Dr. Pwyll ap Sion yn ysgrifennu am . . .
Endaf Emlyn (g. 1944)
Canwr a chyfansoddwr pwysig a dylanwadol yn hanes canu pop Cymraeg, yn arbennig yn ystod y 1970au a’r 1980au cynnar. Ganed Endaf Emlyn ym Mangor ac fe’i magwyd ym Mhwllheli. Ei brofiadau cyntaf o ganu roc a rôl oedd drwy wrando arno ar orsaf radio y Forces Network. Fe gafodd hefyd hyfforddiant clasurol, gan chwarae’r ffidil yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod y 1960au cynnar ar yr un pryd â cherddorion megis John Cale a Karl Jenkins.
Ar ddiwedd y 1960au daeth Endaf Emlyn yn gyflwynydd rhagleni teledu gyda chwmni HTV tra’n parhau i ddatblygu gyrfa fel canwr pop. Ymddangosodd ei dair record gyntaf yn Saesneg ar ôl iddo arwyddo i label Tony Hatch yn Llundain, M&M. Aeth i stiwdio Abbey Road i recordio ‘Paper Chains’/ ‘Madryn’ (Parlophone, 1971), a dilynwyd gan ‘All My Life’ / ‘Cherry Lill’ (Parlophone, 1972) a ‘Starshine’ / ‘Where Were You?’ (Parlophone, 1973).
Erbyn i’r olaf o’r senglau hyn ymddangos, fodd bynnag, roedd Endaf Emlyn eisoes wedi troi at ganu yn Gymraeg. Recordiodd ei record hir gyntaf, Hiraeth (Dryw, 1973), yn yr un flwyddyn, a oedd yn gyfuniad o’r traddodiadol a’r newydd, o’r alaw werin ‘Lisa Lân’, neu arddull jazz ‘Glaw’, at roc gwladaidd ‘Hogia Ynys Môn’ â’r faled boblogaidd ‘Madryn’, a arddangosai dylanwad Elton John. Michael Parker oedd y cynhyrchydd – un a fu’n gysylltiedig â recordiau Endaf Emlyn ers y cychwyn – ac fe barhâodd y ddau i gydweithio ar y record hir nesaf, Salem (Sain, 1974). Yn seiliedig ar storïau cymeriadau allan o lun enwog Curnow Vosper (1866–1942), megis Siân Owen Ty’n y Fawnog ac Ifan Edward Lloyd, ystyrir Salem yn garreg filltir yn hanes canu pop Cymraeg. Dyma’r record ‘gysyniad’ (concept album) gyntaf o’i math, ac er mai technoleg digon sylfaenol a chyntefig a ddefnyddiwyd i’w recordio, perthynai crefft a chreadigrwydd amlwg i’r caneuon eu hunain.
Parhâodd Endaf Emlyn i ddatblygu’r record gysyniad gyda Syrffio Mewn Cariad (Sain, 1976), drwy gymeryd cymeriad allan o lun Salem fel man cychwyn ar gyfer stori sy’n ei dywys ar draws pedwar ban byd. Adlewyrchir hyn yn y dylanwadau Eingl-Americanaidd sydd i’w clywed, gan gynnwys arddulliau megis soul a ffync. Er poblogrwydd y gân ‘Macrall Wedi Ffrïo’, ni fu’r record yn gymaint o lwyddiant o lwyddiant â Salem, ac fe aeth pum mlynedd heibio cyn i Endaf Emlyn ryddhau ei record hir nesaf. Yn y cyfamser bu’n aelod o Injaroc, ‘supergroup’ cyntaf Cymraeg a grewyd allan o gyn-aelodau Edward H. Dafis, Sidan, â’r canwr Geraint Griffiths (fel Endaf Emlyn, aeth Griffiths ymlaen i ffurfio’r grŵp Eliffant, ynghŷd â recordio nifer o recordiau hir ar ei liwt ei hun). Rhyddhaodd Injaroc un record hir, Halen y Ddaear (Sain, C594, 1977), gydag Endaf Emlyn yn cyfrannu’r gân, ‘Swllt a Naw’, ond byrhoedlog fu parhâd y grŵp.
Aeth Endaf Emlyn ati i ffurfio'r grŵp ffync Jîp gyda’r gitarydd Myfyr Isaac (un o gyn-aelodau’r band roc trwm Budgie), John Gwyn ar y gitar fâs (cyn-aelod o Brân), ynghŷd â dau a fu’n aelodau o grŵp Geraint Jarman – Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Ymdriniai unig record hir Jîp, Genod Oer (Gwerin, 1980) â themau dinesig, fel y gân ffync ‘Halfway’, ynghŷd â thestunau tabŵ, megis trac deitl y record. Roedd clawr y record yn cyfeirio at record hir Can’t Buy a Thrill gan y band jazz-roc o America, Steely Dan, ac fe amlygwyd y dylanwadau hyn ar record unawdol olaf Endaf Emlyn o’r cyfnod yma, sef Dawnsionara (Sain, 1981). Gyda Myfyr Isaac yn cynhyrchu ynghŷd â chwarae’r gitar, Simon Tassano yn peiriannu, Ahmun ar y drymiau â’r gitarydd bâs amryddawn o Gaerdydd, Pino Palladino, fe dorrodd Dawnsionara dir newydd o ran safon y cynhyrchiad, ynghŷd â chrefft, cymhlethdod a soffistigeiddrwydd caneuon megis ‘Saff yn y Fro’ a ‘Rola’.
Fodd bynnag, llugoer fu ymateb rhai o’r cyfryngau Cymraeg i Dawnsionara, er i’r record dderbyn sylw tu hwnt i Gymru, yn Sweden. Yn ystod y ddegawd nesaf trôdd Endaf Emlyn ei sylw at waith cyfarwyddo ffilm a theledu, gan gynnwys y ffilmiau Un Nos Ola Leuad (1991), Gadael Lenin (1992) a’r Mapiwr (1995). Er na fu’n perfformio’n gyson ar lwyfannau Cymru ers dyddiau Jîp ar ddiwedd y 1970au, fe wnaeth ymddangos yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2008, gan ganu nifer o ganeuon allan o Salem, ac fe aeth nôl i’r stiwdio yn 2009 i recordio’r record hir Deuwedd (Sain, 2009). Yn 2014 darlledwyd rhaglen ddogfen ar S4C gan gwmni teledu Acme yn olrhain hanes Salem, 40 mlynedd ar ôl rhyddhau’r record hir.
Discograffi
Hiraeth (Dryw WRL 537, 1973)
Salem (Sain 1012M, 1974)
Syrffio (Mewn Cariad) (Sain C551, 1976)
Dawnsionara (Sain 1206M, 1981)
Deuwedd (Sain SCD2603, 2009)
gyda Jîp:
Genod Oer (Gwerin SYWM 220, 1980)
Fe fydd y cofnod yma ar Endaf Emlyn gan Pwyll ap Sion yn ymddangos mewn gwyddoniadur cerddoriaeth o'r enw 'Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru', a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2016. Am fwy o fanylion cliciwch ar y ddolen ganlynol:
http://cydymaith.wordpress.com/