Leila Megáne - Cantores fyd-enwog

Ioan W. Gruffydd yn cofio am ...

Leila Megáne - Cantores fyd-enwog

Ymysg y lluniau sydd i'w gweld yn Siambr Cyngor Tref Pwllheli, y mae un o Leila Megáne. Leila Megáne oedd enw proffesiynol Margaret Jones, a aned ym Methesda, Dyffryn Ogwen, ar Ebrill 5, 1891, yn un o ddeg plentyn Thomas Jones, aelod o Heddlu Arfon , a Jane Phillip (g. Owen ) ei wraig. Bu farw tri o'r plant yn ifanc.
Mab Cae Ifan, Pentraeth, Môn, oedd Thomas Jones, y tad,. Bu ef yn blusmon mewl sawl man, yn ôl arfer y cyfnod, a chyn symud i Nefyn, priodi, a symud i fyw i Fethesda fel Rhingyll yn yr Heddlu. Ym 1894, symudodd y teulu i Bwllheli pan ddyrchfwyd y tad yn Arolygydd yr Heddlu.. Ar fur yr adeilad y tu allan i Swyddfa'r Heddlu ym Mhwllheli heddiw mae carreg sy'n dynodi mai yno y maged y gantores fyd-enwog, Leila Megáne. (Gweler y llun uchod) Bu'r gantores enwog yn byw wedyn yng Nghaernarfon, yn Llundain ac ym Mhentrefoelas cyn ymgartrefu yn Felin Rhydhir, ar y ffordd o'r Efailnewydd i Rydyclafy yn Llŷn.
Mae Huw Williams yn Y Bywgraffiadur Cymreig yn adrodd fel y bu iddi golli ei mam pan oedd yn 7 oed, ac fel yr aberthodd ei thad lawer er mwyn rhoi addysg gerddorol dda iddi. Astudiodd ganu am gyfnod gyda John Williams, arweinydd Cymdeithas Gorawl Caernarfon, a'r unawd gyntaf iddi ei chanu'n gyhoeddus oedd ‘Gwlad y delyn ’ yn 1907. Yn fuan ar ôl hynny derbyniodd ei hymrwymiad cyntaf i ganu mewn cyngerdd yn Aber-soch , a chael cydnabyddiaeth o bymtheg swllt. Proffwydodd un o'r rhai a'i clywodd yn canu yn y cyngerdd hwnnw y deuai'n gantores enwog os câi ei hanfon i astudio canu at athro cymwys."

Wedi colli e imam yn 7 oed, collodd ei thad ddeuddeg mlynedd wedyn. Daeth i ddibynnu llawer ar y nawdd a roed iddi gan bobl amlwg fel y gwleidydd, David Lloyd George, ei briod, Margaret, ei hathro llais, Jean de Reszke, a'i gŵr cyntaf, y cerddor o Gymro, T. Osborne Roberts, a gyfansoddodd amryw o'i chaneuon mwyaf cofiadwy.

Ymddangosodd erthyglau diddorol amdani yn yn y Caernarvon and Denbigh Herald ym 1956 ac yn yr Herald Gymraeg yn haf 1960, lle mae Betty Roberts (priod John Roberts y cyfreithiwr ac un o gyn-feiri Cyngor Tref Pwllheli) yn adrodd fel y bu iddi, ar ôl dod i Bwllheli ar ddiwedd yr ail Ryfel Mawr, glywed amryw yn sôn wrthi mai ym Mhwllheli yr oedd contralto enwocaf Cymru yn byw. "Ond er i mi," meddai, "glywed Leila Megáne yn canu yn ei hen sedd yng Nghapel Salem a hefyd yn ei chyngerdd olaf, ni chyfarfum â hi am ddeng mlynedd. Ond yng nghanol haf heulog 1955 awgrymodd John Eilian i mi baratoi hanes ei bywyd hi ar gyfer y Wasg, a dyna sut y deuthum i'w hadnabod."

Dywed yr erthygl yn yr Herald, "Yr oedd gennym ddigon o bethau yn gyffredin, dwy Gymraes yn ymhyfrydu yn yr iaith ac yn caru barddoniaeth a cherdd. Yr oedd ganddi atgofion cynnes am y De, bro fy mebyd, ac nid rhyfedd hynny, oherwydd iddi deithio drwy'r cymoedd adeg y Dirwasgiad a llonni calonnau'r glowyr. Ganddynt hwy cafodd wrandawiad gwresog am eu bod yn medru gwerthfawrogi miwsig o'r radd uchaf. Ni chafodd dderbyniad mwy deallus yn ystod ei holl deithiau."

Myn yr erthygl mai'r cyfnod mwyaf ffrwythlon yn ei gyrfa oedd rhwng 1914 a 1919 - blynyddoedd a dreuliodd ym Mharis a Fontalnebleau "wrth draed y tenor byd-enwog Jean de Reszke. Yno ymroddodd yn llwyr i ddysgu'r cyfan oedd gan yr athro anghymarol hwnnw i'w draddodi."

Gŵr o Wlad Pwyl oedd Jean de Reszke (1850 – 1925), a theimlai atdyniad rhyfedd at y ferch ifanc o Gymru a ddeuai fel yntau o genedl fechan "a chreithiau gormes y gorffennol yn eglur arni." Mynnych y dywedodd wrthi eu bod hwy'r Pwyliaid yn gwybod sut i ddioddef.

Bu Leila Megáne yn byw am flwyddyn gyfan yng nghartref croesawus Jean de Reszke a'i deulu. Ef yn wir a roes i Margaret Jones o Bwllheli yr enw 'Leila Megáne.' Yn ystod ei harhosiad ym Mharis, daeth i gysylltiad â phwysigion y ddinas ac artistiaid o fri. Dysgodd siarad Ffrangeg, a'i galluogi i ganu operau yn yr iaith honno. Dysgodd ddigon o Eidaleg hefyd i'w galluogi i ganu yn yr iaith honno.

Yn ystod ei harhosiad ym Mharis, cyfarfu â Miss. Kemp - aelod o deulu'r bancwyr Americanaidd, Pierpoint Morgan. Roedd gan y wraig honno dŷ yn Rhufain, ac aeth y gantores o Gymraes i aros gyda hi yn Rhufain ym 1916. Trefnodd Miss. Kemp iddi ganu yng ngwydd Tywysog Cymru - Dug Windsor wedyn - a threfnwyd iddi gyfarfod â'r Pab Leo X1. Arferai llun Leila Megáne fod ymysg cantorion enwocaf ei chyfnod ar fur yn La Scala ym Milan. Bu'n canu yn Iwerddon, Ynys Manaw, Gwlad Belg. Bu'n canu yn America ym 1924, ac mewn Capel Cymraeg yn Efrog Newydd y priododd â'r cerddor, T. Osborne Roberts (1879 -1948).

Dywed Betty Roberts yn yr Herald Gymraeg na chafodd hi'r fraint o glywed llais gwefreiddiol Leila Megáne yn nydd ei nerth. "Ond un prynhawn cofiadwy daeth Megáne a'i recordiau i'w chwarae ar fy ngramaffon. Hen ffasiwn fel yr oeddynt, rhoesant syniad pur dda inni o'r cyfoeth a'r cyfaredd a fu." Dywed wedyn fod y gantores enwog yn ymddiheuro "dros y meflau a'r crafu ar y recordiau. 'Dydi hi'n ofid yn y byd i mi fod fy nhymor wedi pasio cyn i ddulliau recordio gael eu perffeithio,' meddai.

Tarfodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei gyrfa broffesiynol a hithau'n dechrau gwneud enw byd-eang iddi ei hun ar lwyfannau cerdd Paris, Milan, Rhufain, Efrog Newydd a Llundain, a dychwelodd i Gymru i fyw mewn dinodedd cymharol. Daliodd yr atgofion am ei chanu ac am ei chyngherddau am flynyddoedd lawer yng Nghymru.

Mae'r diweddar Ioan Mai Evans, wrth adolygu llyfr Ilid Anne Jones, 'Leila Megáne Anwylyn Cenedl,' yn dweud fel y bu iddi - wedi colli ei gŵr cyntaf - 'ailbriodi ym 1951 gyda'i chyfaill bore oes, William John Hughes. "Erbyn hyn," meddai Ilid Anne Jones, "roedd Leila Megáne wedi llwyr ddiflannu o lygaid y cyhoedd." Ond mae'n ychwanegu ei bod yn "mwynhau gweithgareddau cymdeithasol Pen Llŷn yng ngaeaf 1950." Roedd y gweithgareddau hynny gan fwyaf yn troi o gwmpas Capel Berea (MC), Efailnewydd. Yn dilyn haf 1959, bu dirywiad yn iechyd Leila Megáne, a phrin y bu iddi roi fawr sylw i Nadolig y flwyddyn honno. Ddydd Sadwrn, Ionawr 2, 1960, bu farw yn ei chartref, Melin Rhyd Hir, Efailnewydd, yn 68 mlwydd oed. Daeth torf fawr i'w hangladd yng Nghapel Berea, Efailnewydd, lle bu hi'n aelod a lle gwnaethai gymaint i gefnogi'r achos. Mae ei bedd ym Mynwent Bethel, Penrhos.

Cliciwch yma am atgofion bore oes Leila Megane ym Mhwllheli

Leila Megáne yn canu


Enwogion