Panddu, a Chochwillan, ym mhlwyf Llanllechid, ger Bangor. Gwyddeles oedd ei fam, a merch Mr. Cope Garnett, ac yn dod yn dod o Swydd Meath, yn Iwerddon. Roedd Howell Hughes, y tad, ar y pryd, yn gurad gyda’r Anglicaniaid yng Nghaernarfon. Symudodd oddi yno i fod yn Rheithor Trefriw o 1833 hyd 1839, ac wedyn yn Rheithor Rhoscolyn, ger Caergybi, Ynys Môn, rhwng 1839 ac 1847. Bedyddiwyd un o’r meibion yn Henry Bailey, ond yn ddiweddarach, dewisodd ef y byddai’n ychwanegu ‘Maria’ at ei enw hefyd.

Bu Charlotte, y fam, farw’n ifanc ym 1845, a’r tad hefyd ym 1847, pan nad oedd Henry a’i frawd ond yn fechgyn ifanc, a bu dau o frodyr ei dad – y Parchg. Thomas Hughes, a oedd yn Weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, a’i frawd a oedd yn flaenor gyda’r un enwad, yn gofalu am gyfnod am y ddau fachgen – Henry a’i frawd. Ar ei dystiolaeth ei hun mewn llythyr, bu Henry’n fachgen drwg iawn yr adeg honno yn dilyn colli ei rieni, a bu hynny’n gryn ofid a phryder i’w ewyrth.

Ym 1850, fodd bynnag, ac yntau erbyn hynny’n ddwy ar bymtheg oed, bu newid llwyr yn agwedd ac yn ymddygiad Henry. O dan ddylanwad ei gartref newydd, bid siwr, dechreuodd ddarllen yn helaeth, a daeth gweddi a’r byd ysbrydol yn bwysig yn ei olwg. Ac yntau rhyw ddiwrnod ar daith mewn tren, digwyddodd gyfarfod â’r Parchg. Edward Kenrick, offeiriad yn yr Eglwys Babyddol yn Lerpwl, a daeth y ddau’n gyfeillion mawr. Bu cryn drafod a chyfnewid meddyliau rhyngddyn nhw. Ymhen ysbaid, trodd Henry at yr Eglwys Gatholig, a rhoes ei fryd ar gael bod yn offeiriad.

Er mwyn cymhwyso’i hun i fod yn offeiriad Pabyddol, mae’r Tad Henry Hughes yn adrodd yn un o’i lythyrau fel y bu iddo fynychu Ysgol Prior Park, yng Nghaerfaddon. Yn yr un llythyr hefyd, mae’n cydnabod ei ddyled i’r rhai a fu’n gyn-athrawon iddo yn Rhoscolyn, Ynys Môn, lle’r oedd ei dad yn Rheithor. Mae’n cydnabod hefyd ei ddyled fawr i’w ewyrth, y Parchg. John Hughes, prifathro Ysgol Botwnnog, Llŷn.

Wedi pum mlynedd yng Nghaerfaddon, aeth Henry i Brifysgol Llundain. Ar gyfrif cyflwr ei iechyd yno, fodd bynnag, cafodd ei gynghori i fynd i ran o’r byd lle byddai’r hinsawdd yn fwynach. A dyna sut y cafodd ei hun yn y Coleg Diwinyddol Saesneg yn Lisbon – Coleg a oedd yn perthyn i Urdd y Dominiciaid.
Ymhen amser, - ym 1858 - cafodd ei ordeinio’n offeiriad a dechreuodd ar yrfa ryfeddol o ddisglair fel Athro Coleg a phregethwr.

Roedd y Tad Henry Hughes bellach yn perthyn i Urdd Sant Dominig. Urdd o bregethwyr oedd honno a oedd yn gwrthsefyll heresiau. Yn Lladin, gelwir hwy’n Ordo Praedicatorum, y daw’r talfyriad OP ohono. Urdd Gatholig yw honno a sefydlwyd gan Sant Dominig yn Ffrainc, ac a gymerdwywyd gan y Pab Honorius III ym 1216. Yn rhai gwledydd, gelwir urdd y Dominiciaid yn urdd y Brodyr Duon, ar gyfrif lliw eu clogynau.

Yn ystod y rhan hon o’i yrfa, adroddir i’r Tad Hughes sefyll yn gadarn yn erbyn ordeinio rhyw ymgeisydd am yr offeiriadaeth drwy ddatgan yn gyhoeddus ei wrthwynebiad am na chredai ei fod yn ymgeisydd cymwys i’r gwaith. Yn sgil hynny, gwnaeth elynion iddo’i hun, a chan fod ei fywyd mewn perygl, aeth i ymguddio ymysg cymuned forwrol dinas Lisbon, gan ymroi’n egniol er ei hiachawdwriaeth, a chael ei garu a’i edmygu’n fawr gan y bobl y bu’n ymguddio yn eu plith.

Wedi ei fagu mewn cartref dwyieithog yng Ngogledd Cymru, buan y gwybu’r Tad Henry Hughes fod ganddo ddawn arbennig i feistroli ieithoedd. Bu’n pregethu yn Sbaen, Portiwgal, Gwlad Belg a’r Eidal. Gwnaeth ei brofiad eang a’i feistrolaeth ar ieithoedd – gallai bregethu a siarad mewn deuddeg iaith wahanol – ef yn ffigwr amlwg fel cyfieithydd yng Nghyngor y Fatican yn Rhufain. Cafodd ei ddewis i bregethu o flaen yr esgobion a’r preladiaid yng Nghyngor y Fatican yn y ddinas honno.

Treuliodd chwe mis yn Affrica yn cenhadu yn Abandu, lle bu’n dysgu a chyfarwyddo’r brodorion yn eu hiaith eu hunain. Yr oedd ar fin cael ei ddyrchafu’n esgob pan dorrodd ei iechyd, a chafodd ei benodi i ofalu am y gymuned Bortiwgeaidd yn Boston, Unol Daleithiau’r America. Yno cafodd gyfleoedd mawr ac eang. Bu’n gweithio ymysg yr Indiaid Cochion, gan lwyddo i feistroli eu hiaith a byw a chysgu fel hwythau yn yr awyr agored, ac ambell dro mewn wigwam. Nid arbedodd ddim arno’i hun ond wynebu pob caledi yn ei ymgais lew i achub eneidiau. Sefydlodd ysgolion cwfaint yng Nghanada ac yn Ne America hefyd.

Yr oedd calon y Tad Henry Hughes, fodd bynnag, ym mro ei febyd yng Ngogledd Cymru. Teimlai’n angerddol dros ei bobl adref a gwelai hwy fel praidd heb fod bugail ganddynt. Yn ystod ei gyfnod yn Esgobaeth Providence yn Boston, penderfynodd mai dychwelyd i Gymru a wnai. Ym mis Ebrill 1885, derbyniodd wahoddiad gan Esgob Pabyddol Gogledd Cymru ar y pryd - yr Esgob Knight - i ddod i weithio i Ogledd Cymru, a derbyniodd y gwahoddiad hwnnw’n llawen. Galwodd y gwaith y byddai’n ei gyflawni’n ‘Genhadaeth i Gymry Gogledd Cymru.’

Wedi dychwelyd i Gymru, ymroes Y Tad Henry Hughes ar unwaith i chwilio am fan i godi mynachlog arno, a thrwy haelioni rhai cyfeillion - gwraig hael o Babyddes nad oedd am gael ei henwi, ac Assherton Smith, o’r Faenol – perchenog yr ynys ar y pryd - llwyddodd i brynu ynys fechan Sant Tudwal Ddwyreiniol, a’i 26 erw o dir, oddi ar arfordir deheuol Penrhyn Llŷn am y swm o £300 (er bod yr ynys yn werth dwywaith y swm hwnnw ar y pryd). Roedd yno dir ffrwythlon heb fod neb yn byw yno, rhyw dair milltir o’r tir mawr yn Aber-soch, y pentref agosaf. Cododd yno babell i fyw ynddi, a phabell fwy i’w defnyddio dros dro fel eglwys. Yn fuan wedyn, cododd adeilad o dywyrch a haearn rhychiog yn do, gyda help y ddau ifanc a ddaethai gydag ef o America ac offeiriad o’r Iwerddon a oedd wedi ymuno ag ef.

Bu’r Tad Hughes yn pregethu yn Gymraeg bob dydd Sul yn Aber-soch, ac ar nosweithiau Iau a nosweithiau Sul ar dro Mhwllheli, y dref agosaf, gyda chaniatâd pennaeth y genhadaeth yno. Rhoddwyd iddo groeso cynnes ym Mhwllheli, lle’r oedd eisoes genhadaeth Gatholig wedi cael ei sefydlu. Yn Aber-soch, fodd bynnag, prin oedd y cynulliadau – dim rhagor na dau neu dri – a chafodd wrthwynebiad ffyrnig. Serch hynny, erbyn mis Mehefin1887, yr oedd wedi llwyddo i ennill chwech i gredu yn ei neges, a dau ohonyn nhw’n bobl ar eu gwely angau. Yn ei lythyr, mae’n dweud, “Mae’r bechgyn yn dechrau ymgynnull o’m cwmpas o gylch y tân i’m clywed yn adrodd hen storiau Cymraeg, ac mae amryw ohonyn’ nhw’n aros ymlaen ar gyfer y gweddïau hwyrol.”

Canfu nad oedd gan y Cymry lleol unrhyw wrthwynebiad i’r syniad mynachaidd fel y cyfryw, a’u bod yn wir, yn gefnogol, i’r bwriad o adfer yr hen fynachlog ar Ynys Tudwal; ond mater arall hollol oedd gweld adfer Pabyddiaeth yn eu mysg, a phan gododd gwir wrthwynebiad, bu’n rhaid i’r Tad Henry Hughes a’i gydweithwyr symud i fyw i Ynys Tudwal fis Mai 1887, a hynny cyn bod eu cartref yno’n barod ar eu cyfer.

Ymunodd cyfeillion eraill â’r gymuned ar Ynys Tudwal. Daeth yno offeiriad Gwyddelig o’r enw Gilfillen, dau ŵr dysgedig a oedd wedi troi oddi wrth Anglicaniaeth, saer o Sgotyn, a labrwr o Gymro. Aethant ati i drin yr ynys a byw mewn cytiau a phebyll, yn ystod misoedd yr haf. Parhaodd y Tad Henry Hughes â’i genhadaeth.

Ysgrifennodd, “Gan ei bod yn ymddangos i mi fod holl grefydd y wlad hon yn cynnwys y tonic sol-ffa, y mae’n well i mi ddilyn y llanw a’u cael i ganu rhywfaint o’r athrawiaeth Gristionogol fel y bu imi wneud gyda’r Abandu yn Affrica, ac felly ymladd Methodistiaeth â’i harfau ei hun. Rydw i’n barnu y gallwn droi Cymru’n rhagorach drwy ganu yn hytrach na thrwy bregethu.” Cyfansoddodd y Tad Henry Hughes rai emynau a baledi yn y Gymraeg. Derbyniais drwy garedigrwydd y Parchg. Harri Parri yr engreifftiau hyn o waith y Tad Henry Hughes fel emynydd:

Cul iawn ydyw porth y nefoedd;
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!
Cul yw’r llwybr trwy anial diroedd:
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!
Gwael yw pleser byd a salw,
Llawn o demtasinau gwâg a ffôl!
Tyr’d, mae’r Iesu Ei hun yn galw;
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!

Beth yw tlodi a phrinder daoedd?
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!
Taclu’r Delyn cyn canu’r cywydd:
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!
Yn y nef mae tlodi’n darfod:
Tlodi, angenoctyd a thristwch ffôl!
Tyr’d mae’r IESU Ei hun yn annog;
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!

Tyr’d i Gymru, Offeiriad IESU:
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!
Mae’r cnydau’n wynion iawn i’w medi;
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!
Tyr’d â’th gryman wedi ei hogi,
Gweithia’n selog tra bo ŷd i’w nôl!
Tyr’d mae’r IESU yn dy ddewis:
Gwyn ei fyd y gŵr na thry yn ôl!

A dyma emyn arall o’i eiddo:

Trwy lwybrau’r diffaethwch mae’r dyn bach yn dyfod,
A’r palmwydd yn gostwng eu penau o’i flaen;
A MAIR Mam fendigaid, a’r hen Joseph sanctaidd
Yn synu wrth weled eilunod o faen,
Wrth sŵn ei ddyfodiad, o’u temlau yn cwympo:-
Yr ellyll oedd ynddynt adwaenent yr Oen! –
Trwy uchel creulondeb gormes-deyrn ei Herod,
Mae’r Aipht yn cydnabod Iachawdwr ei phoen!

Felly tydi hefyd, Gymru bach dduwiol,
A weli dy DDUW ar Ei allor yn awr:
Ti a’i gweli’n y Bara a’r Gwin cysegredig,
Fel llewyrch yr haul yn disgleirio drwy’r wawr;
A gerbron Ei enaid pob enaid gwargaled
A orfydd rhag cywilydd ymostwng ei ben,
Pan fyddi di eilwaith, O gartref y seintiau,
Yn troi yn dy ôl i wir lwybr y nen!

Ar ynys a mynydd bydd tincian y clychau,
A Psalmau gorfoledd mewn cafell a chor,
A seinio’r organau wrth lawer Offeren,
A lleisiau’r mynachod yn canmol yr Iôr;
Bydd cardod i’r tlodion, tangnefedd i’r gweinion,
Bydd Satan a’i luoedd yn colli y gad, -
` Yn lle ymrysongar ymrafael enwadau, -
Pan ddêl Crist a’i Eglwys yn ôl i’r Hên Wlad!

Daeth anawsterau lu i ran y gymuned fechan ar Ynys Tudwal: prinder bwyd a thanwydd, prinder arian, helbulon gyda’r cychod. Ar Fedi 6, ysgrifennodd y Tad Henry Hughes, “Wrth inni ddychwelyd i’r ynys, mi gawsom anffawd. Roedd ein cwch, y Dove, wedi gollwng ei hangor yn ystod y nos, ac wedi cael ei churo’n ddrwg yn erbyn y creigiau, ac ar Sul y 18fed, mi gawsom waith caled i’w chodi uwchben y dŵr a’i hangori wrth y lan i’w hatgyweirio. Heddiw, mae rhannau eraill ohoni wedi cael eu distrywio fel ei bod, rwy’n ofni, yn golled llwyr. Felly, dyma ni’n genhadon go iawn, fel Robinson Crusoe, ar ynys ddwy filltir oddi wrth y lan, ac yn ddibynnol ar ewyllys da’r rhai sydd ar y tir mawr. Yn ffodus, yr oeddem newydd gael ein cyflenwad bwyd am y gaeaf o fisgedi, reis, coffi, pys, bara ceirch, ac yn y blaen, fel na fyddai inni newynu. Mae ein gerddi ar yr ynys yn gynhyrchiol iawn, ond allwn ni ddim defnyddio’n rhwyd bysgota heb y cwch. Beth a wnawn ni? Wn i ddim ar y funud, ond mi gaiff Sant Joseff gwch arall inni, mae’n debyg, cyn bo hir, ac mi fydd popeth yn iawn. Yn y cyfamser, mae fy mechgyn yn ceisio’u gorau glas i weld os yw’n bosibl gwneud rhywbeth i drwsio ac adfer y cwch. Mae arian yn brin, ond ‘does yma ar yr ynys ddim siop i wario unrhyw arian. Mae fy saer ac un law iddo wedi ei rhwymo mewn powltris. . . .”

Mewn un llythyr mae’n dweud na fyddai iddo ofyn am arian gan neb rhag gwneud ei hun yn niwsans. Yr oedd ganddo ei ffordd ei hun o ddelio â materion felly. “Pan fyddaf angen arian,“ meddai, “byddaf yn mynd at Sant Joseff a Sant Tudwal a seintiau’r Urdd Sanctaidd, a byddaf, fel arfer, yn cael yr hyn y byddaf ei angen.”

Chwech wythnos yn ddiweddarach, mae’n adrodd: “Euthum i’r lan ddoe i bregethu ym Mynytho . . . lle’r oedd yn rhaid i mi ymweld ag un claf oedd wedi troi atom, sef yr hen David Hughes. Mae un o’i feibion yn dod atom i’r ynys i dderbyn hyfforddiant ac i gael ei fedyddio. Mae yna bentref bach arall cyfagos, a elwir Y Willins, lle mae pobl wedi mynegi awydd i’m gwrando, a lle Pentref y ‘Wilins’ neu’r ‘Wens’ ym Mynytho, Dywed Dan Ellis yn Rhodiwn Lle Gynt y Rhedwn mai ei enw priodol oedd ‘Wellington.’ ‘Yn ôl Mr. Walter Jones, prifathro Ysgol Foelgron yn fy adeg i, gŵr o’r enw Mr. Wellington a’i hadeiladodd,’ a hynny . . . ‘yn ôl cynllun gofalus a phensaernïol, yn uned fach gyfla fel pentref bychan ynddo ei hun.’

byddaf yn mynd y Sul nesaf, os Duw a’i myn, ac mae gŵr ifanc arall wedi dymuno derbyn cyfarwyddyd a mynegi ei awydd i ddod i dderbyn hyfforddiant atom i’r ynys er mwyn dod yn genhadwr i Gymru. Mae’n Gymro da o’r gymdogaeth hon. Yn fuan byddaf yn dechrau pregethu yn yr holl bentrefi o gylch Aber-soch; mae’n ymddangos fod symudiad da ar droed ymysg y bobl sydd yn arddangos mwy a mwy o barodrwydd i glywed yr athrawiaeth Gatholig. Mae’r ffaith fy mod i’n Gymro, ac yn perthyn yn agos iddyn’ nhw, â rhywbeth i’w wneud â’r peth. . . Rydan ni’n aml yn cael hwyl ar gyfrif ein hanawsterau yma. Ryden ni’n gwmni hwyliog ar yr ynys heb fod yn achwyn na chwyno fwy na mwy. I Dduw y bo’r diolch! . . . Mae yna nifer dda o bobl garedig, llawer nad yden ni’n eu hadnabod, sy’n barod i’n helpu ni ... Boed i Dduw eu bendithio nhw a’u helpu nhw yn eu hangen! "

Ar 5 Tachwedd, 1887, mae’n ysgrifennu: “Cawsom wythnos echrydus. Y Sadwrn diwethaf euthum i’r tir mawr i wrando cyffes gŵr ifanc nad oedd wedi bod ynglŷn â’i ddyledswydd ers tro byd, ac arhosais yno i weinyddu’r Offeren drannoeth . . .

“Euthom i Fynytho i bregethu yn y prynhwn a chael cynulleidfa wael iawn. Yr wyf wedi penderfynu mynd atyn’ nhw, gan na wnan nhw ddod ataf fi, ac yn y gwanwyn af yno i adrodd y paderau gyda rhai o’m brodyr, a chyda’r groes o’n blaen, a chloch i arwyddo’r dirgelion. Mi fydd hynny’n denu tyrfa, ac mi bregethaf iddyn’ nhw. Arferwn wneud hynny mewn mannau gwyllt yn Portiwgal, ac mi wnaf hynny yma, os gwêl Duw yn dda . . .”

Nid felly y digwyddodd, fodd bynnag. Daeth llu mawr o rwystrau i’w ran. Bu gwyntoedd cryfion yn chwythu dros Ynys Tudwal y gaeaf hwnnw, a difrodwyd y cytiau y buont mor ddiwyd a hyderus yn eu codi. Yn y ddrycin fawr, maluriwyd eu dau gwch, fel na allent adael yr ynys, hyd oni ddaeth pysgoidwyr lleol o Aber-soch a’r cylch i achub y criw bychan yn eu trybini. Yn dilyn hynny, bu’r Tad Hughes yn wael iawn, a bu’n rhaid galw meddyg o Bwllheli i ddod i Aber-soch i’w weld. Pwy, tybed, oedd y meddyg hwnnw o Bwllheli?

Mae O.J.G. Cowell mewn erthyg yn un o rifynnau’r Casglwr wedi adrodd am yr hyn a glywsai gan ei daid, a oedd yn feddyg ac yn byw ym Mhwllheli rhwng 1880 a 1939, sef Dr. Owen Wynne Griffith – Doctor Mela – (Gweler Adran Rhai o Enwogion Pwllheli ar y Wefan hon). Un o amryfal gyfrifoldebau’r meddyg hwnnw oedd bod yn swyddog meddygol yn wyrcws Pwllheli. Mewn cyfnod cyn dod y Wladwriaeth Les, cynigid bwyd a chysgod yn y wyrcws i’r tlawd, y di-gartref a’r di-ymgeledd. “Un diwrnod, meddai’r erthygl, “cerddodd crwydryn . . . i mewn i’r wyrcws ym Mhwllheli. Roedd mewn cyflwr gwael, yn fudr iawn, yn newynog ac yn sâl oherwydd hunan - esgeulustod. Roedd y staff yn hen gyfarwydd â gweld dynion mewn cyflwr felly, ac wedi iddynt ei olchi a chynnig bwyd iddo, fe’i rhoddwyd yn y gwely yn un o’r ystafelloedd cysgu mawr glân. Llosgwyd ei ddillad a oedd yn fyw gan lau. Ond gwaethygodd ei gyflwr meddygol cymaint nes y galwodd y staff ar fy nhaid, y meddyg, i’w archwilio a rhoi triniaeth iddo.”

Yn dilyn nifer o ymweliadau â’r claf, daeth y meddyg o Bwllheli i ddysgu mwy a mwy am y crwydryn. Dysgodd mai Hughes oedd ei gyfenw. Dysgodd iddo gael ei eni yng Nghaernarfon, lle’r oedd ei dad yn Gurad yno bryd hynny. Dysgodd fod ganddo frawd a oedd yn offeiriad Pabyddol. Ac, er mawr syndod i’r Dr. O.W. Griffith, daeth i wybod hefyd fod y crwydryn yn y wyrcws wedi cael ei hyfforddi’n feddyg.

“Teimlai fy nhaid,” meddai O.J.G. Cowell yn ei erthygl, “yn annifyr iawn wrth weld cyd-feddyg yn y fath sefyllfa druenus, a chan ei fod yn ddyn caredig, rhoddodd iddo arian a dillad. Gwellodd Hughes yn raddol ym mhob ffordd a gwnaeth personoliaeth a newid agwedd y claf gymaint o argraff ar fy nhaid fel y cynigodd iddo waith fel cynorthw-ydd iddo ef ei hun. Derbyniodd y gŵr y gwaith yn ddiolchgar. Gweithiodd Dr. Hughes am gyfnod ym Mhwllheli, wedyn wrth i’w hunan-barch a’i hunan-hyder gynyddu, aeth ymlaen i fod yn feddyg-ymgynghorol yn Glasgow. Yn ddiweddarach, dychwelodd i fyw i Fiwmares, lle bu’n feddyg uchel ei barch gan bawb.”

Doedd y profiadau echrydus a gafodd y Tad Henry Bailey Maria Hughes ar Ynys Tudwal, ac yng ngwlad Llŷn, a’i anhwylder corfforol, ddim yn argoeli’n dda iddo. Galwyd ar y meddyg o Bwllheli, Dr. O. Wynne Griffith, i ddod i Aber-soch i’w weld. Cymaint oedd pryder y meddyg am gyflwr iechyd y Tad Hughes fel y penderfynodd alw am gymorth brawd y Tad Hughes, y cyn-grwydryn y soniwyd amdano, a’r meddyg o Fiwmares, i ddod i Aber-soch i’w weld ac i ymgynghori ag ef. Mae O.J.G. Cowell yn ei erthygl yn adrodd i’r ddau feddyg benderfynu “fod rhaid trin y cornwyd difrifol ar gefn y claf, oherwydd fod hwn, wedi ei gymhlethu ymhellach gan fflamwydden, yn gwenwyno ei system i gyd.” Yn ofer y llafuriodd y ddau feddyg. Meddai’r erthygl, “Roedd corff lluddedig yr offeiriad, a ddioddefodd esgeulustod a diffyg maeth am cyhyd y tu hwnt i ofal y ddau feddyg.” Ni bu fyw ond ychydig wythnosau wedyn. Ar Ragfyr 16, 1887, bu farw.

Ymddengys i gymuned y Tad Hughes wasgaru i bob cyfeiriad, a daeth i ben y freuddwyd fawr o droi Llŷn, a Gogledd Cymru, at y Ffydd Babyddol, a daeth diwedd hefyd ar yr holl waith y bu’r Tad Hughes ynglŷn ag ef. Cyn belled ag y gallai llygaid ganfod, cael eu hanghofio a wnaeth ei holl ymdrechion, a hynny heb ddwyn fawr o ffrwyth. Meddyliai rhai Pabyddion amdano fel gweledydd gwyllt ac anymarferol. Ar y llaw arall, llwyddodd i ennyn parch ac edmygedd anferthol rhai Protestaniaid. Roedd gweddi a ffydd fawr – nid yn unig yn sail i’w holl weithgarwch - dyna oedd ei weithgarwch. Os oedd pobl yn hael tuag ato ef a’i ymdrechion, diolchai iddynt ac i Dduw am hynny. Onid oeddent yn hael, dysgai wneud heb ddim.

Cafodd y Tad Henry Bailey Maria Hughes ei gladdu ym mynwent eglwys Llanengan, ger Aber-soch, a chafodd offeren dros y meirw ei chynnal yno ymysg beddau Catholigion a Phrotestaniaid llawer cenhedlaeth. Lluniwyd carreg ei fedd gan yr Anrhydeddus Augusta Herbert, Arglwyddes Llanofer, gyda’r arysgif arni yn y Gymraeg a’r Saesneg:

Er Parchus Gof
Am y Tad Henry Hughes. O.S.D.
Anwyd yng Nghaernarfon.
Dodwyd y garreg hon uwch ei ddarn ddaearol
gan yr Anrhydeddus Augusta Herbert o Lanofer,
Gorphenodd ei ddyddiau
Rhagfyr 16, 1887
Oed 54
Cymro fu yn apostolig mewn llawer gwlad ac iaith.
Llafuriodd dros y gred Gatholig.
Bu farw yn ei waith

Yn ôl yr adroddiadau yn archifau'r Eglwys Gatholig, offeiriaid o Gaernarfon oedd yn gofalu am Bwllheli cyn 1882. Un o'r offeiriaid hynny a wasanaethodd ym Mhwllheli rhwng 1882 a 1895 oedd y Parchg. Joseph Whelan, a oedd a'i gartref yn Nhremadog, ac a rannai ei ofalon dros y lle hwnnw a Sant Joseff. Rhwng y blynyddoedd 1896 a 1907, does dim cofnod wedi ei gadw yn Archifau Pabyddol Mynyw am yr hyn a ddigwyddai ym Mhwllheli. Daeth y cenhadon o Lydaw -y Parchn. Petr Merour a Julian Tanter - i wasanaethu ym Mhwllheli rhwng 1908 a 1914. Cawsant hwy eu dilyn ym 1915 gan y Parchg. James Lagan, ac ym 1917 gan y Parchg. Michael Hayden.

Daeth y Tad Meryl, meddir, yn offeiriad i Bwllheli tua 1920. Pwy oedd ef, o ble y deuai, a beth fu ei gyfraniad, ni lwyddwyd i ganfod hynny.

Cafodd ei eni yn yr Wyddgrug a’i ordeinio ym 1917 yng Ngholeg y Santes Fair, Oscott, ger Birmingham, lle bu’n brif swyddog astudiaethau am gyfnod, cyn ymroi i wasanaethu fel offeiriad cynorthwyol ym Mhenbedw, Great Crosby, Wrecsam a Llandudno. Daeth i Bwllheli ym 1925 yn offeiriad plwyf Eglwys Sant Joseff.

Nid oedd Eglwys Sant Joseff, Pwllheli, bryd hynny namyn caban bychan wedi ei wneud o dun. Ym 1926, fodd bynnag, cafodd eglwys newydd ei hagor, ac - yn dilyn cyfnod o waeledd go ddifrifol - dechreuodd y Tad Cunningham ar gyfnod o 28 mlynedd o waith ymroddgar fel offeiriad ym mhlwyf Pwllheli.

Ar y dechrau’n deg ym Mhwllheli, profodd y Tad Cunningham gryn wrthwynebiad o gyfeiriad rhai Protestaniaid lleol. Dichon ei fod yn ymddangos iddynt yn ormod o Sais, er ei fod wedi llwyddo i ddysgu’r Gymraeg yn rhugl. Yn raddol, newidiodd pethau wrth i’r trigolion ei weld yn ymdrechu mor galed i drwsio’r tyllau a oedd yn nho tun ei eglwys, ac yn llwyddo i droi anialwch yn ardd lysiau gynhyrchiol.

Miss. Noonan

Nid oedd tŷ offeiriad ar gael ym Mhwllheli yr adeg honno, ond daeth gwraig a oedd yn cadw gwesty yn Llandudno, Miss. Winifred Noonan, i fyw i Bwllheli a phrynu tŷ yn y dref. Bu hi’n gweithedu fel howsgipar answyddogol i’r Tad Cunningham, a bu’n gryn gymorth iddo dros y blynyddoedd hyd at yr amser, yn ei hen ddyddiau, y dychwelodd i Landudno i fyw. Gadawodd ei thŷ i’r plwyf fel tŷ offeiriad, a pharhawyd am amser i’w chofio ac i feddwl yn annwyl amdani. Dioddefodd y Tad Cunningham waeledd cas yn fuan wedi dod i Bwllheli, ond drwy gymorth a chefnogaeth Miss. Noonan, llwyddodd i oresgyn ei waeledd ac i gyflawni llawer.

Ymhen blwyddyn ar ôl cyrraedd Pwllheli ym 1925, ymroes y Tad Cunningham i adeiladu eglwys deilyngach a mwy parhaol yn y dref – eglwys a oedd i barhau hyd oni newidid hi wedyn yn y 1980au. Ym 1931, yr oedd yn brysur wrth y gwaith yn casglu arian i adeiladu eglwys Babyddol ym Mhorthmadog. Gan fod amryw o weithwyr Gwyddelig yng Ngogledd Cymru yr adeg honno, llwyddodd ei apêl am arian yn fuan i gyrraedd Dulyn.

Yr oedd yn byw yn Nulyn bryd hynny wraig go nodedig, a gwelodd hi’n dda i roi cyfraniad at apêl yr offeiriad Pabyddol o Ogledd Cymru. Yn wir, awgrymwyd wrthi y dylai hi fynd ei hunan gyda’i chyfraniad i Bwllheli i gynorthwyo’r gwaith yr oedd y Tad Cunningham yn ei gyflawni yn y dref a’r cylch. A gwnaeth hithau hynny.

Eilzabeth Wilhelmina Newcombe, a elwid Inie, oedd yr hynaf ond un o naw plentyn a anwyd i deulu o Brotestaniaid Gwyddelig - yn blant i weinidog yn Eglwys Iwerddon a’i briod, ac wedi marw eu rhieni, a adwyd yn ifanc iawn yn amddifaid i’w modryb eu magu. Ar alwad Duw, aeth Inie Newcombe ynghyd â thair o’i chwiorydd yn genhadon i China, gan bregethu’r Efengyl yn eofn yno ac wynebu llu mawr o anawsterau a pheryglon. Bu un o’r chwiorydd, Hessie, farw fel merthyr yng Nghyflafan Hwa Sang ym 1895. Bu Inie Newcombe yn genhades yn China, cyn dod yn un o swyddogion arloesol Byddin yr Iachawdwriaeth a gwasanaethu yn Siapan. Treuliodd ddwy flynedd arall yn China ar adeg chwyldro mawr 1911. Trwy ddirgel ffyrdd, a hithau erbyn hynny wedi troi at y ffydd Babyddol, treuliodd naw mlynedd olaf ei hoes yn dilyn bywyd o weddi fel lleian o urdd y Carmeliaid yn Nolgellau. Yno y bu farw, ar Sul cynta’r Adfent, Tachwedd 29, 1936, a hithau’n 79 mlwydd oed. Yno, ym mynwent Dolgellau, y mae ei bedd.

Doedd teithio drwy Ogledd Cymru ddim yn brofiad anghyfarwydd i Inie Newcombe. Roedd hi droeon wedi teithio yn ystod ei blynyddoedd fel cenhades gyda llong i Gaergybi a thren oddi yno. Cyn gadael am Bwllheli, fodd bynnag, aeth i dreulio’r gaeaf yn Droitwich gyda nifer o leianod Ffrengig. Nid yw dyddiad ei dyfodiad i Bwllheli’n hysbys – ymddengys nad oedd wedi dod i’r dref cyn gwanwyn 1931 – y flwyddyn y bu iddi ymuno a’r Eglwys Babyddol. Mae amryw o’r llythyrau a fu rhyngddi â Miss. Winifred Noonan, ac a’r Tad Cunningham, wedi eu cyhoeddi yn llyfr Eileen John Austin, Inie – a Life of Mission and Prayer. Yn rhai o’r llythyrau hynny, mae’n sôn am un Mrs. Jones a’i mam hawddgar, a dichon mai yn eu cartref hwy yr oedd Inie Newcombe yn lletya ym Mhwllheli. Ac mae sôn am y cyfeillion a fyddai’n glanhau’r eglwys, a’r rhai a fyddai’n gosod y blodau, yn ymddiheuro am darfu arni yn ystod ei horiau hir o weddi ddistaw cyn y Sagrafen Sanctaidd. Ei hymateb hithau’n ddieithriad, ar adegau felly, oedd dweud, “Wnes i ddim sylwi arnoch chi.”

Roedd gan y Tad Cunningham, mae’n amlwg, feddwl mawr o’r aelod newydd a oedd wedi ymuno â’i eglwys, ac roedd meddwl mawr ohono yntau ganddi hithau. Gwelai ynddo yr un ymroddiad cwbl anhunanol ag a welsai’n gynharach yn y cenhadon Catholig yr oedd wedi eu cyfarfod yn China, a chyfeillion a oedd wedi gadael y fath argraff arni..

Nid yw’n hysbys am faint o amser y bu Inie Newcombe ym Mhwllheli. Mae’n amlwg o ddarllen y llythyrau fod gan y Tad Cunningham ran bwysig ac allweddol iawn, yn ystod ei blynyddoedd olaf, yn hwyluso’i ffordd i ymuno â’r Carmeliaid yn Nolgellau. A bu’r Tad Cunningham yn ei hangladd yn y dref honno.

Yn nghyfnod y Tad Cunningham ym Mhwllheli y codwyd yr ail Eglwys, a saif ar Ffordd Mela, a’r Presbytery ger llaw yn gartref i’r offeiriaid. Ar gyfnodau, gwasanaethai’r Tad Cunningham mewn cynifer â 15 o ganolfannau Offeren gwahanol, gan deithio o gwmpas yn ei fodur Awstin Saith bach coch yr oedd wedi talu £5 amdano. Ym 1933, adeiladodd yr Eglwys Babyddol ym Mhorthmadog.

Ym mlwyddyn ei jiwbili arian – 25 mlynedd - cafodd y Tad Leopold Cunningham ei benodi’n ‘Ficer Forane o Ddeoniaeth Sant Garmon.’ Ystyr hynny, mae’n debyg, yw offeiriad a benodwyd gan esgob i ymarfer awdurdod cyfngedig dros glerigwyr ardal neu esgobaeth.

Oddi ar amser agor Gwersyll Gwyliau Butlin ym Mhwllheli, byddai’r Tad Leopold Cunningham yn aml yn gweinyddu dwy Offeren yno, ac yn apelio am gyfraniadau i godi trydedd eglwys yr oedd ei sylfeini eisoes wedi eu gosod yn Aber-soch. Eglwys Garmon Sant a fyddai honno. Nid oes offeiriad rheolaidd yno, er ei bod o dan ofal offeiriad Pwllheli. Daw ambell offeiriad yno i aros yno’n achlysurol yn y fflat sydd o dan yr eglwys.

Cofia un o ffyddloniaid Eglwys Joseff Sant am adeg yng nghyfnod gwasanaeth y Tad Cunningham ym Mhwllheli fod cryn gant o filwyr o’r Almaen yn aros mewn gwersyll ger y gyffordd i Lwyndyrus o’r ffordd fawr ger y Ffôr (lle mae ffatri gwneud Jam heddiw). Byddai’r bobl hynny’n teithio’n rheolaidd ar y Sul ar y Moto Coch i’r Offeren ym Mhwllheli.

Bu farw’r Tad Leopold Cunningham fis Ionawr 1954, ac yntau’n 62 oed. Mae ei fedd ym Mynwent Deneio, Pwllheli.

Rhwng 1960 a 1982, gwnaeth y Tad Crawley lawer o waith yn cynorthwyo i godi eglwysi Pabyddol Porthmadog, Gelllilydan, Morfa Nefyn ac Abersoch.
Ym 1982, ail-godwyd Eglwys Sant Joseff yn Ffordd Mela.

Mae llun hwn o'r Sant John Roberts i'w weld yn Eglwys y Groes Sanctaidd,Gellilydan, ger Trawsfynydd. Yn enedigol o Drawsfynydd, cafodd John Roberts ei grogi a'i chwarteru yn Llundain ym 1601 am ei fod yn Babydd.
Gwnaed John Roberts yn Sant ym 1970 gan y Pâb Pawl VI.

Tystiodd y Tad Antony Jones mewn llythyr fod adeiladu ac agor Eglwys Sant Joseff ym Mhwllheli fis Awst 1982 yn wir weithred o gariad ar ran y Tad Crawley. Roedd y Tad Antony Jones ymysg y clerigwyr a oedd yn cyd-ddathlu'r Offeren Agoriadol.

Bu’r Tad Antony Jones STL, Ph.B., o Dreffynnon yn offeiriad ym Mhwllheli rhwng 1982 a 1997.

Ganed a bedyddiwyd y Tad Antony Jones yn Nhreffynnon, Sir Fflint, a chafodd ei gonffirmio a’i ordeinio yno yn Eglwys Gwenffrewi. Derbyniodd hyfforddiant yn Rhufain yn y Brifysgol Gregoraidd o 1960 hyd 1967. Oddi ar ei ordeinio ar 11 Medi 1966, gwasanaethodd yn yr Esgobaeth, ar wahan i gyfnod o bum mlynedd yn dechrau ym 1972 pan symudwyd ef i Lundain i weithio gyda Chymdeithas Genhadol y Catholigion ac arwain cenadaethau plwyfol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Gwasanaethodd fel Curad yn yr Wyddgrug, Llanelli, a Chei Conna, cyn ymuno â Chymdeithas Genhadol y Catholigion. Ar ôl dychwelyd i’r Esgobaeth, bu’n Offeiriad Plwyf yn Rhiwabon, Pwllheli a Llandudno.

Wedi i'r Tad Antony gyrraedd a dechrau ei weinidogaeth ym Mhwllheli, daeth yn amlwg yn fuan fod cynllun yr eglwys a oedd newydd gael ei hadeiladu yn anaddas i ffurf fodern y Litwrgi a bod angen gwneud newidiadau strwythurol. Heb oedi, bu'r Tad Antony yn gyfrifol am wneud y newidiadau hynny, gan gau'r eglwys dros dro a chyflogi crefftwyr proffesiynnol lleol i wneud y gwaith.

Bu’r Tad Antony yn gwasanaethu ym Mhwllheli rhwng 1982 a 15 Ionawr 1998, pan symudodd i Landudno gyda'i ddaeargi Cymreig, Hwyl. Yn ystod ei gyfnod ym Mhwllheli sefydlwyd Cymdeithas yr Angylion Gwarcheidiol (er mwyn gofalu am aelodau anghenus y Plwyf, a hefyd y Schola (y cór nodedig gyda Gillian Williams yn arweinydd iddo.

Rhwng 1997 a 2011, offeiriad Pabyddol Pwllheli oedd y Tad Harry Clarke, a aned yn Stockport. Treuliodd ddeunaw mis o wasanaeth milwrol fel gŵr ifanc yn Sri Lanka. Yn dilyn hynny, aeth i goleg yn Sbaen, lle treuliodd chwe mlynedd yn derbyn hyfforddiant, cyn dod adref i gael ei ordeinio ar Fehefin 30, 1957. Treuliodd lawer o’i yrfa fel offeiriad yng Ngogledd Cymru ym mhlwyfi Abergele, Ruthun, Y Drenewydd a Phrestatyn, cyn ymsefydlu ym Mhenrhyn Llŷn. Gwasanaethodd fel offeiriad am 50 mlynedd, a’r 13 mlynedd olaf ym Mhwllheli. Serch mai 75 yw oedran ymddeol arferol offeiriaid Pabyddol, parhaodd y Tad Harry Clarke i wasanaethu pobl Pwllheli am chwe mlynedd arall, gan rannu ei amser rhwng ei blwyf a’i gartref yn Abergele. Credai’n gryf y dylid moderneiddio’r eglwys, ac mewn cyfweliad unwaith dywedodd: “Ni ddylid ysgaru mynd i’r eglwys oddi wrth fywyd go iawn. Ni ddylai fod mor ffurfiol fel bod pobl y teimlo’n anghyfforddus, mi ddylai fod yn ystyrlon ac yn gymorth i bobl fyw mewn heddwch â’r byd.”

Byddai’n cynnal Offeren wythnosol yn y Gymraeg, un o’r ychydig blwyfi yng Ngogledd Cymru lle digwyddai hynny.

Pan fu’r Tad Harry Clarke farw yn 80 oed fis Mehefin, 2011, disgrifiwyd ef mewn penawd papur newydd fel “offeiriad Pabyddol caredig a llawn hiwmor.” Cafodd llawer o deyrngedau eu talu iddo. Dywedodd un ymwelydd selog â Phwllheli o ogledd Swydd Efrog fod y Tad Harry Clarke yn ŵr caredig iawn, yn llawn hiwmor ac yn ŵr a oedd yn barod i wrando. Yr oedd yn cael ei barchu’n fawr, nid yn unig ymysg ei bobl ei hun, ond gan bobl o enwadau eraill a ddeuai i gysylltiad ag ef ym mywyd y dref. Tystiodd y Cynghorydd Michael Parry, Maer Pwllheli ar y pryd, “Gwasanaethodd Benrhyn Llŷn ag anrhydedd, ac fe’i collir yn fawr gan ei blwyfolion a chan y cylch eang o ymwelwyr o bell ac agos a fydd yn dod i Bwllheli ar eu gwyliau. “Yn sicr, roedd y Tad Harry Clarke yn ffigwr a oedd yn cael ei barchu a’i hoffi’n fawr yn y dref, ac mae aelodau’r Cyngor Tref eisiau datgan eu cydymdeimlad dwysaf o’i golli.”

Dau frodor o Nigeria yng Ngorllewin Affrica oedd y ddau offeiriad nesaf y ddaeth i wasanaethu i Eglwys Sant Joseff, Pwllheli, a’r cylch. Mae’r naill a’r llall ohonynt yn perthyn i’r un urdd Gatholig, sef Cymdeithas Genhadol Sant Paul o Nigeria. Sylfaenydd y Gymdeithas honno oedd y diweddar Dominic Cardinal Ekandem. Cardinal Pabyddol Rhufeinig oedd Dominic Ignatius Ekandem (1917 – 1955). Ef oedd yr Esgob Catholig cyntaf i ddod o Orllewin Affrica. Brodor ydoedd o wladwriaeth Cross River, yn Ne Ddwyrain Nigeria, ardal sy’n ffinio â Camerwn, gyda Calabar yn brifddinas iddi. Bu’r Cardinal mewn amryw o golegau cyn dod yn offeiriad. Cafodd ei ordeinio ar Ragfyr 7, 1947, cyn dod yn offeiriad yn hen dalaith Calabar. Dyrchafwyd ef yn Gardinal fis Ebrill 1976. Bu farw ar 24 Tachwedd, 1995.

Bwriad y diweddar Gardinal oedd sefydlu cymdeithas frodorol a oedd wrth natur yn genhadol. Yn dod o gefndiroedd ethnig gwahanol, mae’r rhai a berthyn i’r gymdeithas yn ceisio dilyn eu proffes fel aelodau o deulu, lle mae brawdgarwch, parch ac ymddiriedaeth yn bwysig. Wrth geisio cyflawni eu gweinidogaeth, mae cariad a chymod yn sylfaenol iddynt. Maent yn ceisio dynwared esiampl Sant Paul, eu Noddwr, a than arweiniad yr Ysbryd Glân, yn ceisio tystio mewn oes sydd fel pe wedi colli ei hymwybod moesol; mewn byd sy’n llawn casineb, trais, ymraniadau llwythol, ansicrwydd, angyfartaledd economaidd, terfysgaeth a diraddio amgylcheddol. Nôd eu cenhadaeth yw creu a chynnal mewn pobl o ddiwilliannau gwahanol, o gefndiroedd ethnig a llwythol, y synnwyr o undeb sy’n apostolaidd ei nodwedd ac yn cynnwys pawb ym mhob man. Maent yn ceisio gwasanaethu i anghenion y tlawd a’r rhai yn y gymdeithas a gafodd eu gwthio i’r gornel. Mewn cymdeithas sydd ar goll yn nrysni’r byd, ceisiant gyhoeddi Crist fel gobaith bywyd.

Mae’r Tad Francis Eyo a’r Tad Agbor Fredeick Isek, y naill fel y llall, yn perthyn i Gymdeithas Genhadol Sant Paul o Nigeria.

Daeth y Tad Francis Eyo yn offeiriad i Bwllheli. Brodor o Nigeria ydyw, a threuliodd gyfnod yn gwasanaethu fel offeiriad yn Gambia, Gorllewin Affrica. Wedi hynny, bu’n offeiriad yn Gravesend, yng Nghaint, cyn symud i Wrecsam, a dod i Bwllheli yn 2011.

Fis Ebrill 2012, cafwyd peth o hanes y Tad Francis Eyo mewn papur newydd lleol. Ymddangosodd yr adroddiad gan Eryl Crump yn rhifyn Gogledd Cymru o’r Daily Post ar Ebrill 18 y flwyddyn honno. Dywedid fod y Tad Francis Eyo, a ddeuai’n wreiddiol o Nigeria, yn brysur yn paratoi i ddringo’r mynydd uchaf yng Nghymru er mwyn codi arian i’w eglwys, a’i fod yn gofalu am yr eglwysi Catholig ym Mhwllheli, Morfa Nefyn ac Aber-soch. Yr oedd i ddringo i ben yr Wyddfa ym mis Medi 2012 er mwyn codi arian i’w blwyf, a byddai ei blwyfolion ac ymwelwyr yn ei noddi. “Gan fod plwyf Pwllheli,” meddai, “yn ymestyn o Aberdaron i Lanystumdwy ac o Abererch i Aberdesach, a bod tair eglwys a dau dŷ offeiriad i’w cynnal, mae’r gofyn ariannol yn uchel. “ Dywedodd fod angen cynnal eglwysi Aber-soch a Morfa Nefyn gydol y flwyddyn, er nad oedd y ddwy hynny ond ar agor yn ystod y tymor ymwelwyr, ac yn cael eu defnyddio’n bennaf gan ymwelwyr. “Ond,” meddai, “yr oedd galw am eu cynnal am y flwyddyn gyfan. Dyna pam yr ydym yn apelio’n arbennig at ymwelwyr. A dyna pam y gobeithiwn y bydd i gymaint ag sydd bosibl o bobl ymuno â mi wrth ddringo i ben yr Wyddfa.”

A’r Tad Francis yr adeg honno ond wedi treulio cwta flwyddyn ym Mhwllheli, dywedodd: “Rydw i wedi darganfod fod yna lawer o debygrwydd rhwng deheudir Nigeria, lle rydw i’n dod ohono, â gwlad Llŷn. Mae’r bobl yn falch o’u diwylliant ac yn nodedig am eu croeso. Rydw i’n teimlo fy mod yn cael fy nerbyn a’m croesawu yn fwy yng Nghymru nag yn rhai o’r mannau eraill y bum i ynddyn nhw. “Gan fod fy nghartref i yn Oron yn Aber y Niger, mae pysgota’n bwysig yno, ac mae fy mhobl yn hoff o’r môr a’r afonydd a’r bwyd y
mae nhw’n ei gynhyrchu.”
Mae’r Tad Francis Eyo yn gallu siarad pump o ieithoedd Nigeria, dwy o ieithoedd Gambia, rhywfaint o Ffrangeg, mae’n rhugl mewn Saesneg, a phan ddaeth i Bwllheli, yr oedd am ddysgu’r Gymraeg hefyd.

Cafodd yr Offeren ei dathlu ym Mhwllheli ers rhai degawdau, ac yn ystod cyfnod gwasanaeth y Tad Francis yn y dref, parhawyd â’r traddodiad hwnnw. Dywedodd y Tad Francis fod Cymru iddo ef yn wlad oedd wedi cael ei bendithio â ffydd, cariad, gobaith a daioni. Roedd hi’n wych i gael bod yma, ac i rannu cariad Iesu â phobl hawddgar Cymru, ac i weddïo hefo nhw ar Dduw dros anghenion yr holl bobl.

Ysgrifennodd Sue Roberts am yr ymdrech godi arian yn 2015. Rhwng Sul y Pasg a Medi 5, llwyddwyd i godi tua £9,500. Cafwyd y syniad o fynd ar feiciau ar hyd hen ffordd y pererinion o Glynnog Fawr gan alw yn eglwysi Llanaelhaearn, Pistyll, Nefyn, Llangwnadl ar y ffordd, ac yna ac ymlaen i Aberdaron, lle byddai cyfle i orffwys cyn croesi’r swnt i Ynys Enlli, lle – yn ôl traddodiad – y gorwedd 20,000 o saint. Mynnir fod tair pererindod i Enlli yn gyfystyr ag un i Rufain!

Llwyddwyd i berswadio’r Tad Francis Eyo, offeiriad y plwyf ar y pryd, y Tad Walter Bance, offeiriad wedi ymddeol sy’n byw yn yn y plwyf, a’r Diacon David Ives i wynebu beicio’r 27 milltir. Gwnaed apeliadau am noddwyr. A chafwyd fod haelioni’r aelodau a’r ymwelwyr wedi bod yn rhyfeddol iawn. Eglurwyd mai amcan yr ymgymeriad oedd codi arian i gynnal y tair eglwys ym Mhwllheli, Morfa Nefyn ac Aber-soch, y ddau dŷ offeiriad a’r tir o’u hamgylch, ac y byddai hanner yr arian y llwyddid i’w godi yn mynd at apêl Ambiwlans Awyr Cymru. Yn wir, llwyddodd Eglwys Sant Garmon, Aber-soch i gyfrannu 54% o’r holl swm a gasglwyd – mwy na’r gweddill gyda’i gilydd.

Pan wawriodd Medi 5, roedd y dydd yn llachar ac yn heulog. Ymgynhullodd dros 30 wrth eglwys Clynnog Fawr i gychwyn y daith feicio ac ymunodd 7 arall yn Nefyn. Yn hen ac yn ifanc – roedd yr ieuengaf yn wyth mlwydd oed a’r hynaf ymron â bod yn bedwar ugain – a llwyddodd pawb i orffen y daith.
Roedd trefniadaeth y daith yng ngofal Chris Ryder a’i briod, Pat – y ddau wedi gneud y daith ar dandem!.

Adroddwyd mai’r hufen ar y deisen oedd yr Offeren a ddathlwyd yn eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar derfyn y bererindod feicio. Yn wir, ni welodd Aberdaron y fath olygfa ers1537. Dyna pryd y bu i Henry VIII orchymyn na fyddai Sant Hywyn, eglwys blwyf Aberdaron, yn Eglwys Gatholig mwy ond yn un Brotestant. Dros y 478 mlwyddyn wedi hynny dim ond gwasanaethau Protestant a gynhaliwyd yn yr Eglwys. Felly hyd at y Bererindod Feiciau ar Fedi 5, 2015, pan gynhaliwyd yno Offeren Gatholig, y cyntaf oddi ar adeg y Diwygiad.

Roedd yr eglwys yn orlawn. Ymunodd aelodau o’r Eglwys yng Nghymru yn yr Offeren a ddathlwyd gan y Tad Francis. Cafodd croeso ei estyn i bawb gan yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionnydd. Canwyd yr Offeren gan Ysgol Sant Joseff ac yr oedd y canu cynulleidfaol yn wefreiddiol. Yr oedd y+n wasanaeth rhyfeddol, ac yn un y cofir amdano yn hir, hir iawn. Yn wir, gofynnodd aelodau Sant Hywyn am i ni ddod yno eto’r flwyddyn nesaf! Roedden nhw mor falch o weld cynifer yn eu heglwys.

Ar derfyn yr Offeren, cafodd siec ei chyflwyno i Louise Courtnage o Ambiwlans Awyr Cymru, ac roedd hi wedi gwirioni. Meddai, “Mae bod wedi gallu codi cymaint o arian mewn amser mor fyr yn ddawn ac yn benderfyniad arbennig ac yn ogystal yn dangos ysbryd o haelioni mawr ar ran y rhoddwyr.”
Drwadd a thro mae’n dystiolaeth o lwyddiant mawr ar ran plwyf mor fychan.
Yn 2015, ymadawodd y Tad Francis Eyo â Phwllheli a symud i wasanaethu yn Lundain.

Yn 2015, daeth y Tad Agbor Frederick Isek i Bwllheli. Brodor o Nigeria yw yntau. Cyn dod i Bwllheli bu’n gwasanaethu yn Barbados yn y Caribi, ac yn Unol Daleithiau’r America.

Yr oedd amgylchiad arbennig yn Eglwys Sant Joseff ym Mhwllheli ar nos Fercher, 11 Mai, 2016. Y noson honno, yng ngwydd nifer o gyfeillion a oedd yn cynnwys nifer o offeiriaid Catholig a gweinidogion gwahanol eglwysi ac enwadau'r cylch, a Maer Pwllheli, y Cynghorydd Michael Sol Owen, cynhaliwyd Offeren a Chyfarfod Sefydlu'r Tad Agbor Fredrick Isek yn offeiriad plwyf y Gwaredwr Sanctaidd, Porthmadog, a Sant Joseff, Pwllheli. Yn arwain yr Offeren a'r Sefydlu yr oedd Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Peter Brignall.

Cliciwch yma i weld lluniau o'r Cyfarfod Sefydlu


Eglwysi a Chapeli