Beth yw Cyfle Cymru?

Mae Cyfle Cymru yn wasanaeth sy’n helpu pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau a/neu gyflyrau iechyd meddwl i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant.

Beth gallai Cyfle Cymru ei gynnig?

Mae Cyfle Cymru yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddod o hyd i’r swydd, cyfle hyfforddi neu gymwysterau cywir.

Rydym yn cynnig:

  • cyngor un-i-un gan fentor cyfoedion sy’n gallu rhannu ei brofiad personol o gam-drin sylweddau, adferiad a/neu gyflwr iechyd meddwl.

  • gefnogaeth cyflogaeth arbenigol, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli, a chymorth a chyngor ynglyn â sut i chwilio ac ymgeisio am swyddi

Rydym yn cydweithio gyda chyflogwyr mawr er mwyn sicrhau fod gennym ni’r cysylltiadau fydd eu hangen arnoch chi iddod o hyd i swydd gwerth chweil.

Rydym yn brofiadol ym meysydd triniaeth ac adfer ac yn deall eich adferiad, felly fe allwch chi ymddiried ynom ni i’ch helpu chi i wneud y penderfyniadau cywir..

Gall ein cymorth a’n cefnogaeth barhau ar ôl i chi ddod o hyd y waith, hyfforddiant neu addysg er mwyn eich helpu i ymgartrefu.

Pwy sy’n gymwys?

Gallwn eich cefnogi tuag at ac i mewn i waith os:

  • ydych chi rhwng 16 a 24 oed ac nad ydych mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

  • ydych yn 25 neu drosodd ac wedi bod yn ddi-waith tymor hir neu’n anweithgar yn economaidd.

  • ydych yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, Dyfed, Gogledd Cymru,Powys neu Fae Abertawe.

  • ydych mewn adferiad o gamddefnyddio sylweddau a/neu broblemau iechyd meddwl.

I lawr lwytho'r ddogfen Cyfle Cymru cliciwch yma

Cysylltwch â ni

Mewn partneriaeth â:
0300 777 2256
ask@cyflecymru.com
www.adferiad.org/cyflecymr


Newyddion 2023