Glywi di’r gân?
Tawelwch gwag digynnwrf ’glywai’r rhain
Wrth ddeor eu cynlluniau yn y cwm,
A dim ond ambell fref, neu grawcian brain
I adrodd am galedi’r erwau llwm.
Ond beth am ‘Oes ’ma bobol?’ wrth y ddôr,
A chellwair smala criw yn ’mochel glaw,
Neu ddyblu’r gân wrth roddi mawl i’r Iôr?
Difyr wrth fynd am Hafod Fadog draw
Ar bnawn o Awst oedd chwerthin haid o blant
A dwrdian mamau’n addo och a gwae
Rhag ofn i rywun syrthio i mewn i’r nant;
Roedd cainc cymdeithas hyd yn oed mewn ffrae.
Byddar oedd rhai i’r melodïau hyn,
A’r alaw ‘nawr? Tawelwch oer y llyn.
Gwyneth Owen
'Mae gen i feddwl mawr o'r gwasanaeth llyfrgell, yn enwedig yma ym Mhwllheli. Bum yn helpu yno ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn gweld pa mor werthfawr ydi'r adnodd i'r gymdeithas. Wedi taro i mewn un bore, dyma un o'r genod sy'n gweithio yno'n rhoi taflen i mi gan ddeud, 'Wyt ti'n barddoni, on'd wyt? Beth am roi cynnig ar hwn?'
Mi fyddai'n chwarae efo'r cynganeddion, a dyna lle dechreuais i. Ond, fel mae'n digwydd yn rhy aml, ysywaeth, ddaeth hi ddim. Eto 'roedd delweddau o'r pentref a foddwyd yn dal yn troi yn fy meddwl.
Yna, gafaelodd yr ymadrodd, 'Oes 'ma bobol?' ynof, - cyfarchiad cynnes ac annwyl sydd yn prinhau ymhob pentref, ond wedi darfod yn llwyr yng Nghapel Celyn oherwydd y dinistr. Nid cwm diarffordd a foddwyd ond cymdeithas gyfan, felly lluniais soned yn cymharu'r sŵn a'r afiaith a fu efo distawrwydd presenol y llyn.
Ymddangosodd y soned gyntaf yn y cylchgrawn Barddas.