Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .
John Francis (1789 – 1843)
Disgrifir John Francis fel melinydd a cherddor, ac awdur y dôn ‘Pwllheli.’
Ganed John Francis ar 20 Mawrth, 1789, yr hynaf o saith o blant a aned i William a Margaret Francis, Melin Rhydhir, nid nepell o dref Pwllheli, ar y ffordd sy’n arwain o Efailnewydd i gyfeiriad Rhydyclafdy. Mae’n debyg ei fod yn hoff iawn o gerddoriaeth pan nad oedd ond bachgen ysgol, ac iddo ddysgu elfennau cerddoriaeth a chynghanedd fel y llwyddodd yn ifanc i ddechrau cyfansoddi. Cyhoeddodd nifer o'i donau o dro i dro yn y cylchgronau misol - Seren Gomer a'r Dysgedydd ym 1821, 1822, 1823, ac 1824. Ymysg ei gyfansoddisadau cerddorol y mae Lleyn, Pen-lan, a Datguddiad. Yn Seren Gomer, Tachwedd 1821, ymddangosodd tôn o’i eiddo’n dwyn yr enw ‘Mwyneidd-dra,’ ac un arall o’r enw ‘Gomer,’ yn rhifyn Mawrth 1823 o’r un cyhoeddiad. Cyfansoddodd hefyd y dôn ‘Pwllheli,’ er mai ‘Morwydden’ oedd ei henw cyntaf. Cyfansoddodd hefyd anthem ar Salm 139, a fu ar un adeg yn boblogaidd iawn yn Llŷn ac Eifionydd. Yr oedd yn arferiad gan John Francis i gadw’i lyfrau mewn cist fechan yn y felin lle gweithiai, ond torrodd lleidr i fewn un noson gan ladrata’i holl gyfansoddiadau. Pe na byddai hynny wedi digwydd, hawdd gofyn pa faint yn fwy o donau y gellid eu priodoli iddo. Am lawer blwyddyn, John Francis oedd arweinydd y gân yng Nghapel yr Annibynwyr ym Mhen-lan, Pwllheli. Priododd Ellen,merch Evan ac Elizabeth Evans, Trawscoed, Llannor. Ganed iddynt un ferch, a fu'n byw yn Lerpwl. Ysgrifennodd Myrddin Fardd amdano, "Nid dyn gwyntog y papyrau a'r llyfrau, a'i fryd ar ymwthio am y blaen, oedd John Francis, ond byddai y tonau yn argraffiedig ar ddirgel lech ei gof - dim ond i'r pregethwr adrodd y pennill heb na rhif na mesur na llyfr chwaith - dyna i gyd o amser oedd i drefnu y dôn, a iawn fyddai y canu. Oherwydd rhyw resymau, rhagfarn yn benaf efallai, nid yw eto wedi derbyn y clod dyledus iddo. Yr oedd yn nawnddydd ei oes yn cadw gwesty ym Mhwllheli, lle bu farw, wedi cerdded yn wastad a chymeradwy hyd derfyn ei ddydd. Bu John Francis farw ar 19 Awst, 1843, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pen-lan, Pwllheli. Ar garreg ei fedd, rhoddwyd y geiriau:
Er Coffadwriaeth
am
JOHN FRANCIS
Mostyn Arms, yn y dref hon
(diweddar o'r Rhyd-hir)
Yr hwn a fu farw Awst 19, 1843 yn 54 oed
O'r Caniedydd Cynulleidfaol Newydd , 1921