Wyn Roberts - Y Silff Lyfrau

Y Silff Lyfrau

Mae'r Beibl yn y bwthyn,
Ar y silff,
Emynau Pantycelyn,
Ar y silff:
"Y Glowr," Gwilym Tilsley,
A gwaith Hedd Wyn, y "Cerddi,"
Ar y silff,
Ar y silff;
A "Hunangofiant Tomi,"
Ar y silff.
 

A beth sydd yno rwan?
Ar y silff,
Ar y silff:
Rhai pethau sy'n fwy diddan,
Ar y silff;
Sawl DVD a Fideo:
Ffilm Arswyd, "One Hour Photo,"
A "Death Down in the Hollow,"
Ar y Silff,
Ar y silff,
"Jack Dee at the Apollo,"
Ar y Silff.
 
Wyn Roberts


Beirdd