Arwel Hogia’r Wyddfa yn trafod cyfraniad cyfoethog . . .
Rosalind a Myrddin
Yng nghanol bwrlwm cynhyrfus canu poblogaidd diwedd chwedegau’r ganrif ddiwethaf, cyfarfu Rosalind Lloyd, o Lanbedr Pont Steffan, a Myrddin Owen, o Lanberis. Roedd Rosalind ar y pryd yn aelod o grwp Y Perlau, a Myrddin yn un o Hogia’r Wyddfa. Gan fod llwybrau’r ddau’n croesi’n aml ar benwythnosau mewn amryfal fannau ar hyd a lled Cymru, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddynt a drodd ymhen amser yn garwriaeth. Gan fod y ddau hefyd yn wynebau cyfarwydd ar lwyfannau a theledu bu cryn ddiddordeb ymysg dilynwyr y canu cyfoes yn y garwriaeth. Bu dathlu mawr pan fu i’r ddau briodi yng Nghapel Coch Llanberis ym 1972, a hynny ymhlith eu teuluoedd, ffrindiau a llu o artistiaid poblogaidd y cyfnod.
Ond beth am eu cefndiroedd? Beth oedd y sbardyn yna a ddenodd y ferch o dref fasnachol amaethyddol at hogyn o bentref chwarelyddol a oedd dros gan milltir i ffwrdd? Yr ateb mewn gair – cerddoriaeth. Bu’r ddau yn ffodus o gael eu magu a’u meithrin yn sŵn y gân a’u mwydo mewn cerddoriaeth o bob math. Roedd cefndir cartref Rosalind yn gerddorol iawn. Roedd ei thadcu yn gerddor, yn arweinydd partïon a chymanfaoedd ac yn meddu ar lais tenor hyfryd. Roedd ei mam yn athrawes piano ac yn gantores adnabyddus yn ei dydd, yn gystadleydd cyson ynghyd â’i chwaer mewn eisteddfodau led led y canolbarth. Fyddai’n ddim ganddynt gefnogi tair eisteddfod mewn noson gyda Rosalind yn eu canlyn! Ymunodd â’r Urdd a Chlwb Ffermwyr Ieuanc Felinfach, pryd y cafodd gyfle i ganu fel unigolyn, fel un o ddeuawd, ac fel aelod o bartïon a chorau. Roedd y capel yn fan pwysig i’w theulu ac i Rosalind ac yno y cafodd brofiadau ychwanegol yn y maes canu a diddori.
Ni chafodd Myrddin yr un cychwyn â’i briod. Chwarelwr oedd John Owen, ei dad, ond bu farw pan nad oedd Myrddin ond tair oed. Merch o Lanberis oedd ei fam, Ivy Maud Owen, ac iddi hi y mae’r diolch am ddwyn dau o hogia (Gwynedd a Myrddin) i fyny mewn cyfnod anodd. Meddai Maud lais hyfryd ond nid ymunodd â chorau’r fro, ond roedd yn gapelwraig frwd. Cafodd Myrddin ei drwytho a’i feithrin yng ngweithgareddau cerddorol y capel, boed hynny yn y Band of Hope, Sasiwn y Plant neu’r Gymanfa. Daeth o dan ddylanwad cerddorion o fri yng Nghapel Coch Llanberis, lle cafodd y cyfle i ddysgu sol ffa ar y “modulator” ac i gystadlu yn eisteddfod y capel. Yr Archdderwydd R. Bryn Williams (Patagonia) oedd gweinidog Capel Coch ar y pryd ac fe ddisgrifiodd y gymdeithas chwarelyddol fel “gwerin dlawd yn byw’n gyfoethog”. O fewn y gymdeithas yma, ac fel aelod ohoni, y meithrinwyd Myrddin. Bu’n aelod gweithgar ohoni gan gyfrannu â’i holl egni i gynnal mudiadau amrywiol o’i mewn.
Mae’n bwysig nodi hefyd fod y ddau ohonynt wedi cael eu dylanwadu ymhellach ar ôl gadael eu hysgolion. Tra’n gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr, ac yn ddiweddarach yn siop ei rhieni, lle y cafodd fwy eto o ryddid i ymarfer ei dawn gerddorol ar y piano a’r delyn a chanu cerdd dant, ymunodd Rosalind, gyda chantorion eraill o’r dref, i ganu yng Nghôr Coleg Dewi Sant, Llambed. Mae’n cofio cael gwefr o ddysgu darnau clasurol megis gweithiau Benjamin Britten, a’u canu yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi. Un o brofiadau mawr ei bywyd cynnar oedd canu Zadok the Priest” yn y Gadeirlan. Ond canu ysgafn a aeth â’i bryd yn y diwedd pan gyfarfu â grwp o fyfyrwyr oedd yn ymddiddori mewn canu gwerin a baledi. Dysgodd chwarae’r gitâr, ac fe sefydlwyd Y Perlau maes o law. Gellir rhestru dylanwadau o’r fath ar Myrddin. Parhaodd y “werin dlawd i fyw’n gyfoethog” ymhell i bumdegau a chwedegau’r ganrif, ac roedd Myrddin yn serenu yn eu plith. Daeth o dan ddylanwad y Parchedigion Meirion Lloyd Davies a John Owen ac ymunodd â’r clybiau ieuenctid a’r cwmniau dramâu a sefydlwyd gan y ddau. Meddai lais tenor hyfryd ac yn ddarllenwr sol ffa caboledig. Roedd yna sawl côr yn Llanberis ar y pryd, a mynnai’r arweinyddion gael Myrddin i’w rhengoedd! Yn ifanc iawn, cafodd ei ddyrchafu i “Gôr Mawr” Llanberis, ac fel Rosalind, cafodd y cyfle i ymgodymu â gweithiau’r “Meistri”. Dysgodd rannau tenor y Messiah, Elijah, Y Cread a mwy.
Erbyn y saithdegau, roedd Rosalind yn ddigon hyderus i wynebu sialensau heriol fel unawdydd. Mentrodd gystadlu ar y rhaglen boblogaidd, Opportunity Knocks, a llwyddo i ennill sawl tro a hynny drwy ganu yn y Gymraeg! Yn dilyn y llwyddiant, daeth cyfleoedd i’w rhan ar raglenni HTV Cymru a’r BBC. Erbyn hyn hefyd roedd gyrfa Hogia’r Wyddfa yn ei anterth gyda galwadau am eu gwasanaeth yn dod o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Ond rhywfodd, fe gadwodd y ddau gariad gyda’i gilydd. Symudodd Rosalind a’i rhieni i Lanberis, a sefydlu busnes yn y pentref. Dechreuodd Rosalind a Myrddin ganu gyda’i gilydd fel deuawd Cerdd Dant cyn ymddangos, ar gais y diweddar Rol Williams, i berfformio’n wythnosol yng Ngwesty’r Victoria Llanberis i ddiddori’r ymwelwyr. Gyda Hogia’r Wyddfa yn ymbaratoi i “ymddeol” dros dro, cynyddodd y galwadau am wasanaeth Rosalind a Myrddin. Daeth y ddeuawd yn eithriadol o boblogaidd gan recordio pum record hir a rheini o’r safon uchaf. Cafodd y ddeuawd wahoddiad gan HTV i gyflwyno pum cyfres. Cafodd Rosalind y profiad ychwanegol o gyd-gyflwyno’r rhaglen boblogaidd Sion a Siân gyda Dai Jones. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai i’w mam a’i thad fod o fewn tafliad carreg i warchod y newydd ddyfodiad – Deian.
Yn dilyn ad-drefniant ar lywodraeth leol ym 1974, symudodd Myrddin i weithio ym Mhwllheli gyda Chyngor Dwyfor. Yno y bu’n gweithio ym maes Rheolaeth Datblygu a Chynllunio. Ymhen y rhawg, symudodd y teulu i Bwllheli, a chyn iddynt gael cyfle i drefnu’r tŷ bron, daeth mynych alwadau am eu gwasanaeth o ardaloedd cefn gwlad Llŷn ac Eifionydd. Gyda Hogia’r Wyddfa yn ail afael yn eu gyrfa, daeth cyfle i’r ddau drafaelio gwledydd tramor. Daeth cyfle i ganu yn yr Unol Dalethiau, Canada ac Awstralia, gyda Myrddin yn cael y profiad ychwanegol hynod ddiddorol gyda’r Hogia o ganu yn Nigeria a dwywaith yn Neuadd Albert, Llundain!
Er y cannoedd o gyngherddau a’r miloedd o filltiroedd o drafaelio, mae’r ddau o’r farn mai ym Mhwllheli y cawsant y profiadau mwyaf i’w trysori – Pasiantau Pwllheli – y pasiantau anhygoel rheini a sgriptiwyd gan y diweddar Glyn Roberts, ac a gyfarwyddwyd gan Paul Griffiths, gyda cherddoriaeth arbennig Annette Bryn Parri, gan rannu llwyfan â chantorion ac actorion o fri. Mae’r teulu’n rhan annatod o’r dref erbyn hyn, gyda Myrddin yn ymroi i waith Cyngor y Dref. Erbyn hyn hefyd caiff y ddau ymfalchïo yn eu llwyddiannau, edrych yn ôl ar yrfa ddisglair, ond yn bwysicach na hyn oll, edrych ymlaen at ymweliadau Guto Rhys ac Angharad Wyn i dŷ taid a mamgu! Gorchwyl bwysig yn ddyddiol yw mynd a Plwmsan, y ci, am dro – cerdded milltiroedd o amgylch y dref gan sgwrsio gyda hwn a’r llall!