Dr Osian Ellis
Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .
Doctor Osian Ellis
Prin fod ymysg trigolion tref Pwllheli un a oedd heb unrhyw amheuaeth yn teilyngu ei le ymysg rhestr Enwogion y Dref, na’r Athro Telyn dawnus a’r cyfansoddwr hynaws, y Doctor Osian Ellis.
Ganwyd Osian Ellis yn Ffynnongroyw, Sir Flint, yn fab i’r diweddar Barchg. Thomas Griffith Ellis, a’i briod, Hanu o Lanbedr, ger Harlech, ym Meirionnydd yr oedd ei dad. Yn Aberdaron, fodd bynnag, y ganwyd ei dad a hynny ym 1888, a’i dderbyn yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd ym 1915. Ymddeolodd y tad ar restr gweinidogion uwchrif ei enwad ym 1954, a bu farw ym Mhrestatyn ar Awst 27, 1985.
Bu Osian Ellis gyda’i rieni, a phlant eraill y teulu, yn symud o ardal i ardal yn dilyn symudiadau ei dad fel gweinidog Wesle. Buont fyw fel teulu ar wahanol gyfnodau yn nhrefi arfordir y Gogledd: yn Ffynnongroyw, Colwyn, Abergele, Dinbych, a Threffynnon. Credai’r tad, fodd bynnag, y dylasent gael cartref parhaol, a gofalodd am fwthyn iddynt o’u plentyndod yn Aberdaron, lle medrent dreulio llawer o’u hamser mewn awyrgylch hollol Gymraeg , Gymreig a chartrefol, a chymysgu a sgwrsio’n ddiddan gyda’r pentrefwyr – gofaint, ffarmwrs, cryddion, melinydd, a’r pysgotwyr (y cwyllwrs) a hwylient o Borth Meudwy i ddal crancod a chimychiaid, ac o Ynys Enlli, Siôn Tŷ Lôn, a’i gyfaill, Wil Tŷ Pella’; ac roedd teulu John Wesla mewn cwch bach (ac injan ar ei gefn) yn mwynhau’r gyfeillach. Cofiai Osian Ellis yr adeg y daeth ei nain atyn nhw i’r bwthyn, Nain Glanymôr, i gael gwrando arno’n canu ei delyn ar ôl ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1943, a dyma fo’n dechrau perfformio y darn prawf, disglair, ond ymhen rhyw funud gofynnodd Nain i’w fam, “Fydd o’n hir eto?”
Wrth orfod symud o le i le, byddai plant y Parchg. T.G. Ellis, yn derbyn eu haddysg yn ysgolion lleoedd gwahanol. Yn Ysgol Ramadeg Dinbych, byddai Osian Ellis yn chwarae pel-droed – ef fyddai ceidwad y gôl. Bu hefyd yn gapten tîm criced ei ysgol. Cafodd gefnogaeth a chyfarwyddyd ei athrawon yno, a chan ei ddau athro cerdd yn arbennig felly – gwŷr oedd yn gerddorion yn eu hawl eu hunain – y diweddar Emrys Cleaver oedd un ohonyn nhw.
Yn ddwy ar bymtheg oed, wedi derbyn ysgoloriaeth, aeth Osian Ellis i astudio i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Gwnaeth hynny o dan gyfarwyddyd Gwendolen Mason, gwraig y bu iddo’n ddiweddarach ei dilyn yn y swydd aruchel honno fel Athro Telyn yr Academi – swydd a gyflawnwyd ganddo am 30 mlynedd, o 1959 hyd 1989, pan ddychwelodd i Gymru, a symud i fyw i Bwllheli.
Bu'r Dr. Osian Ellis yn chwarae gyda nifer o gerddorfeydd enwoca’r byd, ac ef oedd Prif Delynor Cerddorfa Symffoni Llundain oddi ar 1960. Bu hefyd yn aelod o'r Ensambl Melos. Enillodd ei recordiad, ym 1959, o gonsierto Handel i’r delyn (gyda Thurston Dart) wobr y Grand Prix du Disque. Ym 1962, yr oedd y cerddor, Paul Loeber, yn ystyried cyflwyniad y Melos Ensemble, gydag Osian Ellis fel unawdydd, fel y cyflwyniad gorau erioed o Ragymadrodd ac Allegro Ravel, sydd megis Consierto i'r Delyn. Rhyddhawyd y record ar label L'Oiseau Lyre, OL50217.
Dr. Osian Ellis oedd awdur y gyfrol, 'Hanes y Delyn yng Nghymru', a bu'n aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd. Bu ragor nag unwaith yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd Benjamin Britten ei ‘Gyfres o Ddarnau i’r Delyn yn C fwyaf' yn arbennig ar ei gyfer. Roedd Dr. Osian Ellis yntau’n gyfansoddwr cywrain a medrus ei hun, ac yr oedd ganddo ddarn arbennig i ddwy Delyn, sef ‘Clymau Cytgerdd’ ar ei gryno ddisg gyda SAIN, yn ogystal ag enghraifft o ganu Cerdd Dant i'w gyfeiliant ei hun. Dros y blynyddoedd, bu'n athro i nifer o delynorion amlwg, pobl fel Elinor Bennett y eu mysg, ac yn ddi-os, mae'n un o’r rhai a fu'n bennaf gyfrifol am sicrhau fod i’r delyn ei lle arbennig fel offeryn cenedlaethol Cymru.
Yr oedd yn awdurdod ar ganu gwerin, a gwnaeth lawer i ddangos gwerth caneuon gwerin Cymru, nid yn unig yng Nghymru ei hun, ond i bobl llawer gwlad arall hefyd. Teithiodd yn eang gyda’i delyn dros y blynyddoedd i lawer rhan o’r byd, ac ymddangosodd ar lwyfannau cerdd mewn llu o’r dinasoedd pwysicaf. Cafodd nifer helaeth o adolygiadau cerddorol canmoliethus. Yn Buenos Aires, Yr Ariannin, er enghraifft, fis Hydref 1965, dywedwyd amdano ei fod yn artist yr oedd yn rhaid i Buenos Aires ei ystyried yn un o’r dehonglwyr telyn digleiriaf. Yn Copenhagen, Denmarc, wedyn fis Chwefror 1974, dywedwyd fod canu telyn Osian Ellis mor berffaith fel na ellid ei ddirnad a bod ei feistrolaeth artistig yn un nad oedd curo arni . . . a’i bod yn noswaith gerddorol gyffrous a chyfoethog. Drachefn yn y Los Angeles Times, fis Medi 1974, mynnid fod cyfraniad y telynor, Osian Ellis, yn dwyn yr holl sylw. Wedi cyfuno disgrifiad barddonol gyda ffraethineb a thro iddo, aeth ymlaen i wau dehongliad cywrain, lliwgar, grymus a hamddenol o Gyfres o Ddarnau Telyn disglair Britten. Wedi gwneud hynny, hawdd oedd dod o dan ei gyfaredd wrth i Ellis, yn cyfeilio iddoi’i hun, ganu detholiad o ganeuon gwerin Cymraeg hiraethus mewn llais bariton melodaidd.
Cymraes o Bwllheli, Rene Ellis Jones, oedd ei briod. Yr oedd hithau’n gerddor medrus gyda’i fiola. Cawsant ddau fab, Richard Llywarch, a Tomos. Bu Tomos farw yn 2009.
Bu’r Dr. Osian Ellis yn canu’r organ mewn capel ers pan oedd yn 12 oed, ac yr oedd yn un o ffyddloniaid Seion y Wesleaid ym Mhwllheli, ac yn un o organyddion yr eglwys cyn i Seion ac achos y Wesleaid ym Mhwllheli ddirwyn i ben. Roedd yn ŵr diymhongar iawn, ac yn byrlymu o hiwmor. Digwyddais ei holi y dydd o’r blaen am ei weinidog. ”Ydy o’n gyrru ar hyn o bryd?” holais. A’r ateb annisgwyl a gefais ganddo oedd, “Mae o’n dreifio. Wn i ddim os ydy’ o’n gyrru!”
Ac yntau yn 92 mlwydd oed, bu farw’r Dr. Osian Ellis yn ei gartref ym Mhwllheli ar Ionawr 5, 2021, a rhoddwyd i orffwys y medd ei briod yn ei hoff Aberdaron gyda’r Archddiacon Andrew Carrol Jones yng gofal y gwasanaeth.