Y mae capel bach gwyngalchog
Ym mhellafoedd hen wlad Llŷn.
Dim ond un cwrdd chwarter eto
Ac fe’i caeir, - dim ond un.
Y mae llwydni ar bob pared,
Dim ond pridd sydd hyd ei lawr.
Ond bu engyl yn ei gerdded
Adeg y Diwygiad Mawr.
Ni chei uchel allor gyfrin,
Na chanhwyllau hir o wêr,
Na thuserau’r arogldarthu
Yma i greu’r awyrgylch pêr
Sydd yn gymorth i addoli
Ac i suo’r cnawd a’r byd,
Ac i roddi d’enaid dithau,
Mewn perlewyg yr un pryd.
Ni chei gymorth yr offeren
I ddwyn Duw i lawr i’r lle,
Na chyfaredd gweddi Ladin,
“Miserere Domine.”
Ni chei yma wawr amryliw:
Dwl yw’r gwydrau megis plwm, -
Dim ond moelni Piwritaniaeth
Yn ei holl eithafion llwm.
Ond er mwyn “yr hen bwerau”
A fu yma’r dyddiau gynt,
Ac er mwyn y saint a brofodd
Yma rym y Dwyfol Wynt,
Ac er mwyn eu plant wrth ymladd
Anghrediniaeth ddydd a ddaw,
Amser, sy’n dadfeilio popeth,
Yma atal di dy law.