Cynan - Bardd, Llenor, Dramodydd

Ioan Roberts yn cofio am ...

Cynan - Bardd, Llenor, Dramodydd

Llechen i nodi ei fan geni yn Stryd Penlan, darlun olew ohono yn siambr y Cyngor Tref, llechen arall ar Ffynnon Felin Bach ym Mhen Lôn Llŷn, a bloc o fflatiau o’r enw Bro Cynan ar waelod Lôn Caernarfon. Dyna rai o’r pethau sy’n atgoffa’r trigolion a’r ymwelwyr mai un o hogia Pwllheli oedd Cynan: bardd, pregethwr, archdderwydd, actor, perfformiwr ac un o gymeriadau mwyaf lliwgar Cymru’r ugeinfed ganrif.

Ganwyd Albert Evans-Jones - enw barddol oedd Cynan – yn 1895 yn Liverpool House, siop a chaffi gyferbyn â safle Neuadd Dwyfor heddiw. Er mai enw Saesneg oedd y siop dywed Cynan yn ei hunangofiant mai Cymraeg oedd yr iaith fusnes yno bob amser, “ac eithrio tymor byr yr ymwelwyr haf”. Roedd ei dad yn hoff o farddoni ac roedd ganddo grap ar y gynghanedd.

Roedd ei nain yn byw ym Mhen Lôn Llŷn, a hi fyddai’n ei anfon i nôl dŵr yn Ffynnon Felin Bach, ar y ffordd i Efail Newydd. Yn 1968 aeth y Cyngor Tref ati i lanhau ac atgyweirio’r ffynnon, a gosod plac arni yn dyfynnu cwpled enwog o’i bryddest Mab y Bwthyn:

Does dim wna f’enaid blin yn iach Fel dŵr o Ffynnon Felin Bach.

Pan oedd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli cafodd niwmonia, ac yn ystod y gwaeledd hwnnw darllenodd gyfrol Telynegion Maes a Môr gan Eifion Wyn, a dechrau gwirioni ar farddoniaeth. Rhoddodd gynnig ar drosi rhai o’r cerddi i’r Saesneg, a dangosodd yr ymdrechion i’w athrawes Gymraeg. Rhoddodd hithau delynegion Saesneg a Ffrangeg iddo i’w trosi i Gymraeg. Cyhoeddwyd y rheini gan Syr O.M. Edwards yn ei gylchgrawn Cymru Coch.

Aeth i astudio Cymraeg ym Mangor dan yr Athro John Morris-Jones, gan raddio yn 1916. Ymunodd wedyn â ‘Welsh Students Company’ y Corfflu Meddygol Brenhinol (RAMC), gan wasanaethu yn Salonica a Ffrainc, yn gyntaf fel cariwr stretsiars ac wedyn fel caplan. Y profiadau hynny oedd wrth wraidd y bryddest Mab y Bwthyn, a enillodd y Goron yn
Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1921,a'r delyneg boblogaidd Anfon y Nico i Landwr.

Yn ei ddarlith Cynan y llanc o dref Pwllheli, a draddododd i Glwb y Bont Pwllheli, mae’r Athro Bedwyr Lewis Jones yn dadlau mai Cynan oedd yr unig fardd Cymraeg i ganu o ganol profiad uniongyrchol o erchylltra’r Rhyfel Mawr. Roedd rhai fel Siegfried Sassoon a Wilfred Owen wedi ‘canu’n realistig blaen am y mwd a’r ing a’r cyrff’. Dim ond Cynan oedd wedi gwneud hynny yn Gymraeg - roedd Hedd Wyn wedi ei ladd cyn cael cyfle i lunio cerddi o’r Ffrynt.

Wedi’r rhyfel aeth Cynan i Goleg Diwinyddol y Bala a chael ei ordeinio’n weinidog y Presbyteriaid ym Mhenmaenmawr. Gadawodd y weinidogaeth yn 1936, er iddo barhau i bregethu am weddill ei oes. Ymunodd â staff Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol ym Mangor fel tiwtor, ac aros yno tan ei ymddeoliad yn 1936.

Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith i gyd, a chafodd ei wneud yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd yn 1935. Bu’n Archdderwydd rhwng 1950 a 1954, a thrachefn rhwng 1963 a 1966, yr unig un erioed i ddal y swydd ddwywaith. Fel Cofiadur aeth ati i chwyldroi seremonïau’r Orsedd er mwyn eu gwneud yn fwy deniadol i’r gynulleidfa, ac mae stamp Cynan ar y rheini hyd heddiw.

Cafodd ei wneud yn Syr yn 1969, flwyddyn cyn ei farw.

Dylan Tudur a Mererin Hopwood yn trafod Cynan

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen "Cynan: Dathlu 120 Mlynedd".


Enwogion