Manon Wyn Griffiths yn cofio . . .
Richard Edmund Hughes
Ganwyd Richard Edmund Hughes ar Fehefin 20ed, 1893, yr hynaf o bedwar o blant, yn Cambrian House, Talsarnau. 'Roedd ei fam, Jane Ellen, yn enedigol o'r ardal, a'i dad, Richard Môn Hughes, o Langoed, Ynys Môn. Aeth ei dad yn weinidog gyda'r Wesleaid – ac efallai oherwydd hyn, symud fu hanes R.E. Hughes o dŷ i dŷ ar hyd ei oes.
Treuliodd ei blentyndod rhwng Porthmadog, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Llanrhaeadr. Ond yn ystod yr amser yma, penderfynwyd ei anfon i ysgol meibion gweinidogion Wesle yn Kingswood School, Caerfaddon – bu yno am bedair blynedd, cyn gorffen ei ysgol uwchradd ym Mhorthmadog. Wedi hyn, aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, o 1911 i 1916, a graddiodd yn y Gymraeg.
Cafodd ei swydd gyntaf yn Ysgol Ganolraddol Caernarfon, a bu yno am ddwy flynedd, yna aeth i ysgol Merchant Taylors yn Lerpwl, ac wedi hynny i Ysgol Friars, Bangor o 1919 – 1930. Priododd efo Grace Williams yn Siloam, Bethesda, ar Ebrill 7ed a chawsant bedwar o blant, Carys, Gwyn, Eryl a Manon. Yna penodwyd ef yn brifathro Ysgol y Cefnfaes, Bethesda (1930-1944). Symudodd i Bwllheli, yn brifathro yr Ysgol Ramadeg, ac yno y bu hyd ei ymddeoliad ym 1954. Daeth yn ôl i Fethesda; symudodd eto i Borth-y-Gest, i Fangor, i Dregarth, ac yn ôl eto i Fethesda. Yno y treuliodd ei flynyddoedd olaf yn hapus ymysg ei deulu a'i ffrindiau. Bu farw ar Chwefror 16eg, 1969.
Bu'n gefnogol iawn i amryw feysydd ar hyd ei oes: i'r gyfundrefn Wesleaidd a'i gweinidogion, i'r Blaid Genedlaethol ac i gymdeithasau llenyddol. Roedd yn hoff o chwaraeon ac athletau ac yr oedd wrth ei fodd yn cerdded mynyddoedd a chrwydro'i gynefin. Ond mae'n debyg mai o ddysgu y cafodd y mwynhad pennaf – ac yr oedd yn athro a allai ennyn brwdfrydedd oherwydd ei hoffter ef ei hun o'i bwnc. Ysgrifennodd ei draethawd M.A ar D. Silvan Evans ym 1941, ond llenyddiaeth Gymraeg o bob math oedd ei brif ddiddordeb.
Cafodd brofedigaeth lem pan fu ei fab, Gwyn, farw yn 19 oed, ond er dwysed y profiad, llwyddodd ef a'i wraig i ail-afael, a chreu cartref cynnes a llawen. Roedd gan y ddau gyd-ddealltwriaeth arbennig a synnwyr digrifwch oedd yn cyd-fynd i'r dim.
Bu ei fywyd yn un llawn a gweithgar a thystiodd perthynas, y Parchedig Tecwyn Jones, fel hyn iddo,
'Ei fwyn anian, ei fonedd,
A'i fawr barch ni ddifa'r bedd.'