Ioan W. Gruffydd yn cofio’r prydydd . . .
John Davies
Yr oedd John Davies yn fab i William Davies, a oedd yn grydd ym Mhwllheli. Cafodd yntau ei ddwyn i fyny yn yr un grefft â’i dad. Wrth dyfu’n ŵr ifanc, rhoes ei fryd ar faterion crefyddol a phrydyddol, ond, yn ôl Myrddin Fardd, yn Enwogion Sir Gaernarfon ,”fel prydydd yr ymddisgleiriai fwyaf.” Dywedir yno amdano nad ei waith yn rhyw arbennig iawn, er fod “yr oll o’i waith yn goeth a glân oddiwrth bopeth tramgwyddus a’i syniadau yn chwaethus a rhesymol.” Anfonodd rai o’i weithiau i’r Eifion ac i’r Arweinydd, dau newyddiadur a gyhoeddid ac a olygid gan Tegai ym Mhwllheli. Tystir ei fod yn cael ei barchu a’i anwylo gan bawb o’i gydnabod. Bu farw’n ifanc, ar ôl cystudd hir, ym mis Awst,1859. Mae ei fedd ym mynwent Capel Pen-lan.