Mae Cyngor Tref Pwllheli yn ddiolchgar dros ben am y cyfraniad gan ddau o fusnesau Pwllheli, Kar-a-Lyns a Rigio, tuag at y goleuadau Nadolig newydd.
Fel y gwyddoch mai'r goleuadau Nadolig newydd yn cael eu gosod o gwmpas y dref o wythnos yma ymlaen.
Pwrpas y buddsoddiad sylweddol yma gan y Cyngor Tref yw galluogi greu adnodd tymhorol fydd yn hybu’r economi leol, codi proffil ac atgyfnerthu busnesau'r dref.
Mi fydd y goleuadau Nadolig Newydd yn gwella profiad o ymweld â’r dref, gwella golwg i drigolion mewn cyfnod o ddathlu a chreu cefnlen ddeniadol i ddigwyddiadau yn y dref.
Cost y gwaith yw £94,000 ynghyd a TAW sy'n fuddsoddiad bydd yn cael ei dalu dros 5 mlynedd. Gwerthfawrogir unrhyw gyfraniad tuag at y gost.
Rydym yn gobeithio bod hyn yn hybu busnesi lleol i ddod at ei gilydd i drefnu noson neu nosweithiau agor yn hwyr cyn y Nadolig.
Os ydych eisiau cydlynu hyn a digwyddiadau eraill yn y dref ar y noson neu nosweithiau yna gadwch i ni, y Cyngor Tref, neu eich busnesi lleol wybod eich awgrymiadau.
Diolch eto i Kar-a-Lyns a Rigio.