Twm Prys Jones yn cofio am ...
Evan Robert Davies - Cyfreithiwr
A minnau’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Pwllheli ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf, ’r oedd amryw o’m cymrheiriaid yn byw yn Ffordd y Maer, Pwllheli. Bryd hynny, ystad o drigain o dai cyngor oedd Ffordd y Maer - rhwng y rheilffordd a’r ffordd sy’n arwain o’r dref i Gricieth. Wn i ddim pa nifer o’m cyd-ddisgyblion, a minnau’n eu plith, oedd yn gwybod pam galw’r tai yn Ffordd y Maer. Yn ddiweddarach, mi ganfyddais rai ffeithiau am ŵr arbennig iawn o dre Pwllheli, a bod yr enw, Ffordd y Maer, yn wrogaeth haeddiannol i un o feibion y dref – un a fu’n gynghorydd trefol a sirol, yn Glerc y Dref am gyfnod, ac yn Faer y Dref bedair o weithiau, ac a fu’n gysylltiedig â llawer agwedd ar fywyd y fwrdeisdref – yn grefyddol, yn wleidyddol, ym myd busnes, yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol.
Pwy, felly, oedd y gŵr hwnnw? Neb llai nag Evan Robert Davies, cyfreithiwr, dyn prysur ryfeddol y cysylltir ei enw’n gynnar yn ei yrfa â Chyngor Sir Gaernarfon, ac wedyn â Phwyllgor Addysg y Sir honno o’i ddechreuad ym 1902. Yr oedd hefyd yn un o wŷr llaw dde David Lloyd George – yn un o’i Ysgrifenyddion Cyfrinachol. Yr oedd yn un o Gomisiynwyr y Bwrdd Amaeth yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddiweddarach, bu’n aelod o fyrddau rheoli nifer helaeth o gwmnïau – cwmnïau fel Rheilffordd yr Wyddfa, Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd yr Ucheldir. O sôn am Reilffordd yr Wyddfa, os eir i Lanberis heddiw, gwelir bod un injan ddiesel ar lein yr Wyddfa efo’r enw, Ninian arni, sy’n amlygiad o gysylltiad teulu E.R. Davies â’r Rheilffordd honno – cafwyd yr injan newydd ym 1986 ac fe’i galwyd yn Ninian o barch i gadeirydd Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa ar y pryd – sef Ninian Davies, mab Evan R. Davies. Bu Evan R. Davies farw’n annisgwyl yn ystod ei dymor fel Maer y Dref. Bore Sul, Rhagfyr 9, 1934, oedd hynny, ac yntau’n nôl ei gôt o’r llofft ar ei ffordd i wasanaeth y bore yng nghapel y Methodistiaid Calfinaid yn South Beach.
Y Parchg. David Evan Davies, tad Evan R. Davies, oedd sefydlydd yr achos yn South Beach. Bu yntau, fel ei fab, farw’n sydyn ugain mlynedd ynghynt ym 1914. Magwyd Y Parchg. David Evan Davies yn Efailnewydd. Er yn weinidog ordeiniedig, ni fu erioed yn weinidog amser llawn, ac ni dderbyniai gyflog o’i ofalaeth yn South Beach, gan ei fod yn ŵr busnes prysur. Ef oedd y cynrychiolydd dros Gymru o Gwmni Yswiriant y Mutual New York. Roedd cysylltiad agos rhyngddo â chapel Salem, Pwllheli, ac oddi yno yr aeth i sefydlu’r achos yn South Beach. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am gychwyn yr achos yn Nant Gwrtheyrn. ’Roedd cysylltiad ganddo â nifer o gymdeithasau crefyddol eu naws yn yr ardal, yn arbennig rhai’n ymwneud â dirwest a moes.
Bu Evan R. Davies yn Faer Pwllheli am bedair blynedd yn olynol. Ar adeg ei urddo’n Faer Pwllheli am y tro cyntaf fis Tachwedd 1931, cyhoeddodd ei bod yn fwriad ganddo i gynnal holl drafodaethau’r Cyngor Tref drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Digwyddodd hynny’n syth. Ym mis Chwefror 1932, penderfynodd y Cyngor Tref adfer yr enwau Cymraeg ar strydoedd Pwllheli. Dichon nad oedd bod yn ymwybodol o bwysigrwydd a gwerth yr iaith Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus yn beth dieithr i Evan R. Davies, oblegid ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd cyntaf Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon (swydd sy’n cyfateb i waith Cyfarwyddwr Addysg heddiw), bu’n rhaid iddo gwyno ar ran y Pwyllgor Addysg am Seisnigrwydd a diffyg sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth y Llywodraeth ganolog yn Llundain o’r angen i ohebu â’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru yn y Gymraeg. Rhaid cydnabod, serch hynny, bod ei swyddfa ef ei hun yng Nghaernarfon yn bur aml yn anghofio gwneud hynny!
Yn niwedd 1902, pasiwyd Deddf Addysg bwysig yn y Senedd yn Llundain. Y ddeddf honno a roes fodolaeth am y tro cyntaf i’r Pwyllgorau Addysg Sirol– cyfundrefn sy’n bodoli o hyd. Bu llawer o drafod ac ymgecru gwleidyddol ac enwadol yn ei chylch, ac yn arbennig felly yng Nghymru ynglŷn â’r Mesur Addysg cyn ei ddod yn Ddeddf yn Rhagfyr 1902. Roedd y gwrthwynebiad i’r Mesur yn danbaid o gyfeiriad yr Anghydffurfwyr am eu bod yn ofni y gorfodid hwy i dalu trethi i gynnal Ysgolion Eglwys, ond heb fod ag unrhyw lais yn eu rheolaeth. Roedd Evan R. Davies yn benboeth ei wrthwynebiad i’r Mesur Addysg, ac yn gefnogol i benderfyniad y Cyngor Sir i beidio’i roi mewn grym yn Sirol pe deuai’n ddeddf. Dyna hefyd oedd tacteg David Lloyd George ar y cychwyn cyn iddo newid ei feddwl. Evan R. Davies oedd yn gyfrifol am weithredu’r ddeddf yn Sir Gaernarfon. Ef, yn anad neb arall, gyda chefnogaeth dyrnaid o gynghorwyr sir galluog – yn Ryddfrydwyr a Thoriaid – a fu’n gyfrifol am osod Sir Gaernarfon ar y map addysgol fel y sir fwyaf arloesol ac eang ei darpriaeth yng Nghymru. Bu’n allweddol yn natblygu nifer o gynlluniau blaengar – datblygu Ysgolion Sir ac Ysgolion Gradd Uwch, a chodi nifer o ysgolion cynradd newydd led-led y Sir – ysgolion y gwelir ‘Ysgol y Cynghor’ wedi ei naddu arnynt. Bu’r Pwyllgor Addysg, dan ei arweiniad, yn flaengar y maes iechyd a lles plant yn gyffredinol. Yr oedd darparu prydau bwyd ganol dydd yn un enghraifft. Datblygwyd addysg amaethyddol yn y Sir, a sefydlwyd Coleg Amaethyddol Madryn pan oedd ef wrth y llyw.
Evan R. Davies oedd Clerc Cyngor Tref Pwllheli rhwng 1896 a 1921, a’i frawd W. Caradoc Davies yn cymryd ei le fel Clerc, a bu ei fab yntau, Cyril Davies, yn Glerc y Dref ym mlynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif. Symudodd Evan R. Davies i Lundain ym 1921 yn dilyn cael ei benodi gan David Lloyd George yn un o’i Ysgrifenyddion Cyfrinachol.
Cafwyd llawer o ddatblygiadau eraill ym Mhwllheli drwy ei weledigaeth. Bu’n gyfrfol am ariannu cynllun dŵr newydd i Bwllheli o Fur Cwymp (rhwng Y Ffôr a Llanaelhaearn) yn wreiddiol, ac wedyn o gyfeiriad Cwm Cilio, yng nghesail y Bwlch Mawr. Cafodd arian o’r Llywodraeth ar gyfer nifer o brosiectau – datblygu’r hen harbwr a chreu’r harbwr presennol; symud yr orsaf drenau o’r ‘Hen Stesion’ ar Ffordd Aber-erch i’w safle bresennol yng nghanol y dref; adennill tir o fewn y Fwrdeisdref, wrth greu’r harbwr newydd; cyplysu South Beach hefo’r West End drwy’r Promenâd. Ym 1931, gwahoddwyd ef i agor ‘Ysgol Fodern’ newydd ym Mhwllheli, ac addas iawn oedd ei wahodd ef i wneud hynny. Ysgol Frondeg oedd honno, a sicrhaodd fod cadw’n fyw yr hen enw ar y tiroedd oedd yn ymestyn rhwng y dref a Phenmaen – yr enw Frondeg.
Bu angladd Evan R. Davies ym Mynwent Denïo, Pwllheli, ddydd Mercher, Rhagfyr 12, 1934.
Dyna gipolwg, felly, ar fywyd prysur a chyfraniad mawr un o feibion tref Pwllheli, dyn a fowldiwyd yn bennaf yn ei filltir sgwâr, ond a gyfrannodd yn helaeth i gylchoedd ehangach lawer.
Talfyriad o dair sgwrs a draddodwyd i ‘Utgorn Cymru’ Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.