Fred May - Ffotograffydd

Ioan W. Gruffydd yn cofio’r Ffotograffydd . . .

Fred May [1878 – 1960]

Gwyddel wedi ei eni ym 1878 ym Melffast, Gogledd Iwerddon, oedd Frederick May Mahaffey, neu F.H. May, fel y dewisodd gael ei alw a’i adnabod yn lleol. Daeth i fyw a gweithio fel ffotograffydd i Bwllheli, gan dreulio rhan helaethaf ei oes yn y dref. Pam y bu i ŵr o’r Iwerddon ddewis dod i fyw a gweithio yn nhref Pwllheli o bob man, mae’n anodd gwybod. Gellir yn hawdd ddyfalu, wrth gwrs, iddo ef - fel llawer o Wyddelod eraill bryd hynny – deimlo rheidrwydd i adael ei gartref yn Iwerddon am nad oedd waith i’w gael yno. Cefnodd ar Felffast ei blentyndod a gwneud ei gartref ym Mhwllheli. A gwnaeth gyfraniad nodedig i’r dref a’r ardal fel dyn camera. Yn wir, roedd yn cael ei gydnabod fel un o ffotograffwyr golygfeydd gorau gwledydd Prydain.

Bu’n byw mewn nifer o gartrefi gwahanol ym Mhwllheli – Rathlyn, Ffordd yr Ala; Glan Rhyd, Teras Brookfield; Ty Mona a 20 Ffordd yr Ala. Agorodd ei stiwdio ffotograffau ym Marian y De. Sut ddyn oedd o? Dyn tenau o gorff, mae’n debyg, a gwelid ef yn mynd o gwmpas ar ei feic hefo’i gamera. Yn ôl un adroddiad, un llygaid oedd ganddo, sy’n peri ei fod yn fwy fyth o ryfeddod fel dyn tynnu lluniau. Yr oedd yn ŵr priod pan ddaeth i Bwllheli gyntaf, ac yr oedd gan ei wraig ac yntau un ferch, sef Kathleen Mary, a fu wedyn yn brifathrawes mewn ysgol yn Abertawe. Erbyn 1930, fodd bynnag, ymddengys fod ei briodas wedi torri a’i wraig wedi ei adael ac wedi dychwelyd i’r Iwerddon. Roedd cartref y ddau yn Rosemount, Pwllheli, hyd at 1930. Wedi hynny, mae hanes amdano’n byw am gyfnod yn ei stiwdio mewn cwt pren yng nghefn y ty. Yr oedd yn aelod yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli. Bu hefyd yn aelod o fudiad y Toc H yn y dref oddi ar gychwyniad y gangen leol.

Yn ogystal â bod yn brysur iawn yn tynnu lluniau, rhwng 1907 a 1953, cyhoeddwyd ganddo gyfresi gwahanol o gardiau post oedd yn portreadu bywyd ym mhentrefi a threfi Pen Llyn – golygfeydd a chymeriadau o Aberdaron, Abersoch, Nefyn a Phwllheli. Mae’n eiddo iddo hefyd gardiau post sy’n dangos golygfeydd o ardaloedd Conwy a Harlech.

Bu farw ar Fawrth 23, 1960, yn 82 mlwydd oed yn Ysbyty Gallt y Sil, Caernarfon, a chafodd ei gladdu ym Mynwent Newydd, Pwllheli. Cyhoeddwyd ei farwolaeth yn y papur newydd a nodwyd y câi ei adnabod fel ‘Fred May, Ffotograffydd Tirluniau nodedig yn Ne Arfon am 30 mlynedd.’ Nodwyd ymhellach ei fod yn arddwr brwdfrydig, yn arbenig yn ei ddyddiau cynnar, pan fyddai’n arddangos ei gynhyrchion gorau mewn sioeau gwahanol yn Arfon.


Enwogion