Ioan W. Gruffydd yn cofio’r Athro ...
David Richard Seaborne Davies, (1904-1984)
Mae David Richard Seaborne Davies yn cael ei ddisgrifio fel cyfreithiwr, gwleidydd ac Athro Coleg. Cafodd David Richard Seaborne Davies ei eni ym Mhwllheli, ar 26 Mehefin 1904, ’Roedd yn fab i David Seaborne Davies a’i briod, Claudia Annie Davies. Capten llong a aned ar y môr ym 1869 oedd ei dad, David Seaborne Davies, ac yntau, yn ei dro, yn fab i David Davies a’i briod, Anne, a oedd yn hanu o Lerpwl. ’Roedd eu cartref nhw yn Angorfa, Pencaenewydd. Gwraig o Bwllheli oedd ei fam, Claudia Annie Davies, a’i chartref yn 78 Stryd Fawr, Pwllheli. Un o Nefyn oedd ei thad hi, William Davies, a oedd yn cadw siop nwyddau haearn yno. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd yno gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ym 1924. Gwnaeth orchest gyffelyb yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yno daeth ar ben y rhestr yn nhreipos y Gyfraith, a dyfarnwyd iddo Wobr Yorke ym 1928. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, bu’n llywydd Cyngor y Myfyrwyr. Cafodd ei alw i'r bar, ond fel darlithydd yr enillodd ei fywoliaeth yn ddiweddarach, a bu'n Ddarllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Llundain o 1929 hyd 1945. Yn ystod blynyddoedd blin y rhyfel, gwasanaethodd o fewn Adran Genedligrwydd y Swyddfa Gartref, ac ym 1944 – 45, ef oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Dirymiad Cenedligrwydd.
Fis Mai 1945, yn dilyn dyrchafiad David Lloyd George - yr AS dros Fwrdeistrefi Caernarfon ers 1890 - i Dŷ'r Arglwyddi yn y mis Ionawr blaenorol, llwyddodd David Richard Seaborne-Davies i gadw'r Fwrdeistref yn ddiogel i'r Blaid Ryddfrydol mewn is-etholiad, gan ennill 27,754 o bleidleisiau yn erbyn ei unig wrthwynebydd, yr Athro J. E. Daniel, a oedd yn sefyll yn enw Plaid Cymru. Roedd y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur wedi penderfynu peidio rhoi ymgeisydd - yn unol â thelerau'r cytundeb a fodolai dros y rhyfel. Ond yn yr etholiad cyffredinol y mis Gorffennaf canlynol collodd David Richard Seaborne-Davies o drwch blewyn – cipiwyd y sedd, gyda mwyafrif o 336 o bleidleisiau’n unig, gan y Ceidwadwr, D. A. Price-White. Fel canlyniad, bu David Richard Seaborne-Davies yn cynrychioli'r etholaeth am un o'r tymhorau byrraf gan unrhyw aelod seneddol yn yr ugeinfed ganrif. Yn ystod yr ymgyrchoedd etholiadol hyn a ddenodd gryn sylw, galwai David Richard Seaborne-Davies yn gyson am benodi Ysgrifennydd Gwladol i Gymru ac am sefydlu Cyngor Ymgynghorol i Gymru yn y gobaith o geisio delio â'r problemau niferus a oedd yn wynebu Cymru a’i phobl bryd hynny.
Yn ddiweddarach, cafodd David Richard Seaborne-Davies ei benodi’n Athro'r Gyfraith Gyffredin ym Mhrifysgol Lerpwl rhwng 1946 a 1971. Yn Lerpwl, gwasanaethodd fel Deon Cyfadran y Gyfraith, 1946-56. Cafodd ei benodi’n warden Neuadd Derby ym 1947, gan barhau yno hyd 1971, ac yn Is-Ganghellor o 1956 hyd 1960. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am gynllunio adeilad Cyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl ac adlewyrchai'n gryf ei argyhoeddiad bod y myfyrwyr yno'n haeddu’r gorau y gellid ei gael. Gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Trwyddedau Lerpwl o 1960 hyd 1963. Yn dilyn ei ymddeoliad, daliodd i fynychu nifer fawr o ddigwyddiadau yn y brifysgol gan amlygu brwdfrydedd a diddordeb mawr yn yr hyn oedd yn digwydd yno.
Cyhoeddodd nifer sylweddol o erthyglau uchel eu parch mewn sawl cylchgrawn proffesiynol ar gyfer cyfreithwyr, yn fwyaf arbennig ar hanes breintlythyrau. Ymddangosodd llawer o’r erthyglau hynny yn y Law Quarterly Review, y Modern Law Review a Nineteenth Century. Ar ôl ymddeol ym 1971, symudodd i fyw i Gaernarfon, lle bu’n dilyn rygbi. Bu'n Llywydd am Oes Clwb Rygbi Prifysgol Lerpwl ac Is-lywydd Clwb Rygbi Cymry Llundain, a daeth yn Lywydd Clwb Chwaraeon Pwllheli am ddeng mlynedd. Gwasanaethodd fel ynad heddwch yn Lerpwl a Chaernarfon, ac ef oedd Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1967 - 68.
Roedd David Richard Davies yn siaradwr wedi cinio arbennig iawn, yn difyrru ei gynulleidfa gyda chronfa helaeth o straeon Cymreig, yn amrywio o'r academaidd at yr athletaidd, ac yn addas ar gyfer pob cynulleidfa o bobl. Ond o’r tu ôl i hyn oll, roedd ymrwymiad hollol ddifrifol. Bu dros y byd yn traddodi darlithiau, ac ym 1967 traddododd ddarlith flynyddol BBC Cymru ar y testun, ‘Welsh Makers of English Law’. Gydol ei fywyd, bu doniau arbennig yr Athro D.R. Seaborne-Davies yn gyfrifol am ei ddenu i fywyd cyhoeddus, gweinyddiaeth, addysgu a lles myfyrwyr.
Bu ganddo amryw byd o swyddi cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethu fel llywydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1958, 1973 a 1977. Roedd ganddo gartref yn Y Garn, Pwllheli, ac yn 8 Gayton Crescent, Hampstead, Llundain. Bu farw 21 Hydref 1984.