Dr. Merdydd Evans yn cofio . . .
Shân Emlyn
Rydw i am ddechrau trwy adrodd hanesyn i chi am ferch fach, rhyw dair oed, yn Rhydychen a hynny ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei thad yn gweithio yn ffatri Morris Motors fel clarc, a’r fam gartre yn edrych ar ôl y fechan. Un bore cafodd y fam ddamwain yn y tŷ a brifo’i choes ond yn ffodus daeth cymdoges heibio. Yn yr helynt o gynorthwyo, collwyd golwg ar yr hogan fach, a phan ddaeth y tad adre amser cinio, doedd dim golwg arni. Cafwyd hyd iddi wedyn ar y ffordd fawr sy’n arwain o Rydychen i Lundain wrth ymyl ciosg teliffon, ac roedd hi yn y fan honno eisiau dweud fod ei mam wedi’i brifo. Wrth feddwl am y stori yna, daw tri pheth i’r golwg: meddylgarwch, dewrder a phenderfyniad i wneud rhywbeth ymarferol. Dyna Shân.
Tua’r un amser daeth y teulu’n ôl i Gymru, i’r Felinheli, ac ymhen ychydig, roedd Shân yn cystadlu mewn eisteddfodau. Roedd ei mam yn gerddorol ac wedi cychwyn ei gyrfa fel athrawes cerddoriaeth mewn ysgol. Ei thad hi wedyn yn chwarae hefo Band Nantlle er pan oedd o’n hogyn ifanc. Dyna aeth â fo i Rydychen – gweld yn y Bandsman fod isio trombonydd i chwarae ym Mand Morris Motors, a bod na swydd clarc yn mynd hefo’r chwarae trombôn.
Ei mam oedd yn ei hyfforddi ar y dechrau, mewn cerdd dant, unawdau ac adrodd, ac ymhen dim o dro, crwydrai’r ddwy o steddfod i steddfod yn y gogledd. Caffaeliad mawr i Shân hefyd oedd y ffaith ei bod yn byw’r drws nesa i Maimie Noel Jones, a bu Maimie yn gymorth mawr iddi; yn ffrind oes. Erbyn cyrraedd un ar ddeg oed, cystadleuai yn yr eisteddfodau mawr; yn Eisteddfod Lewis’s, Lerpwl, er enghraifft, a thystiodd am y tro hwnnw: ‘Fy solo gyntaf oedd “Hei di ho” gan Haydn Morris, Llanelli’.
Ymhen ychydig wedyn, cystadleuai yn Eisteddfod Bae Colwyn, 1947, gan ennill ar y canu gwerin dan un ar bymtheg oed, a phawb yn rhyfeddu ati ei bod mor ifanc. Yna, flwyddyn yn ddiweddarach, cystadleuodd yr un mor llwyddiannus yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Yn yr Eisteddfod honno hefyd yr enillodd y cystadleydd hynaf ar ganu gwerin ar y pryd yng Nghymru, sef John Thomas, Maesyfedw, a mi hoffwn i fod wedi clywed y ddau yna yn mwynhau cwmni ei gilydd: dau mor hynaws a hyfryd eu natur. Dyna’r flwyddyn, eto, yr enillodd Shân ar ganu gwerin yn Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr.
Erbyn iddi fynd i’r Ysgol Ramadeg, roedd y teulu wedi dod i Bwllheli i fyw. Dyna pryd y daeth Shân gyntaf i gysylltiad â Ceridwen Lloyd Davies, athrawes gerdd amlwg iawn ar y pryd. Mi glywodd hi’r gantores ifanc yn canu yn un o’r eisteddfodau, ac fe’i gwahoddodd i ddod ati i Harlech am wersi canu. O ganlyniad i hynny, mi ehangwyd ei gorwelion cerddorol.
Digwyddodd yr un peth yn yr ysgol ym Mhwllheli, dan gyfarwyddyd yr athro cerdd, John Newman. Dechreuodd Shân ymddiddori mewn oratorio a lieder yn ogystal â chaneuon gwerin ac unawdau steddfod. Agorwyd drysau perfformio eraill iddi hefyd, a chyn bo hir fe’i clywid yn canu ar raglenni radio megis ‘Awr y Plant,’ ‘Aelwyd y Gân,’ ac ati. Mae gen innau gof amdani yn canu ar raglen ‘Y Noson Lawen’ (hithau tua phedair ar ddeg i bymtheg oed ar y pryd) ac yn cynnal cyngherddau dros y Gogledd. Meddai unwaith: ‘Mi wnes i gyfarfod llawer o gantorion enwog fel Nancy Bateman, David Lloyd, Bruce Dargavel, ac yn y blaen.’
Wedyn mi ddaeth y teledu ac rydw i isio darllen stori amdani yn mynd i Lundain i wneud rhaglen deledu am y tro cyntaf:
‘Un tro mi es i deimlo dipyn yn annifyr. Pymtheg oed oeddwn i
ac yn teithio ar fy mhen fy hun bach i Lundain i gymryd rhan mewn rhaglen deledu am y tro cyntaf. I basio’r amser yn y trên dyma benderfynu cyfrif pob erial deledu rhwng Pwllheli ac Euston, a synnu a rhyfeddu wrth feddwl y buaswn i’n canu mewn cymaint o barlwrs ffrynt y noson honno.’
Hefo’r holl gefndir yna, aeth Shân i Lundain yn 1954. Mi fu yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn y fan honno gan wneud llu o gyfeillion newydd; yn eu plith y gantores Gwyneth Jones.
Mi fanteisiodd ar y cyfle hefyd i fynd i bob math ar gyngherdau ac i’r theatrau opera. Bu hi ei hun yn perfformio droeon yn y cylchoedd Cymreig yno ac mewn cylchoedd Seisnig yn ogystal. Yn Gwendolen Mason, cafodd athrawes telyn o’r radd flaenaf, ac yn y Coleg Cerdd rhoed iddi wobr arbennig Julia Leney ar ganu’r delyn. At hyn, galwyd arni i fod yn Ysgrifennydd i Gymdeithas Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn Llundain.
Yn 1958 priododd ag Owen Edwards ac yn fuan wedyn dyma ddechrau magu teulu. Dyna ddiwedd, felly, ar y freuddwyd o fod yn gantores broffesiynol. Fel roedd gwaith Owen yn troi o fod yn berfformiwr teledu i fod yn weinyddwr, deuai galwadau eraill i bwyso arni. Mae’n wir iddi ddal ati i berfformio – Granada, TWW, HTV ac ambell gyngerdd – ond roedd cyfyngiadau pendant ar y canu bellach.
Yn y cyfnod hwn y daeth Phyllis a minnau i’w hadnabod yn dda. Roeddem yn byw o fewn rhyw hanner milltir iddi, a daethom yn dystion i’w chyfraniad helaeth i fywyd cymdeithasol Cymraeg Caerdydd. Wn i ddim faint o bwyllgorau fyddai’n cyfarfod yn ei thŷ. Cefnogai’r cymdeithasau Cymraeg i gyd, yn arbennig felly y Mudiad Ysgolion Cymraeg, yr Ysgolion Meithrin a’r Urdd: rhoes flynyddoedd ac ynni lawer i hybu gwaith yr Urdd bid siwr. Yna bu’n gweithio’n ddygn hefo’r Dinesydd, o ddyddiau ei sefydlu yn 1973 ymlaen, gan ddod yn Olygydd arno dros gyfnod o flynyddoedd. Bu ei chyfraniad yn ddim llai na syfrdanol.
Rhaid sôn yn neilltuol am ddwy gymdeithas a fu’n agos iawn at ei chalon. Y gyntaf ydi Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bu’n aelod selog a brwdfrydig. Ceisiodd a llwyddodd i hybu canu gwerin. Bu’n darlithio ar y pwnc sawl tro; yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas am flynyddoedd, yn Is-Gadeirydd a Chadeirydd arni.
At hynny, pan aeth i’r Wladfa, mi gasglodd alawon gwerin a chaneuon poblogaidd Cymraeg yno. Casglodd lawer ohonyn nhw o ganu Mrs Macdonald (mam Elvey) ac mi gyhoeddwyd rhai o’r rheini yn Canu Gwerin, cylchgrawn y Gymdeithas Alawon Gwerin.
Mae hyn yn ein harwain ni at yr ail Gymdeithas – Cymdeithas Cymru Ariannin. Bu Shân yn Ysgrifenyddes iddi o 1979 ymlaen ac aeth ymhell tu hwnt i gyflawni dyledswyddau ffurfiol Ysgrifenyddes ar ei rhan. Enghraifft dda o hynny oedd ymweliad Côr Esquel â Cymru yn 1997. Roedd o leiaf 30 o aelodau yn y Côr, ynghyd â rhai perthnasau cefnogol, ond doedd hi ddim yn ddigon gan Shân roi croeso ffurfiol iddyn nhw mewn neuadd. Na, roedd yn rhaid eu gwahodd nhw i’w fflat yn Llandaf, a rhoi llond boliau o fwyd iddyn nhw. Mae brwdfrydedd felna yn rhyfeddol.
Mi aeth i’r Wladfa am y tro cyntaf yn 1975, wedyn yn 1979, yn 1981 ac ar achlysuron eraill. Ysai am weld y Wladfa fel ag y mae hi, am ddarllen cynnyrch ei llenorion a gwybod am ei cherddoriaeth. Uwchben ei gwely, gosododd soned gan Irma Hughes de Jones, ŵyres i Gwyneth Vaughan, a bardd da. Dyma’r soned ac roedd ei hergyd yn bwysig iawn i Shân –
I GYMRU
Yn fy mreuddwydion, ganwaith crwydrais i
Dy fryniau a’th ddyffrynoedd, ’mlaen ac ôl,
Clywais dy glychau’n canu dan y lli’,
Cesglais dy flodau gwylltion hyd y ddôl;
Gwrandewais gân y fronfraith yn y coed,
Nodau y gwcw a glywais oddi draw,
Teimlais ddaear Cwm Rhondda dan fy nhraed,
Gwelais Eryri yn y niwl a’r glaw;
Yna daw’r deffro; minnau holi wnaf
Ai hud y pellter a’th wna dim mor dlws
Fel pan hiraethaf aeaf am yr haf,
Neu weled gardd drwy wydrau lliw y drws?
Pan ddelo’r dydd i ysgwyd llaw â thi
’Rwy’n erfyn, Gymru fach, na’m sioma i!
Deallodd Shân hynny i’r dim, a doedd hi ddim am siomi unrhyw Wladfäwr. Yn niwedd yr wythdegau a’r nawdegau, daeth blynyddoedd llwydion i’w rhan. Ond penderfynodd ail-greu bywyd iddi ei hun. Yn 1992 cefais gais ganddi am lythyr cymeradwyaeth i Ganolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, gan ei bod yn ymgeisio am swydd yno. Rwyf wedi ysgrifennu ugeiniau o lythyrau cymeradwyaeth yn fy nydd, ond ’fu yna’r un erioed mor hawdd i’w sgwennu â hwnnw, a mi roeddwn i’n dweud cant y cant o’r gwir ynddo fo. Bu Shân yn y swydd honno am bum mlynedd, ac fe’i cyflawnodd yn anrhydeddus, fel y gall A.J. Howard Rees, Pennaeth y Ganolfan honno, dystio.
Yn ddiweddar, roedd hi wedi ail-ddechrau ymddiddori mewn teledu, y tro hwn fel ymchwilydd. Yn 1994, mi ddaeth Cwmni Alan Thorrgesson a Chwmni Ffilmiau’r Bont ynghyd i greu rhaglen am Leila Megane, a chan fod Alan a hithau yn nabod ei gilydd yn dda (y ddau yn gyd-aelodau yng Nghapel y Crwys) ac yntau yn gwybod yn burion am ei phrofiad ar deledu a llwyfan, gofynnodd iddi a hoffai hi gydweithio ar baratoi’r rhaglen. Ymatebodd Shân yn frwd i’r cynnig, yn arbennig felly oherwydd ei bod hi ei hun wedi cyfarfod â Leila Megane. Digwyddai’r gantores enwog fod mewn cyngerdd lle’r oedd Shân y unawdydd, ym Mhwllheli, ac ar y diwedd, daeth i du ôl y llwyfan, ei chofleidio’n gynnes, a’i hannog i ddal ymlaen â’i chanu.
Yna, yn ddiweddar, mi glywais gan Hywel Morris ei fod o a Shân wedi bod yn cydweithio ar gyfer syniadau am rai rhaglenni teledu i’w hystyried gan S4C. Roedd dau o’r syniadau hynny yn ymwneud â’r Wladfa – un wedi ei gomisiynu’n frwd – dan y pennawd ‘Nadolig y Paith.’ A Shân ar glawr fel Cynhyrchydd ac Ymchwilydd i’r rhaglen honno.
Dyna hi, y ferch â’i hynni a’i hegni yn byrlymu i’r diwedd. Ond, chwedl hithau, ychydig amser yn ôl wrth Mari: ‘Does gan dy fam fawr o gyfle i neud y ffilm yna.’
Bum wythnos yn ôl, bu Phyllis, John Roberts Williams a minnau yn ei gweld yn Sir Fôn. Roedd asgwrn y meingefn wedi breuo, ond yr un hen Shân oedd hi yng nghanol ei phoen, hefo’r un cynhesrwydd, yr un cyfarchiad siriol a’r un awydd am sgwrs. Teimlem yn galonnog ddigon. Ychydig yn ddiweddarach, cawsom gerdyn Nadolig hefo dim ond un gair arno – ‘Shân’ – ond roedd yr un hen addurn arferol ar yr ‘S’ a’r ‘h,’ yr hunan-fynegiant mor gadarn ag erioed. Ie, yr un hen Shân i’r diwedd. Felly y bydd hi byw yn ein meddyliau ni i gyd.
Gyda diolch i’r Dr. Meredydd Evans am ei ganiatâd parod i gynnwys yr addasiad hwn o’i deyrnged a draddodwyd yn ystod y gwasanaeth yng Nghapel Pen-mount, Pwllheli, ar ddydd Angladd Shân Emlyn, 6 Ionawr 1998.
Ôl Nodiad.
Cofiaf am Shân Emlyn yn gyd-ddisgybl â mi yn Ysgol Ramadeg, Pwllheli. Roedd hi’n adeg Etholiad Cyffredinol, a chynhaliwyd Ffug Etholiad yn yr ysgol. Shân Emlyn oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn y Ffug Etholiad, ac ar boster yno ’roedd ganddi’r geiriau, ‘Cofiwch Wlad y Gân, Drwy roddi Fôt i Shân.’
Rhoed gweddillion Shân Emlyn i orffwys ym mynwent Bethel, Penrhos.
Ioan W. Gruffydd.