Wedi’i dorri’n rheolaidd, efallai y bydd glaswellt wedi ei dorri yn fyr yn edrych yn daclus – ond nid yw’n fawr o fudd i fywyd gwyllt. Bydd llai o dorri gwair ar ymylon ffyrdd a glaswellt ar safleoedd amwynderau yn caniatáu i laswellt a blodau gwyllt dyfu.
Mae hyn yn creu cynefin gwell ar eu cyfer ‘Nhw’: infertebratau, adar, mamaliaid bach, amffibiaid ac ymlusgiaid. Dyna pam yr ydym yn lansio ein hymgyrch ‘Iddyn Nhw’. Ein nod yw cynyddu ymwybyddiaeth pobl sy’n rheoli torri glaswellt a’r cyhoedd o fanteision torri llai a chreu bioamrywiaeth iach. Mae angen eich cefnogaeth arnom i wneud hyn yn llwyddiant ac rydym wedi creu’r pecyn cymorth hwn a’r asedau sydd ynddo i chi eu defnyddio i hyrwyddo’r ymgyrch.
Llawrlwytho'r ddogfen 'Iddyn Nhw'