Yn wreiddiol o Lerpwl, symudodd John i Ben Llŷn yn 1985. Daeth yn rhan o’r gymuned leol dros y blynyddoedd drwy ddysgu Cymraeg ac ymuno â busnes teulu Bryan Williams ar Stryd Fawr Pwllheli, cyn agor Gemydd J&L dros y ffordd yn 1990.

Mae gwirfoddoli hefyd yn ran pwysig o’i fywyd, wedi gwirfoddoli i Wylwyr y Glannau, y Gwasanaeth Tân, a llawer o ddigwyddiadau ac achosion lleol fel Hwyl yr Ŵyl a Gŵyl Fwyd Pwllheli yn y gorffennol, ac yn dal i wirfoddoli fel Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned.

Mae ganddo nifer o ddiddordebau, gan gynnwys coginio, ffotograffiaeth, gwaith coed, a cherdded.


Pwy di Pwy