Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .
Evan Richardson (1759 - 1824)
Nid gŵr o Bwllheli oedd Evan Richardson. Nid ym Mhwllheli y ganed ef, ac nid yn ein tref ni, ond mewn tref arall gyfagos – Caernarfon - y gosodwyd maen i gofio amdano ef a’i gyfraniad mawr.
Serch hynny, er nad un o Bwllheli ydoedd, bu fyw ym Mhwllheli am gyfnod, a bu’n gweithio fel Athro Ysgol yn y dref. A barnu oddi wrth y gwasanaeth a roddodd mewn mannau eraill, a’r llu enwogion a ddaeth o dan ei gyfaredd a’i ddylanwad, nid oes le o gwbI i amau na cheisiodd Evan Richardson wneud cryn gyfraniad i fywyd a llês trigolion Pwllheli a’r cylch hefyd. Ac y mae’n briodol ein bod yn cofio amdano yma.
Yn ystod haf 1811, ordeiniodd y Methodistiaid Calfinaidd y 21 o’u gweinidogion cyntaf - wyth yn y Bala a 13 yn Llandeilo. Un o’r wyth a gafodd eu hordeinio yn Y Bala oedd Evan Richardson. Cafodd Evan Richardson ei eni ym 1759, yn fab y saer maen, Rhisiart Morys Huws, a’i wraig, a hynny ym Mryngwyn-bach, Llanfihangel-genau’r-glyn – pentref yng Ngheredigion tua 5 milltir i'r gogledd o Aberystwyth ar y ffordd i'r Borth. Er fod y pentref hwnnw heddiw ar Reilffordd Arfordir Cymru, nid yw’r tren yn aros gan oes orsaf yno. Enw arall ar y pentref bellach ydy Llandre, ond yr enw traddodiadol ydy Llanfihangel-genau'r-glyn, sy'n tarddu o'i leoliad yn hen gwmwd Genau'r Glyn, ac a fu unwaith yn rhan o gantref Penweddig. Cyn hynny, Llanfihangel Castell Gwallter, oedd yr enw. Newidiwyd yr enw i Lanfihangel-genau'r-glyn ddiwedd yr 16eg ganrif. Yna, yn y 19eg ganrif, rhoddwyd yr enw cwbwl ddiystyr, Llandre, ar y pentre; ond parhaodd yr hen enw mewn bri, a 'Llanfihangel-genau'rglyn' a geir gan amlaf mewn llyfrau ar hanes Cymru.
Yr oedd Rhisiart Morys Huws y tad, hefyd yn cael ei alw’n Evan Richardson, a hynny nid yn unig ar lafar gwlad ond yn llythyrau Thomas Charles o’r Bala, ac yng nghofnodion y Methodistiaid Calfinaidd ar y pryd.
Mae R. T. Jenkins yn dweud fod y Dr. Lewis Edwards, gŵr a ystyrid yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, ac awdur toreithiog, wedi dweud rywdro fod Evan Richardson yn ‘ewythr’ iddo. Gyda Roger Edwards a Thomas Gee, dechreuodd y Dr. Lewis Edwards gylchgrawn Y Traethodydd ym 1845. Yr oedd y Dr. Lewis Edwards yn un o arweinwyr amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd erbyn diwedd ei oes, a daeth dan feirniadaeth Emrys ap Iwan ar gyfrif ei gefnogaeth i'r "Achosion Saesneg". Mab i’r Dr. Lewis Edwards oedd Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.
Roedd rhieni Evan Richardson am i’w mab fod yn offeiriad, a chafodd y llanc addysg ragorol yn ysgol enwog Edward Richard yn Ystrad Meurig. Ond wedi iddo glywed Daniel Rowland yn pregethu, denwyd ef at y Methodistiaid, ac enynnodd hynny lid a gwg ei dad nes iddo godi bwyell a’i fygwth yn ei wely. Er bod ei fam wedi achub ei gam, cefnodd Evan Richardson ar ei gartref ac aeth i agor ysgol yn Llanddewibrefi.
Daeth Evan Richardson fwyfwy dan ddylanwad Daniel Rowland, ac ar daith i Ogledd Cymru fel ‘cyfaill’ pregethwr, dechreuodd yntau bregethu tua 1781 yn 22 oed. Ymhen blwyddyn fe’i perswadiwyd gan yr enwog Robert Jones, Rhos-lan, i gadw ysgol ym Mrynengan. Llwyddodd y gwaith ond ymddengys na chafodd yr un llwyddiant wedi symud i Bwllheli. Aeth o Bwllheli i Langybi, lle roedd cymaint â chant o ddisgyblion yn ei ysgol. Yn ôl Goronwy Prys Owen yn Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, ‘Cafodd ei droi o (Langybi) oherwydd iddo fod yn gyfrwng tröedigaeth Jane James a fu unwaith yn hynod gellweirus a diystyrllyd o’r Methodistiaid . . . Yn ôl i Frynengan am gyfnod nes y perswadiwyd ef gan Gyfarfod Misol Sir Gaernarfon ym 1787 i symud i Gaernarfon i gadw ysgol.’
Daeth Evan Richardson, Caernarfon, i sylw’r enwad fel athro a phregethwr, a bu ei ysgol yn bwysig iawn yn hanes addysg pregethwyr y Methodistiaid ymysg eraill. Cyfeirir at lwyddiant ei ysgol yn gyson yng nghofiannau gweinidogion gwahanol. Ymhlith rhai o’r enwogion a fu yn ei ysgol yng Nghaernarfon yr oedd y gweinidog Methodist, John Elias (1774 - 1841), Syr Hugh Owen (1804 – 1881) cymwynaswr addysg Cymru (y mae cofgolofn iddo ar y Maes yng Nghaernarfon ac Ysgol yn y dref sy’n dwyn ei enw, William Griffith (1801 - 1881), (gweinidog cyntaf Annibynwyr tref Caergybi), Richard Jones o’r Wern (1772? - 1833), gweinidog gyda'r Methodistiaid a llenor, Griffith Davies (1788 – 1855), y mathemategydd enwog a aned ym Meudu Isaf, Y Groeslon - nid nepell o safle hen Ysgol Penfforddelen. Nid Beudu Isaf mo'i enw heddiw, fodd bynnag, ond Fox Lair, y bardd Robin Ddu Eryri (1804 - 1892 ), a’r pregethwr Methodistaidd, Robert Roberts, Clynnog (1762 - 1802).
Yn ôl R. T. Jenkins, gydag Evan Richardson, i bob pwrpas ymarferol, y cychwyn Methodistiaeth Caernarfon. Bu cryn wrthwynebiad yn y dref i Evan Richardson a’i gyfaill, John Roberts (tad y Parchg Michael Roberts, Pwllheli) pan aethant yno i bregethu. Ond buont yn ffodus o gael cefnogaeth gweinidog enwog yr Annibynwyr, y Dr George Lewis (un o Dre-lech), diwinydd mwyaf ei gyfnod. Pregethodd y ddau ifanc ger talcen capel Dr. Lewis, ym Mhen-dref, Caernarfon. O’r cychwyn anodd hwnnw, bu cynnydd nes codi capel ym 1793, rhagflaenydd capel Moreia, 1826.
Daeth ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon i ben tua 1817 pan ddechreuodd ei iechyd ddirywio, cafodd ergyd o'r parlys ac ni phregethodd fawr wedyn. Bu farw ar 29 Mawrth 1824, yn 65 oed, a chafodd ei gaddu yn Llanbeblig. Priododd ddwywaith.
Cymerodd William Lloyd (1771 - 1841). ofal o’i ysgol ar ei ôl. Gweinidog ac ysgolfeistr oedd William Lloyd yntau. Ganed ef ym 1771 yn fab Robert ac Elinor Lloyd, Penmaes, Nefyn. Cawsai ei addysg yn Ysgol Ramadeg Botwnnog, a Choleg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn yr Eglwys Wladol ym 1801, a’i drwyddedu i Roscolyn, Llanfair yn Neubwll , a Llanfihangel, ar Ynys Môn. Ymunodd yntau hefyd â’r Methodistiaid, a bu'n byw yng Nghaernarfon ac yn Nefyn; bu’n cadw ysgol ym Mrynaerau, ger Clynnog Fawr, cyn symud i ofalu am ysgol Evan Richardson yng Nghaernarfon ym 1817. Treuliodd William Lloyd weddill ei oes yno yn fawr ei ddylanwad ymhlith Methodistiaid y Gogledd. Adroddir nad oedd yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn ŵr duwiol. Bu ef farw ar 16 Ebrill 1841, a chladdwyd yntau hefyd, fel Evan Richardson, ym mynwent Llanbeblig.
Cafodd Evan Richardson ei ddisgrifio fel hyn: ‘Yr oedd ei ymadroddion yn fyrion, yn gryno, ac yn hyfryd – yr oedd ei lais yn glir ac yn beraidd – a’i ysbryd yn fywiog ac efengylaidd.’
Bu Evan Richardson ar deithiau lawer yn siroedd y gogledd yn sefydlu eglwysi yng nghwmni gwenidogion adnabyddus y cyfnod. Yr enwocaf o’u plith oedd Thomas Charles, a gwelir enwau’r ddau ymhlith ymddiriedolwyr nifer o gapeli. Byddai’r ddau’n cyd-bregethu wrth agor capeli newydd ac yn ôl D. E. Jenkins, yn ei gofiant i Thomas Charles: ‘yr oedd gan Charles feddwl uchel ohono’.