Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .
Eleazar Roberts [1825 - 1912]
Er mai â dinas Lerpwl yr arferid cysylltu enw Eleazar Roberts, nid yn y ddinas honno y ganed ef. Cafodd ei eni yn Stryd Pen Lôn Llŷn ym Mhwllheli ar 15 Ionawr, 1825, yn fab i John a Margaret Roberts. Gŵr cyffredin ei amgylchiadau oedd John Roberts, ei dad, yn hanu o Aberdaron a saer coed wrth ei alwedigaeth. Yr oedd ei dad yn cael ei adnabod, fodd bynnag, fel gŵr o synnwyr cryf, fel crefftwr da, fel darllenwr mawr, fel gŵr cadarn ei wybodaeth ysgrythurol ac fel gŵr gonest a chrefyddol. Yr oedd Margaret Roberts, mam Eleazar Roberts, yn un o ragorolion y ddaear, ac adroddir ei bod yn fwy dwys ei theimladau ac yn fwy efengylaidd ei hysbryd na’i phriod. Lle byddai ei phriod yn mwynhau darllen rhai o lyfrau hanes yr Hen Destament ac ambell lyfr hanes a gwyddonol gan awduron diweddar, byddai ei hi wrth ei bodd yn darllen Llyfr y Salmau, yr Efengylau, emynau Pantycelyn ac Ann Griffiths a Geiriadur Charles. Ac o’r ddau riant, ei fam, meddir, a fu’r dylanwad pennaf ar ei mab: hi oedd y gallu cryfaf I ffurfio’i gymeriad a rhoi cyfeiriad a symbyliad i’w fywyd. Yn ei hunangofiant, a ymddangosodd yn Y Genhinen, mae Eleazar Roberts yn dweud iddo gael ei fedyddio ym Mhwllheli "gan yr enwog Michael Roberts.
Pan nad oedd y mab, Eleazar, namyn deufis oed, symudodd y teulu i fyw o Bwllheli i Lerpwl. Yno yr addysgwyd ac y magwyd ef, ac yno yr oedd i aros gydol ei oes. Yn ei hunangofiant, mae'n dweud, "Gwn y byddai Michael Roberts yn arfer dod i edrych am fy rhieni pan ddeuai i Liverpool ar ei gyhoeddiad; ac yr wyf yn cofio mor chwithig yr oedd yn fy nharo i yn hogyn mai "Begws" yr arferai alw fy mam. Nid oedd neb y meddyliai hi fwy ohono na Michael Roberts. Yr oedd ei pharch iddo yn ymylu ar addoliad."
Y mae'n canmol ei dad yn fawr hefyd. Dywed amdano, "Yr oedd yn un o lawer. Y mae yn werth croniclo ychydig o'i hanes. Yn hytrach nag i mi fy hun ei ganmol, caniataer i mi, yn y fan yma, gyfieithu llythyr a ddanfonwyd i mi gan y diweddar Barch. Richard Lumley, yr hwn oedd yn gyfaill calon iddo. Fel hyn yr ysgrifennodd ataf, ar achlysur marwolaeth fy nhad:-
Egremont, Ion. 23 1879
Annwyl Gyfaill,
Cyffrowyd fi yn ddirfawr bore ddoe, pan welais yn y papur yr hysbysiad am farwolaeth eich hen dad parchus . . Ychydig a feddyliais, pan ydoedd yn cymeryd ei gwpanaid o de wrth fy mwrdd yn ddiweddar, fod yr hwn a letywn mor fuan i eistedd gydag Abraham, Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd. Pe buaswn yn gwybod, buaswn yn meddwl mwy o'r hwn a ddaeth at fy nrws fel John Roberts o Everton, ac a ddywedodd wrth y forwyn fod arno eisiau fy ngweled. Gallaf sicrhau i chwi, allan o bawb a ddaeth i edrych amdanaf yn nydd fy nhrallod, na fu un ag yr oedd ei bresenoldeb yn cael ei werthfawrogi yn fwy gennyf nag efe; ac y mae yn dda gennyf feddwl i mi gael y cyfleusdra o roddi iddo y cwpanaid o ddŵr a wneuthum, yn enw disgybl. Mae'n debyg mai yn ddiarwybod bob amser y lletyir angylion. Mor fawr y byddaf yn teimlo ei golli! Many wrinkle (a Yankee phrase) did I receive from his common sense reading of the Old Book. Bydd hanner fy ngwrandawyr yn Fitzclarence Street wedi mynd. Mae rhai personau unigol yn werth catrawd cyfan o Gristionogion cyffredin: maent yn gwneud i fyny am ddiffygion y dorf o'u cwmpas. . . Yr wyf yn eich llongyfarch am eich bod yn fab i John Roberts. Bydded i chwi hyd eich dydd olaf brofi eich hun yn deilwng ohono. . ."
Ac yntau’n dair ar ddeg oed, cafodd ei brentisio fel clerc mewn swyddfa a bu’n gwneud hynny am saith mlynedd. Cyfnod anodd a chaethiwus oedd hwnnw iddo: cyfnod o waith caled ac o weithio oriau hir. Byddai’n codi’n gynnar a mynd yn hwyr i gysgu. Bu’n llafurio i’w ddiwyllio’i hun ac ehangu ei wybodaeth a gwneud iawn am ei ddiffygion addysg gynnar. Aeth i ysgol nos yn y Liverpool Imstitute. Darllenai’n eang. Cysylltodd ei hun â gweithgareddau’r capeli Cymraeg yn Lerpwl. Yr oedd ei ddiddordeb a’i gariad yn fawr at yr iaith Gymraeg, a bu’n astudio’i gramadeg. Gallai ddarllen ac ysgrifennu yn yr iaith er yn ifanc. Yn dilyn ei saith mlynedd o brentisiaeth, aeth i weithio mewn swyddfa cyfreithiwr, ac oddi yno, ym 1853, i swyddfa ynadon trefol Lerpwl, ac yno y bu am dros ddeugain mlynedd, gan ddringo i’r safle o brif gynorthwyr i gerc ynad cyflogedig y ddinas. Parhaodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad ym 1894. Cafodd ei wneud yn ustus heddwch ym 1895.
Dros y blynyddoedd bu’n ysgrifennu erthyglau i lu o gylchgronnau Cymraeg - Y Drysorfa , Y Traethodydd , a'r Geninen , ac yn wythnosol i'r Amserau dan yr enw ‘ Meddyliwr.’ Bu Eleazar Roberts yn astudio seryddiaeth a chyfieithodd i’r Gymraeg y ddwy gyfrol o waith y gweinidog o’r Alban, y Parchg. Ddr.Thomas Dick, ar y gyfundrefn heulog. Yr oedd gan Eleazar Roberts Arsyllfa yn Hoylake, ac yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r Dr. Isaac Roberts, yr honnir mai ef oedd y seryddwr mwyaf a fagodd Cymru erioed. Bydda Eleazar Roberts yn mynd o gwmpas i ddarlithio ar seryddiaeh.
Bu’n gohebu am gyfnod â Henry Richard, yr Apostol Heddwch, ac ysgrifennodd gofiant iddo, Ef yw awdur y nofel Gymraeg, Owen Ellis, sydd yn ymgais i bortreadu bywyd Cymreig yn Lerpwl. Ystyrir Eleazar Roberts hefyd fel arloesydd cyfundrefn y Tonic Sol-ffa yng Nghymru, a bu’n crwydro i bob cwr o Gymru yn egluro a sefydlu dosbarthidau i ddysgu ac i hyrwyddo’r gyfundrefn honno.
Cyhoeddodd Llawlyfr Caniadaeth, Llawlyfr y Tonic Solffa, Llawlyfr i ddarllen yr Hen Nodiant, a Hymnau a Thonau . Bu'n flaenor ac yn Arweinydd y Gân yng nghapel y Presbyteriaid, Netherfield Road , a chyda John Edwards, bu’n arwain y gymanfa ganu gyntaf yn Lerpwl y 1880. Ef hefyd a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd ‘ O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw:’ – emyn a ymddangosodd cyntaf yn Nhrysorfa’r Plant fis Chwefror 1864.
Bu Eleazar Roberts farw ar 6 Ebrill 1912, a chafodd ei gladdu ym mynwent Anfield, Lerpwl.