Dafydd Glyn Lloyd Hughes - Gwas Sifil, Hanesydd, Awdur

Owen Roberts a Hywel Teifi yn cofio . . ..

Dafydd Glyn Lloyd Hughes, M.A. - Gwas Sifil, Hanesydd, Awdur

Ar Dachwedd 13, 2007, ac yntau’n 86 mlwydd oed, bu farw un o gymwynaswyr mwyaf tref Pwllheli, sef Dafydd Glyn Lloyd Hughes, M.A. Cofiaf am Dafydd fel cyfaill ffyddlon a dibynadwy iawn a pharod ei gymwynas, er iddo ymadael â Phwllheli ers rhagor na hanner can mlynedd ynghynt i ddilyn galwadau ei swydd fel rheolwr ardal i’r Yswiriant Cenedlaethol.

Ganed ef ar Ionawr 8, 1921, yn fab i Robert a Dilys Hughes, Glyn, Marian y De, Pwllheli. Gwerthwr nwyddau fferm oedd ei dad, a’i fam yn ferch i deulu o gyfreithwyr yn y dref. Aeth i Ysgol Troed-yr-allt. Collodd ei dad pan oedd yn 14, a gorfodwyd ef i adael yr ysgol ddwy flynedd wedyn. Ym 1939, ymunodd â’r fyddin, a chafodd ei anfon i Ffrainc. Aeth drwy brofiadau erchyll yn Dunkirk. Daliodd y diciâu, a theulio rhai misoedd mewn sanatoriwm. Ym 1949, wedi’r Rhyfel, ymunodd â’r Weinyddiaeth Drafnidiaeth a’r Weinyddiaeth Bensiynau, a daeth yn Rheolwyr eu Swyddfa ym Mhwllheli. Priododd â Beunwen Thomas, merch o deulu parchus ym Mhwllheli yn nechrau 1949, a chawsant ddau o feibion, Beuno a Bleddyn. Cafodd ddyrchafiad yn ei swydd ym 1957, a symud i reoli swyddfa’r Garnant, yn Sir Gaerfyrddin, a symudodd y teulu i fyw i Dde Cymru. Ym 1960, symudodd i reoli swyddfa Aberystwyth. Fis Awst 1964, bu farw Beunwen yn greulon o gynamserol wedi goroesi cyfnod anodd iawn. Mewn amser – 1965 – priododd â Gwenda, merch o’r De. Ymgartrefodd Dafydd a Gwenda ym Mhorth Tywyn, ac er iddo ymddiddori mewn hanes lleol, a chyfrannu ysgrifau i gylchgronau, credaf mai yn y cyfnod yma y dechreuodd dyrchu a chwilota o ddifrif. Dioddefodd Gwenda o hen anhwylder blin am flynyddoedd lawer. Bu hi farw ddydd Nadolig 2006.

Yn ystod fy nhymor i fel Maer y Dref, gofynnais i Dafydd a fyddai’n ystyried ‘sgrifennu cyfrol o hanes tref Pwllheli i’w gyhoeddi cyn i fy nhymor ddod i ben! Derbyniodd yr her a dechreuodd y ffôn ganu ddydd a nos. Dafydd ddim yn gweld y ffordd yn glir. Dafydd wedi ail-afael ynddi. Helynt hefo’r argraffwyr. Angen lluniau. Torri ei galon drachefn! Hyn am flwyddyn gyfan. O’r diwedd, daeth diwrnod y lansio. Darlith, yn gyntaf, ac wedyn dechrau gwerthu Hanes Tref Pwllheli (1986). Cyhoeddwyd ganddo Pwllheli, An Old Welsh Town and its History (1992), a Tir yr Abad. Hanes New Inn a Gwyddgrug yn Shir Gâr (1996). Gwelodd yn dda i gyflwyno Hanes Tref Pwllheli ‘I Sara, Gwilym, Now a’u tebyg,’ a Tir yr Abad ‘i’w briod Gwenda,’ gan mai dyna oedd ei hardal hi – ardal yr aeth Dafydd i fyw ynddi yn dilyn ei ymddeoliad ym 1985, a’r ardal y bu farw ynddi fis Tachwedd 2007, fel ei briod, Gwenda, gwta flwyddyn ynghynt. Bu ganddo gyfraniadau yn Llanw Llŷn, Y Garthen a’r Casglwr yn ogystal ag ambell gylchgrawn academaidd fel Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. A lluniodd ysgrifau am Gwm Aman a Merthyr a Thaf yng Nghyfres y Cymoedd.

Cefais y fraint, hefo cymorth parod Cyngor Tref Pwllheli, i’w anrhydeddu ar ran y dref. Nid oedd hawl erbyn hynny i’r Cyngor gyflwyno Rhyddid y Fwrdeisdref iddo, felly cyflwynwyd Medal Arian werthfawr iddo, a thalp o Garreg yr Imbyll yn wely iddi. Ar un ochr i’r Fedal, yr oedd arfbais y dref, ac ar y llall ysgrif Gymraeg yn mynegi gwrthfawrogiad tref Pwllheli. Hefyd, yr un diwrnod, dathlwyd pen blwydd y Cyngor Tref yn gant a hanner mlwydd oed gyda gwledd a mwynhad.

Bu Dafydd yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli yn ei ddyddiau cynnar, ac yn aelod o’r pwyllgor llywio oedd â chyfrifoldeb am sefydlu Clwb Hwylio ym Mhwllheli, ac – os cofiaf yn iawn – yr oedd enw Dafydd ymysg y tri cyntaf ar restr aelodau’r Clwb. Bydd chwithdod garw i amryw ohonom wrth gofio nad yw Dafydd bellach ar y pen arall i’r ffôn.

Wedi clywed am ymadawiad Dafydd, bu fy nghyfaill, y diweddar Gynghorydd Wyn Elias, minnau’n pendroni’n hir ynghlŷn â theyrnged deilwng i’n cyfaill. Roeddem yn cymeryd yn ganiataol y byddai cyfaill arall Dafydd, yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn sicr o ddwed gair. Ac fe wnaeth.

Yn ei deyrnged, mae’r diweddar Athro Hywel Teifi Edwards yn disgrifio Dafydd fel ‘talp o ddiwylliant Pen Llŷn, a Phwllheli oedd ei dref enedigol.’ Daethai’r Athro i’w adnabod, ac i wneud cyfaill ohono, pan ymunodd Dafydd, ar ddechrau’r 1970au, â’i ddosbarth Llenyddiaeth Gymraeg yn festri Capel Als, Llanelli. “Fel un a’i cafodd yn gyfaill am lawer blwyddyn,” meddai, “ac a gafodd sawl cyfle i werthfawrogi ei ddeallusrwydd gloyw, nid wyf yn petruso dweud y buasai cael Cymry o’i ansawdd ef i wasanaethu yn ein Cynulliad Cenedlaethol, wedi bod y gryn ennill i achos Cymru. Nid oes dim amheuaeth am y gamp oedd o gwmpas Dafydd, y gwas sifil.” Dywedodd fod Dafydd yn ymhyfrydu yn ei Gymreictod, a bod ganddo lawer i’w gyfrannu at bob sgwrs. Roedd wedi bod yn gweithio yn Llundain, yn Blackpool a Leamington, a sawl man arall. Roedd yn cofio am gymeriadau, digwyddiadau a sêr y byd chwaraeon, megis tîm Arsenal cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. “Pan ddisgrifiai ddewiniaeth Alex James, byddwn yn ei alw yn hen ddiawl lwcus!”

Cyfeiria’r Athro Hywel Teifi at yr adeg pan oeddent yn darllen Pigau’r Sêr G.J. Williams, yn y dosbarth, ac fel y bu iddo ofyn i’w gyfaill os oedd yn gyfarwydd ag ardal y llyfr. Atebodd yntau ei fod yn adnabod Jack, yr awdur. A phenderfynasant fynd ar daith i’r Gogledd. “Tyfodd yn drip blynyddol a barodd am ddwy flynedd ar bymtheg, pan gafodd criw ohonom, pererinion o Borth Tywyn hyd at Gwmllynfell, ein tywys ganddo ar hyd a lled y Gogledd gan elwa’n fawr ar ei wybodaeth helaeth. Nid tripiau di-baratoad oeddynt – dyn ymchwil oedd Dafydd.” Ar y dechrau, roeddent yn aros yn y Crown ym Mhwllheli hefo Gwyndaf a Mrs. Jones, ac wedyn aros yng Nghricieth hefo Mrs. Stewart Jones. “Sôn am fwynhau! I rai o’r bois roedd y Gogledd yn ‘ddierth,’ a bu ambell Star Treck o daith – megis honno ar draws gwlad i weld bedd y bardd yn Llanfair Talhearn. Rwy’n siwr i fi glywed yr hen Dal, yn ymbil am gael dod gyda ni wrth i ni adael y fynwent.”

Dywed yr Athro yn ei deyrnged mai fel gwas sifil yr enillodd Dafydd ei fara, “ond petai amgylchiadau ei fagwraeth wedi caniatáu byddai heb os wedi graddio mewn prifysgol. Roedd ganddo anian ac angerdd ysgolhaig, ysgolhaig o hanesydd, a bu cael ei gyflwyno yn Aberystwyth yn haf 2002 am radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, yn brofiad tra phleserus i mi.” Dywed ymhellach y byddem yn wlad freintiedig iawn, “pe câi pob tref a phentref yng Nghymru hanesydd hafal i Dafydd i agor eu llygaid i ryfeddod troeon eu taith.” Byddem hefyd yn sicrach ohonom ein hunain.

Dywed fel yr arferai ymweld â Dafydd yng Ngwên-y-wawr bron bob mis wedi iddo ymddeol i New Inn, ac am eu harfer yn ciniawa yn y Ram yng Nhwm-ann, “pan oedd hi’n dafarn hyfryta’n bod,” ac fel y byddai wrth ei fodd yn adrodd hanes Beuno a Bleddyn, ei feibion. “Ar y ffordd nôl â’n ganu weithiau, a byddai’i werthfawrogiad o’i hen arwr, Cynan, yn sicr o ‘Anfon y Nico’ ar daith eto fyth. Mi fentra i fod Dafydd nawr, yn ôl ei haeddiant, wedi cyrraedd y wlad –

Lle ma’r haf yn aros hira,
Lle ma’r awal iach mor ffri,
Lle ma’r môr a’r nefoedd lasa’
Gwlad y galon – dyna hi.”


Enwogion