Ioan W. Gruffydd yn sôn am gyfraniad gorchestol yr arlunydd o Bwllheli ...
Catrin Williams - Arlunydd
Cafodd Catrin Williams ei geni ym 1966, a’i magu ar fferm fynydd, Llwyniolyn, yng Nghefnddwysarn, nid nepell o’r Bala. Yn ferch ifanc, byddai’n ymddiddori yn niwylliant ei hardal gan gystadlu yn yr eisteddfodau lleol. Wedi bod yn ysgolion gwahanol ardal Y Bala: Ysgol y Sarnau, Ysgol Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn, Ysgol y Berwyn, aeth i Goleg Technegol, Bangor, i ddilyn Cwrs Celf Sylfaenol, cyn mynd i’r Sefydliad Addysg Uwch yng Nghaerdydd, lle’r enillodd radd B.A., Gydag Anrhydedd, yn y Celfyddydau Cain. Oddi ar 1996, fodd bynnag, mae wedi ymgartrefu wrth y môr ym Mhwllheli. Mae Cymreictod, a’r profiad o fyw yn Nghymru, wedi bod yn thema ganolog ac amlwg ganddi. Dywedwyd amdani fod delweddau o’i chefndir a’i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu eu ffordd i’w gwaith: y cartref a’r fferm; y dathlu a’r dillad; y gerddoriaeth a’r diwylliant Cymreig; yr arferion teuluol a’r wynebau cyfarwydd. Mae’r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi eu gweu drwy’i gilydd gan fynnu sylw. Mae gwaith mwy diweddar hefyd yn dwyn ysbrydoliaeth o fôr ac arfordir Penrhyn Llŷn.
Cafodd ei hethol yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig yn 2001.
Ymhlith ei chasgliadau o arlunwaith, y mae MOMA Cymru, Machynlleth; Amgueddfa Oriel Gelf Dinas Casnewydd; Cyngor Sir Gwynedd; a chafodd Casgliadau Preifat o’i gwaith eu gweld ledled y byd. Y mae wedi llwyddo i ennill llu o anrhydeddau a gwobrau. Yn eu plith, enillodd wobr Artist Preswyl i sefydliad Josef Herman yn 2011; Grant Teithio 2009 i Biennale Gelf Fenis; Tir 2009: 5 wythnos preswyliad ar Ynys Gogledd Uist, ar Ynysoedd Heledd; Syniad Da 2003, Cywaith Cymru - gyda JKA Sailmakers, Pwllheli; Artist Preswyl ym Mhlas Newydd, Llangollen 2001; derbyniodd Ganmoliaeth Uchel yn 2001 gan Syr Kyffin Williams, William Selwyn Jones a Peter Prendegast yn Young Wales 5, Academi Frenhinol Gymreig, Conwy; cafodd ganmoliaeth ym 1997 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Bala; derbyniodd Grant Teithio ym 1993 i Galway, Iwerddon; ym 1991, cafodd Ail wobr Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Yr Wyddgrug; ym 1990, derbyniodd Grant Teithio i Tsiecoslofacia; ac ym 1987, enillodd Ysgoloriaeth i Lydaw.
Dros y blynyddoedd mae Catrin wedi cynnal gweithdai ar gyfer plant ysgol o bob oedran drwy Gymru, yn ogystal ag ar brosiectau penodol yn Swydd Awythig, Lloegr, ac yn Glasgow, Yr Alban. Cynhaliodd weithdai ar gyfer grwpiau anghenion arbennig - rhai fel sesiynnau wythnosol mewn canolfannau pwrpasol, ac eraill fel prosiectau artist-preswyl. Roedd un prosiect cofiadwy ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Dywedodd Mary Lloyd Jones am waith Catrin y “gwelir fod llawer iawn o’r paentio sydd i’w weld yng Nghymru yn dilyn yr un hen fformiwla - cymylau trymion, wynebau creigiog a garw, ambell fwthyn a ffermwr a’i gi. Mae fel awyr iach gweld artist sy’n creu ei hiaith bersonol ei hun. Dangosa’i llwyddiant wrth gyfuno’i gwaith pwytho gyda’r wynebau paentiedig fod Catrin yn talu gwrogaeth i draddodiad gwaith merched tra ar yr un pryd yn torri’n rhydd o’i hualau. Dathliad mewn ffrwydriad o liw ac egni brwdfrydig yw’r gweithiau hyn - maent yn adlewyrchu hunaniaeth a phersonoliaeth Catrin ei hun.”
Mae gwaith Catrin wedi derbyn croeso ym mhob rhan o Gymru, mewn orielau celf yn yr Alban, yn Lloegr ac Iwerddon. Cafodd ei chyfres Ffrogiau Cerdd Dant eu gweld mewn ardangosfa yng Nghanolfan Arddangos Belger, Dinas Kansas, Yr Unol Daleithiau. Dywed ei Gwefan fod ei themâu cartrefol a theuluol dros amser wedi datblygu ‘i gynnwys elfennau o’r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol.’ Ychwanega fod ‘atsain o’i thirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn ei darnau diweddaraf ond arfordir a thraethau Penrhyn Llŷn yw’r ysbrydoliaeth bellach.’
Mewn Datganiad ar ei Gwefan, adroddir fod gwaith Catrin wedi ei ddangos yn helaeth gan gasglwyr preifat ‘ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Siapan, Canada ac America – ac yng nghasgliadau cyhoeddus Amgueddfa Gymreig o Gelfyddyd Fodern Y Tabernacl, Machynlleth, Cyngor Sir Gwynedd, Oriel Ceredigion, Aberystwyth, ac Oriel Casnewydd, Gwent.’
Y mae wedi ymddangos droeon ar raglenni teledu gwahanol. Dywed ei Gwefan fel y bu iddi dderbyn gwahoddiad i ymddangos ‘mewn rhaglen arbennig Nadoligaidd o’r gyfres deledu Byd o Liw – fe’i darlledwyd yn ystod Rhagfyr 2007. Dyma’r ail dro iddi gyfrannu at y gyfres – roedd yn ymateb yn gelfyddydol i boster Harry Riley o Aberystwyth ar ei hymddangosiad cyntaf. Yn 2002, cynhyrchwyd rhaglen Catrin Williams – Portread gan Ffilmiau’r Bont ac fe roddodd y rhaglen gyfle iddi edrych yn ôl o’r newydd ar ei chynefin a’i dylanwadau cynnar. Dros y degawd diwethaf, darlledwyd nifer o eitemau eraill am Catrin a’i gwaith ar amryw o sianelau teledu – S4C, BBC 1 Cymru, ITV trwy Gymru; BBC 2 drwy Brydain; a sianel TG4 yn yr Iwerddon.’
Adroddir ymhellach ar ei Gwefan fod Catrin Williams, dros yr ugain mlynedd oddi ar iddi raddio yn y Coleg Celf yng Nghaerdydd, yn parhau i baentio a darlunio’i byd. ‘Mae’n datblygu cyfresi o waith unigryw,’ meddir, ‘yn eu harddangos yn gyson ac yn credu’n gryf mewn annog a chefnogi artistiaid eraill – o oed y dosbarthiadau meithrin ymlaen ac o bob cornel o’r gymdeithas. Yn aml iawn, daw ar draws myfyrwyr colegau celf sy’n astudio’i gwaith – myfyrwyr sy’n awyddus i drafod ei chrefft ac yn awyddus i ennyn ei brwdfrydedd.’ Nid rhyfedd i neb llai na Syr Kyffin Williams ddatgan ym mis Ebrill 2003 mai Catrin Williams yw’r arlunydd haniaethol gorau yng Nghymru.
Stiwdio Pwy? Who's Studio? Catrin Williams 28.05.20