Ioan W. Gruffydd yn cofio cyfraniad y cyfreithiwr nodedig . . .
Owen Robyns Owen
Byddai’n amhriodol iawn wrth sôn ar y Wefan hon am rai o Enwogion Tref Pwllheli pe na byddem yn sôn am y cyfreithiwr nodedig o’r dref, Mr. Owen Robyns Owen. Cafodd ei ddisgrifio yn rhifyn mis Tachwedd 1908 o Drysorfa’r Plant fel “un o leygwyr mwyaf adnabyddus a defnyddiol Lleyn ac Eifionydd.” Cafodd ei eni ym 1854 yn ffermdy Bryntani, rhwng Pwllheli a Llannor, yn fab i John ac Ann Owen, dau a oedd yn perthyn i amaethwyr mwyaf cyfrifol ac ymroddgar y fro, a dau oedd yn dad a mam nodedig o grefyddol.
Yn fachgen, dechreuodd Owen Robyns Owen ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Llannor, ond ni bu yno’n hir. Yr oedd yr ysgolfeistr yno am iddo adrodd ei bader yn Saesneg, ond dywedodd yntau na allai – ond y gallai’n rhwydd ddigon yn y Gymraeg. Edrych yn sarrug arno wnaeth ei athro a rhoi hergwd gas iddo i gyfeiriad drws yr ystafell ddosbarth. Cymerodd yntau ei gap o’i boced a mynd allan drwy’r drws, ac ni ddychwelodd i’r ysgol honno fyth wedyn. Amlygodd yn ifanc ei ysbryd penderfynol a’i barodrwydd i sefyll yn erbyn pob ffurf ar anghyfiawnder.
Aeth i Ysgol Frytanaidd Pwllheli - hen Ysgol Penlleiniau - a chael yn athro yno, Mr. J.T. Evans, gan aros yno hyd ddiwedd ei yrfa addysgol. Dechreuodd ar waith ei fywyd fel cyfreithiwr yn Swyddfa’r Mri. Picton Jones a Roberts, Pwllheli, lle bu hyd 1883. Ym 1886, sefydlodd ei swyddfa gyfreithiol ei hun yn y dref, lle mae ei olynwyr yn parhau i weithio o hyd.
Yr oedd 1883 yn flwyddyn bwysig yn hanes Owen Robyns Owen. Y flwyddyn honno, llwyddodd yn ei arholiad derfynol fel cyfreithiwr. Y flwyddyn honno, gwnaed ef yn flaenor yn Salem, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn y dref. A’r flwyddyn honno hefyd priododd â Miss. Laura Elizabeth Jones, (1852 – 1926) Swyddfa’r Post, Pwllheli (a leolid, bryd hynny, dros y ffordd i gapel Salem ar waelod Allt Salem). Disgrifir hi yn Nhrysorfa’r Plant fel “un o’r gwragedd mwyaf rhagorol yn y dref.” Yn ôl un adroddiad amdani: ”Ni bu Mrs. Robyns Owen un amser yn gryf o gorff, ond cyflawnodd ei rhan fel priod a mam gyda ffyddlondeb di-ball, hyd nes cymeryd o’r Arglwydd hi ato ei hun” ym 1926.
Ganed iddynt saith o blant. Daeth un ohonynt, Enid, yn briod i’r Parchg. John Hughes, gweinidog cyntaf Salem, Pwllheli, a buont yn byw ym Mangor wedi hynny. Yr oedd un arall, Endaf, yn ymddiddori ym myd adar ac yn gryn athrylith yn y maes hwnnw. Bu un o’r bechgyn, Oswald, farw pan nad oedd ond deg mlwydd oed. Ymddangosodd y penillion hyn amdano yn Nhrysorfa’r Plant rhifyn mis Chwefror 1908:
ER COF AM OSWALD OWEN
Annwyl Blentyn Mr. a Mrs. Robyns Owen, Henblas, Pwllheli,
a fu farw Mai 1907, yn 10 mlwydd oed.
Un o saith o blant oedd Oswald,
A’r ieuengaf un oedd ef;
A’r parotaf un o’r teulu
Oedd i fynd i Deyrnas Nef.
Anhawdd ydoedd i rieni
Ollwng un mor bert i ffwrdd;
Ond na wyler fel heb obaith –
Yn y Nef cewch eto gwrdd.
Hir y cofir am ei eiriau,
A’r wynepryd mwynaidd tlws;
Pan yn edrych am y cleifion –
Trwy y dref o ddrws i ddrws.
Er yn ieuanc, ei hyfrydwch
Ydoedd mydru pennill mwyn,
Gallai adrodd hwnnw hefyd
Gyda rhyw ddeniadol swyn.
Diwyd gyda’i Flwch Cenhadol,
Sawl roes iddo gafodd fraint;
Mae yr un fu dros y pagan
Heddiw ‘nghynulleidfa’r saint.
Er mai ber-oes gafodd Oswald,
Gweithiodd ef ei ddydd yn llawn;
Bydd ei enw’n perarogli
Yn ein mysg yn hyfryd iawn.
Un o saith o blant oedd Oswald,
Ond nid un o saith fydd ef;
Disgwyl mae i’r oll o’r teulu
Ddyfod ato i Deyrnas Nef.
Cenin
Bu Owen Robyns Owen yn weithgar iawn yn ei gymuned a hynny mewn amryfal gylchoedd. Yn ogystal â’i waith cyfreithiol, bu’n aelod ac yn gadeirydd y gwahanol fyrddau ysgolion yn y dref a’r cylch. Bu ganddo gysylltiad agos ag addysg uwchradd a bu’n Ysgrifennydd Ysgolion Sir Botwnnog a Phwllheli. Gwasanaethodd am rai blynyddoedd fel Crwner rhan ddeheuol Sir Gaernarfon. Yr oedd yn aelod ffyddlon ac ymroddgar o Gyngor Tref Pwllheli, a gwasanaethodd ragor nag unwaith fel Maer y Dref.
Adroddir mai Owen Robyns Owen, gyda chyfaill arall, a oedd yn aelod yn eglwys Penmownt, Pwllheli, a fu’n gyfrwng i sefydlu’r achos Saesneg Ffordd yr Ala, yn y dref. Yn ôl Trysorfa’r Plant eto, “nid oes neb ond ei Arglwydd a ŵyr faint o drafferth a’r draul fu arno” ynglŷn â’r ymgymeriad hwnnw.
Cafodd ei ddewis yn flaenor yn Salem, Pwllheli, pan oedd yn 28 oed. Dywedodd y Parchg John Owen, M.A., Caernarfon, amdano wrth ysgrifennu yn Y Drysorfa fis Mehefin 1926: “Yr oedd wedi dechrau ymroi i waith yr eglwys ymhell cyn ei ddewis yn flaenor, gan ei fod yn amlwg ynglŷn â’r Gobeithlu, yr Ysgol Sul, y Gymdeithas Lenyddol a’r Dosbarth Darllen . . . Tyfodd y pethau a ddysgwyd iddo yng nghylchoedd bore oes i fod yn egwyddorion sefydlog ac yn argyhoeddiadau cryfion ym mywyd Mr. Robyns Owen, ac y mae wedi bod bob amser yn gefnogydd eiddgar i Ddirwest a phob rhinwedd.”
Dywed Parchg John Owen ymhellach amdano na fu “lawer o amser erioed o’r dref, a chafodd hamdden braf i dyfu yn un o’i harweinwyr diogelaf ym materion byd ac eglwys. Gŵyr beth yw Sasiwn o’i febyd. Tyfodd yn sŵn siarad amdani ac yn sain ei chân a’i moliant. Gwrandawodd ynddi ar efengylwyr glewaf y Cyfundeb yn pregethu gair y cymod. O ran ei alwedigaeth cyfrithiwr ydyw, ac ef yw Zenas yr alwedigaeth barchus honno. Ni chredir yn gyffredin ddarfod galw llawer o gyfreithwyr i deyrnas nefoedd. Clywais frawd o Bwllheli yn sicrhau unwaith gyda difrifwch mawr fod ‘Robyns Owen yn dduwiol er ei fod yn dwrnai.’ Yr wyf fi yn bur dawel fy meddwl fod y cyfaill annwyl mor deyrngar i’w Feistr wrth ei ddesg yn ei swyddfa ag ydyw yng nghadair y Gymdeithasfa.”
Achlysur ysgrifennu’r geiriau hynny yn Y Drysorfa ym 1926oedd penodiad Mr. Robyns Owen am yr eildro yn Llywydd Cymdeithasfa’r Gogledd o gyfundeb y Methodistaidd Calfinaidd – y tro cyntaf am mai ei dro ef ydoedd, a’r ail dro “am y teimlai pawb haeddo ohono yr arwydd eithriadol hwn o barch yr Henaduriaeth.” Nid oedd i’r Gymdeithasfa was ffyddlonach; gwasanaethodd yn hir. Gwobr fechan iawn am ddegau o flynyddoedd distaw, cyson ac effeithiol yw bod yn dywysog y llu am un flwyddyn.”
Tystia’r ethygl yn Y Drysorfa i Mr. Robyns Owen fod yn Drysorydd y Cyfarfod Misol am dros chwarter canrif, a dim ond wedi iddo “daer ddeisyf hynny, oherwydd ei amledd oruchwlion eraill, y rhyddhawyd ef o’r gwaith hwnnw.” Bu ei gartref, Hen-Blas, yn “llety fforddolion” i bregethwyr a chyfeillion, a’i briod a’i blant yn gwmni caredig a siriol.
Ym 1916, symudodd Owen Robyns Owen a’i deulu i fyw o Bwllheli i Erw Wen, Penrhos, gan ymaelodi yno ym Methel. Yn Adroddiad Salem am 1916, mae’r geiriau hyn:
“Ymhlith y 50 o’r aelodau [a] symudodd oddi wrthym drwy docynnau, ceir enwau Mr. a Mrs. Robyns Owen – dau [a] oedd ynglŷn â’r achos yn Salem er ei gychwyniad. Yn weddus iawn, cyflwynodd yr eglwys Anerchiad iddynt ar eu hymadawiad yn datgan ein gwerthfawrogiad o’u llafur ynghyd â’n parch a’n cariad tuag atynt. Pasiodd y Cyfarfod Brodyr hefyd y penderfyniad a ganlyn:-
“Ein bod yn gosod ar y Cofnodion ddatganiad o’r golled a’r chwithdod ydym yn ei deimlo yn ymadawiad Mr. a Mrs. Robyns Owen a’r teulu o’n plith fel eglwys, a’n gwerthfawrogiad o’u ffyddlondeb am flynyddoedd lawer – Mrs. Robyns Owen er pan mae yr eglwys yn bod yn Salem; ac hefyd am lafur a gweithgarwch ffyddlon Mr. Robyns Owen fel swyddog am 32 mlynedd ac yn neilltuol am ei waith fel ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd lawer. Dymunwn iddynt hir oes a nawnddydd tawel i wasanaethu yr achos eto ym Mhenrhos.”
Bu Owen Robyns Owen farw ym 1833, Mae ei fedd ym Mynwent Dyneio, Pwllheli.