Yn y llun
Mr. Brian Jones, Y Cynghorydd Eric Wyn Roberts, (Maer Pwllheli) Mrs. Doris Jones, Mr. Terry Williams
Cawsai'r Maer, y Cynghorydd Eric Wyn Roberts, y fraint o gyfarfod â gwirfoddolwyr - Mr. Brian a Mrs. Doris Jones a Mr. Terry Williams, o’r Ganolfan Hamdden ym Mhrosiect Gardd Dwyfor a leolir rhwng y Cae Pêl Droed a'r Maes Ymarfer Bob Tywydd yn y Ganolfan Hamdden. Rhandir ydy hwnnw a hafan o flodau sy’n llesol i bawb. Llongyfarchodd nhw am lwyddo i dderbyn Gwobr y Faner Werdd. Edrychai ymlaen i ymweld a chefnogi’r fenter yn y dyfodol.