Ioan W. Gruffydd yn cofio . . .
Philip Constable Ellis
Prin fu’r ymdriniaeth yn Gymraeg ar Fudiad Rhydychen, yn arbennig felly, yn ei effeithiau a’i ddylanwad ar Gymru. Dewisodd yr Athro John Tudno Williams yn ei Ddarlith Davies ym 1983 ymdrin â’r union destun hwnnw. Yr oedd y bobl hynny y cafodd Mudiad Rhydychen ddylanwad arnyn’ nhw yn gosod llawer o bwyslais ar fyw yn sanctaidd, ar addoli sagrafennol, ar wasanaethau oedd yn llawn urddas, ar ymprydio cyn gweinyddu’r cymun, ac ar geisio sicrhau fod graen ar eu heglwysi. Nôd arddelwyr Mudiad Rhydychen, fel y dywedodd rhywun, oedd ‘cryfhau’r Eglwys yn ei henaid.’ Fel y digwyddodd, fodd bynnag, daeth y mudiad - a ddechreuodd fel un ysbrydol a defosiynol yn ei hanfod - yn un oedd yn tueddu fwyfwy i ymboeni’n unig am allanolion addoli, defnyddio gwisgoedd a seremoniau a defodau cymleth.
Dangosodd yr eglwysi anghydffurfiol eu hangymeradwyaeth, a’u casineb, yn wir, at y Mudiad am iddynt gredu mai ymgais oedd hon fwyfwy i ddynwared Eglwys Rhufain. Yn waeth na hynny hyd yn oed, ystyrient hwy’n arferion Pabyddol oedd yn ymguddio dan gochl y sefydliad. a’i fod i'w ofni’n fwy nag Eglwys Rhufain ei hun. Bu’r Hen Ymneilltuwyr, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr, yn eu cyfnodolion — Seren Cymru, Y Diwygiwr a'r Dysgedydd — yn chwerw eu hymosodiad ar Fudiad Rhydychen.
Cafodd yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru ei dylanwadu’n fawr gan Fudiad Rhydychen drwy ei holl esgobaethau, ac nid yn lleiaf felly yn esgobaeth Bangor, lle’r oedd Christopher Bethell - y clerigwr o Sais a fu’n Esgob Bangor hyd ei farw ar 19 Ebrill 1859 - yn un o’r ychydig esgobion yng Nghymru oedd yn tueddu i ffafrio’r mudiad. Daethai amryw o’r rhai a addysgwyd yn Rhydychen yn y 1830au a 40au yn ôl i Gymru a dylanwad y mudiad yn drwm iawn arnyn’ nhw. Ymhlith y bobl hynny, gellir enwi gwŷr fel Lewis Gilbertson, Lewis Evans, Morris Williams (Nicander), Evan Lewis, Griffith Arthur Jones a Philip Constable Ellis.
Yn nhref Pwllheli y ganed Philip Constable Ellis, a hynny tua 1822, yn Newborough Place, Penlan, yn ail fab y cyfreithiwr, John Ellis, a’i briod, Ann. Roedd yn perthyn i deulu parchus a chyfrifol ym Mhwllheli ac yng ngwlad Llŷn
Roedd Ann Ellis, ei fam, yn wraig dra chrefyddol a oedd yn barod iawn ei hymroad a’i gwasanaeth i bob achos da. A gadawodd hynny ei ôl ar ei mab. Derbyniodd ei addysg yn hen Ysgol Ramadeg Biwmares, lle’r oedd y Parchg. H. Davies Owen, D.D. yn brifathro ar y pryd, a’r Parchg.Hugh Jones, M.A., yn rheithor y plwyf. Mae pob lle i gredu fod dylanwad Mudiad Rhydychen wedi cyrraedd Ynys Môn yn y cyfnod hwnnw. Tua’r adeg honno y cydiodd yr arfer o gynnal gwasanaethau dyddiol hwnt ac yma, ac adroddir mai Biwmares oedd y lle cyntaf yng Nghymru i hynny ddigwydd. Dywedir hefyd mai Biwmares oedd y man cyntaf yng Nghymru i ddechrau’r arfer o ddefnyddio gwenwisg yn lle’r gŵn ddu wrth bregethu, ac mai’r Parchg. J. Jones Brown, M.A., rheithor Mallwyd wedi hynny, oedd y cyntaf i wneud hynny. Dengys hynny pa mor eglwysig ei naws oedd tref Biwmares yr adeg honno.
Ym 1840, cafodd Philip Constable Ellis, y gŵr ifanc o Bwllheli, ei dderbyn yn aelod o Goleg Iesu, Rhydychen. Graddiodd yn B.A. ym 1843, ac yn M.A. ym 1845. Yr oedd yn y ddinas pan oedd Mudiad Rhydychen yn ei lawn dwf, ac nid oes le i amau na ddylanwadwyd arno yn ei goleg ei hun – Coleg Iesu - fel yn y Brifysgol. Nid oedd ond 21 mlwydd oed pan fu iddo adael Rhydychen – yn rhy ifanc o ddwy flynedd i gael ei ordeinio. Treuliodd gyfnod, bryd hynny, yn Llanllechid yng nghwmni Morris Williams (Nicander), a rhoes hynny gyfle iddo loywi ei Gymraeg. Ymddiddorai hefyd yn hen eglwysi Penrhyn Llŷn, ac un ohonynt yn arbennig.
Roedd hen eglwys Llanengan mewn cyflwr gwael ac angen ei hatgyweirio a’i glanhau. Yng nghwmni cyfeillion eraill, cychwynnodd Philip Constable Ellis fudiad oedd â’i fwriad i atgyweirio a glanhau hen eglwys Llanengan.
Anfonodd lythyrau at Dr. Christopher Bethell, Esgob Bangor, ymysg eraill, gan geisio’u cefnogaeth a’u nawdd. Derbyniodd ymateb yn cymeradwyo’i ymdrechion, a derbyniodd rodd o £30 at y gwaith.
Pan ddaeth yn amser i’w ordeinio, penodwyd Philip Constable Ellis yn giwrad yng Nghaergybi, ac i gydweithio â’r Dr. Charles Williams, a ddaeth wedyn yn Brifathro Coleg Iesu, Rhydychen. Ordeiniwyd Philip Constable Ellis yn ddiacon ym 1846 ac yn offeiriad y flwyddyn wedyn. Bu’n gweithio’n galed a chydwybdol yn Nghaergybi rhwng 1846 a 1850. O leiaf, dyna’r argraff a adawodd ar feddyliau nifer o leygwyr oddi yno, a rhai ohonyn’ nhw’n bobl uchel eu safle a mawr eu dylanwad. Amlygodd rhai o’r bobl hynny eu parch a’u hymdiriedaeth ynddo drwy ei gefnogi a chynnal ei freichiau yn y brwydrau y bu yn eu canol yn ddiweddarach o blaid yr Eglwys. Safodd yn ddi-wyro dros yr hyn y credai ynddo, a hynny heb ofni tramgwyddo neb, na lleygwyr nac offeiriaid, nac esgobion nac archesgobion, na thlawd na chyfoethog, na gwreng na bonedd. Pwy bynnag fydden’ nhw, os gwnaent yr hyn nad oedd yn brodol yn ei olwg, deuent dan fflangell ei gerydd. Gŵr felly ydoedd.
Un o’r cyhuddiadau yn erbyn yr Eglwys Sefydledig bryd hynny oedd ei bod yn Babyddol. Cafodd cyfarfod niferus ei gynnal yng Nghaergybi oedd a’i nôd i amddiffyn yr Eglwys rhag y cyhuddiad hwnnw ac ambell gyhuddiad arall tebyg. Un o’r rhai oedd yn y cyfarfod oedd Aelod Seneddol Ynys Môn, Mr. Buckley Hughes. Dywedodd ef fod y Llyfr Gweddi Cyffredin yn llawn Pabyddiaeth. Cododd Philip Constable Ellis ar ei draed yn syth, ac a’i lygaid yn fflachio, tynnodd y Llyfr Gweddi Cyffredin o’i boced, dweud, “Os medr neb brofi fod yr un gair o Babyddiaeth yn y llyfr hwn, byddaf yn ymddiswyddo o’m gweinidogaeth yfory nesaf.” Rhoes hynny, meddir, daw ar y rhai oedd yn gwrthwynebu.
Ym 1850, ar gyflwyniad Syr Richard Buckley, cafodd Philip Constable Ellis ei benodi’n ficer Llanfaes a Phenmon ym Mon.
Yn ystod ei gyfnod yno, cafodd corff a chlochdy hen Eglwys Fynachaidd Penmon eu hatgyweirio, a chafodd y gangell, a oedd wedi syrthio’n adfeilion, ei hail-adeiladu. Bu’r ficer hefyd yn gyfrwng i fagu cenhedlaeth dda o Eglwyswyr oedd yn gallu “rhoi rheswm am eu ffydd.” Safodd yn ddi-wyro dros hawliau’r Eglwys, a hynny ar dro yn wyneb safbwynt claear a di-hid rhai Eglwyswyr ac ymosodiadau o gyfeiriad rhai Ymneilltuwyr.
Ym 1862, penodwyd Philip Constable Ellis i fod yn Rheithor Llanairfechan, ac yno y bu am weddill ei oes hyd ei farw ar 10 Mai, 1900. Bu’n fawr ei sêl a’i ymroddiad dros gynnal gwasanaethau dyddiol yn yr eglwysi, eu hailddodrefnu, a newid eu defodau. Ar gyfrif ei gatholigiaeth uchel-eglwysig, ni fynnai gael dim i’w wneud mewn modd yn y byd ag Ymneilltuwyr. Byddai’n anghytuno â rhai offeiriaid hŷn nag ef ar y mater hwnnw. Bu hefyd mewn dadl go boeth â’i esgob, Christopher Bethell, er fod hwnnw, fel y cyfeiriwyd, ei hun yn coleddu syniadau uchel eglwysig. Cyhuddodd yr esgob Philip Constable Ellis o godi cynnwrf. Aflwyddiannus fu ei ymdrechion i’w ddisgyblu, fodd bynnag, ar gyfrif y gefnogaeth a dderbyniai’r Rheithor gan nifer o glerigwyr mawr eu dylanwad yn esgobaeth Bangor.