Doctor Gwenda - Meddyg

Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .

Doctor Gwenda

Bellach, aeth llawer blwyddyn heibio. Byw yn Llithfaen yr oeddem ni fel teulu ar y pryd pan fu galw am gymryd fy chwaer i weld meddyg yn dilyn damwain a gafodd. Dydd Sul oedd hi, a’r unig feddyg a oedd ar gael yn y cylch ar y Sul hwnnw, meddid, oedd meddyg a oedd yn byw ym Mhwllheli. Deliodd y meddyg â’r broblem, a rhoddodd i’m chwaer ddol fach yn anrheg. Pan fu i mi grybwyll hynny wrth y meddyg, pan euthum i’w gweld yn ei chartref ym Mhlas Heulog, Lôn Ceredigion, Pwllheli, yn gymharol ddiweddar, dywedodd wrthyf ei bod yn arferiad ganddi i roi rhodd felly i blant bach a ddeuai ati am driniaeth. Y meddyg oedd y Doctor Gwenda.

Unig blentyn oedd y Doctor Gwenda Wynne Evans i’r diweddar Ddr. a Mrs. W. Charles Evans, Pwllheli. Aeth hithau i ddilyn yr un gyrfa â’i thad. Bu’n feddyg teulu am flynyddoedd yn Llundain ac yng Nghaergrawnt, cyn dychwelyd, yn y 1950au, i ymuno â gwaith meddygol ei thad ym Mhwllheli, ac yn ddiweddarach, ym Meddygfa Treflan yn y dref.

Yn rhinwedd ei swydd fel meddyg teulu, daeth y Doctor Gwenda i gysylltiad â llu mawr o drigolion Pwllheli a’r cylch, a mawr oedd gwerthfawrogiad, parch ac edmygedd y trigolion hynny ohoni dros flynyddoedd lawer ei gwasanaeth yn eu plith.

Yr oedd yn ffigwr amlwg ym mywyd Pwllheli a’r cylch, a rhoes gyfraniad gwerthfawr a nodedig iawn i gylchoedd gwahanol bywyd y dref a’r ardal. Hi oedd Llywydd Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli. Bu’n gadeirydd Llys Ynadon Pwllheli yn ystod 1989 - 93. Bu’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli, lle gwasanaethodd fel Maer. Yr oedd yn aelod o’r Soroptimyddion, o Gyngor Cymru Wledig, yn un o gyfeillion Oriel Plas Glyn y Weddw. Yr oedd hefyd yn aelod ac yn gefnogydd brwd i nifer dda o elusennau gwahanol. Crwydrodd yn eang gan ymweld, yn eu tro, â gwledydd fel Iran, Gwlad Iorddonen, Cambodia, Periw ac India. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn niwylliant, yng nghelfyddyd ac yn henebion y gwledydd hynny. Roedd yn hoff iawn o ymweld ag eglwysi cadeiriol, ac ag eglwysi bychain diarffordd. Bu’n mynychu llu o gyrsiau penwythnos ar bensaerniaeth eglwysig. Roedd yn gyson gefnogol i’r hyn a ddigwyddai yn ei chymuned. Ac yr oedd ei ffydd yn rhyfeddol o bwysig iddi. Am flynyddoedd, bu’n aelod ymroddgar yng Nghapel Penmownt, ym Mhwllheli, ac wedi hynny yn Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch, lle gwasanaethai fel warden.

Bu’r Doctor Gwenda Evans farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 87 mlwydd oed, ar Hydref 19, 2015. Daeth cynulleidfa gref i’r gwasanaeth cyhoeddus a gynhaliwyd yn Eglwys Cawrdaf Sant, Abererch, ar ddydd Llun, Hydref 21, o dan arweiniad Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Carroll Jones, a’r Parchg. Peter Pyke. Rhoddwyd y deyrnged gan y Parchg. Arthur Meirion Roberts. Mae ei bedd ym Mynwent Deneio ym Mhwllheli.


Enwogion