Cyngerdd Côr Yr Heli

Braint I'r Maer oedd cael mynychu cyngerdd cyntaf Côr Yr Heli yn Neuadd Dwyfor ar nos Fercher Mehefin 27ain.

Pleser pur oedd gwrando'r artistiaid amryddawn lleol.

Cyn y cyngerdd, cafodd awr o sgwrsio difyr a chroesawu Alejandro Jones o Drefelin, Patagonia a’i wraig Erica. Yr oedd Alejandro ar daith ganu ledled Cymru ac yn gweithio ar y tir.

Roedd cael gwybod am y Wladfa a’u ffordd o fyw yno yn agoriad llygaid.
Dywed i'r Cyngerdd fod yn un cofiadwy iawn, a braf oedd meddwl bod talentau ifanc newydd yn dal i gadw’r iaith yn fyw yn nhref Pwllheli a’r cyffiniau.
Dylid cadw golwg am enw'r gŵr ifanc hynod ddawnus, Gronw Ifan Ellis Griffith.

Llongyfarchodd Gwenan Gibbard, Alwenna Roberts a Chôr yr Heli am lwyfannu gwledd o gerddoriaeth.


Newyddion 2018