Ioan W. Gruffydd yn cofio gorchest yr athro a’r hyfforddwr hwylio ysbrydoledig o Bwllheli . . .
Gwyndaf Hughes
“un o'r dynion cleniaf rydw i wedi ei hadnabod erioed,”
[Aimee Saracco-Jones]
Athro ysgol wedi ymddeol ydy ‘Yncl Gwyndaf.’ Dros y blynyddoedd, bu’n Gwyndaf Hughes yn hyfforddi cenedlaethau lawer o blant a phobl ifanc yn y grefft o hwylio, ac y mae llu o’r plant a’r bobl ifanc hynny’n fawr iawn eu dyled iddo. Yn wir, treuliodd 49 mlynedd yn hyfforddi plant.
Dechreuodd yn Ysgol Frondeg, Pwllheli, ac wedi hynny - pan gafodd Ysgol Frondeg a’r Ysgol Ramadeg yn y dref eu huno yng nghanol 1969 – yn Ysgol Glan-y Môr, Pwllheli. Pan ddychwelodd i’r ardal ym 1962, mi ffurfiodd Glwb Hwylio yn Ysgol Frondeg, lle cawsai ei benodi’n athro crefft a dylunio. A pharhaodd y Clwb Hwylio hwnnw hyd at ei ymddeoliad o Ysgol Glan y Môr ugain mlynedd yn ôl. Wedi hynny, aeth ati i sefydlu cymdeithas, gan nad oedd neb ar gael i redeg Clwb Hwylio’r Ysgol. Cawsai ei fagu ar yr arfordir ym mhentref cyfagos Trefor, er nad oedd erioed wedi hwylio. Yr agosaf at y y môr iddo fod oedd pan oedd yn pysgota am fecryll. Aethai i goleg yn Llundain, ac yno y bu iddo ddechrau hwylio, a chael blas ryfeddol ar wneud hynny. Pan ddychwelodd adref, wedi pedair blynedd, a dod yn athro ysgol, daliodd ati i hwylio, a dechrau hyfforddi plant a phobl ifanc yn y grefft honno.
Llwyddodd i oresgyn afiechyd y canser, a llwyddodd i barhau â’i waith hyfforddi. Derbyniodd wobr arbennig yng Ngwobrau Anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn Chwaraeon Cymru yn 2011. Roedd nifer uwch nag erioed am anrhydeddau ymysg ceisiadau’r flwyddyn honno. Ac ar ôl ystyried yn ofalus y ceisiadau hynny, dewisodd panel o feirniaid a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gylchoedd gwahanol - cyrff rheoli, pobl ifanc, sports coach UK, chwaraeon anabledd, a Chwaraeon Cymru – nifer o enwebiadau yn eu hymdrech i ddod o hyd i’r goreuon. Ymysg yr hyfforddwyr uchaf eu safon a oedd i dderbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yr oedd Gwyndaf Hughes o Glwb Hwylio Pwllheli.
Pan ddarganfuwyd fod canser ganddo fis Ebrill 2010, ei ymholiad cyntaf i'r meddygon oedd a fyddai'n gallu dal ati i ddysgu plant i hwylio. Ac Yn ystod ei driniaeth, daliai i fynychu'r clwb bob dydd Llun a dydd Gwener i helpu gyda pharatoi'r cychod a threfnu'r gwaith papur. A phan gafodd wybod ei fod yn glir o ganser fis Tachwedd 2010, roedd yn ei ôl ar ei union yn gwirfoddoli yn y clwb hwylio ac yn gwneud hynny o 10 i12 awr yr wythnos yn gyson. Dywedodd Gwyndaf Hughes iddi fod yn afraint fawr iddo gael derbyn yr anrhydedd a’r gydnabyddiaeth a ddaeth iddo, er na wyddai fod dim o’r fath ar y gweill cyn i’r ffôn ganu yn ei gartref. Yr oedd wedi dal ati i fynd i’r clwb hwylio yn ystod y driniaeth cemotherapi a gawsai, ac er na chaniateid iddo wneud popeth yno gan yr aelodau, bu’r cyfan yn gymorth ac yn gryn gymheliad iddo. Dywedodd ymhellach ei bod bob amser yn arbennig o dda i gael bod yng nghwmni’r bobl ifanc, ac mai dyna pam yr oedd hyfforddi’n rhoi cymaint o fwynhad iddo.
Cafodd ymdrechion ac ymrwymiad diflino Gwyndaf Hughes eu cydnabod fis Tachwedd 2011 gan y Gymdeithas Iotio Frenhinol, pan dderbyniodd eu Dyfarniad Cymunedol Anrhydeddus am wasanaethau i'r gamp, ac i Glwb Hwylio Pwllheli yn arbennig felly. Ymysg y rhai a ysbrydolwyd gan ei hyfforddiant dros y blynyddoedd, mae'r Hwyliwr Rownd y Byd, Richard Tudor.
Dywed Gwyndaf Hughes fod y pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai arbennig o dda i hwylwyr mwyaf profiadol Clwb Hwylio Ieuenctid Pwllheli a’r Cylch (CHIPA), gan i amryw ohonynt gael eu dewis i gynrychioli Cymru, a gwledydd Prydain, mewn cystadleuthau rhyngwladol a byd-eang. Bu nifer ohonynt yn cystadlu yn America, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Sbaen a Hwngari ymysg gwledydd eraill.
Cafodd Mari Davies, o Gerlan, Bethesda, ei dewis yn Brif Eneth yn ei dosbarth o dan 19 oed yng ngwledydd Prydain, ac yn drydydd yn Ewrop. Dywedodd Mari iddi gael ei hysbrydoli gan y gymuned o hwylwyr profiadol yng nghlwb hwylio Pwllheli – a chan bobl fel Richard Tudor, yn ogystal â’i hyfforddwyr cyntaf, “Yncl Gwyndaf ac Eifion Owen.”
Ac mae cyn-ddisgybl arall, Aimee Saracco-Jones, o bentref cyfagos Efailnewydd, wedi gwneud cryn gynnydd drwy rasio plant ac ieuenctid Cymdeithas Iotio Cymru i sicrhau ei thrydedd blwyddyn yn aelod o Sgwad Hwylio Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei chyflwyno i hwylio gan Gwyndaf Hughes. Dywedodd iddi wirioni gyda hwylio i ddechrau pan gafodd ei chyflwyno - yn wyth oed – “i un o'r dynion cleniaf rydw i wedi eu hadnabod erioed, Mr. Gwyndaf Hughes.” Ychwanegodd, “Dysgodd i mi, a llawer o bobl ifanc eraill, sut i barchu a gwerthfawrogi'r môr a'r arfordir lle rydym yn byw. Bu'n gyfrifol am feithrin fy hyder, sydd wedi fy helpu mewn chwaraeon, yn yr ysgol ac mewn bywyd yn gyffredinol. Ychwanegodd i’w thad hefyd gael ei ddysgu i hwylio gan Gwyndaf Hughes pan oedd yntau’n fachgen ifanc. Yr oedd ei thad bellach dros ei 46 oed ac yn un o uwch hyfforddwyr dingi y GIF yng Nghlwb Hwylio Pwllheli. Cawsai’r rhan fwyaf o'r hyfforddwyr eu dysgu gan Gwyndaf Hughes.Yr oedd, nid yn unig yn dysgu pawb i hwylio – yn blant, yn ieuenctid yn oedolion fel ei gilydd - ond hefyd yr oedd yn trwsio ac yn cynnal ac yn cadw'r cychod a'r offer. Yr oedd yn codi arian i'r clwb, yn gwneud cyfrifon yr ieuenctid a'r aelodaeth, yn trefnu goruchwyliaeth cwch diogelwch, yn hyfforddi ac yn sicrhau cefnogaeth y rhieni. Fo mewn gwirionedd, oedd Clwb Hwylio Pwllheli. “Oni bai am 'Yncl Gwyndaf,' fel mae pawb yn ei alw, ni fyddai cannoedd o blant yn ein hardal ni wedi cael mwynhau'r pleser o ddysgu hwylio."
Dywedodd Jane Butterworth, Cadeirydd yr Adran Iau yng Nghlwb Hwylio Pwllheli, fod Gwyndaf Hughes wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o ieuenctid Pwllheli yn ystod y pedwar degawd diwethaf. Dywedodd iddo roi ei oes i ddysgu plant ifanc Pwllheli a Phenrhyn Llŷn i hwylio ac, yn fwy na dim, i gael hwyl a bod yn ddiogel ar y dŵr.
"Prif nod Gwyndaf Hughes oedd rhoi cyfle i gymaint o blant lleol ag y bo modd i brofi cyffro hwylio. Bu ei ymrwymiad i'r gamp yn ddi-guro, ac heb ei waith gwirfoddol ef dros y blynyddoedd, byddai nifer fawr o'r bobl ifanc wedi colli cyfle oes. “Prif bwrpas y cyfan,” meddai Gwyndaf Hughes ei hun, “oedd rhoi cymaint o brofiadau ag oedd yn bosibl i’r plant.”