Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gyda chyngor cymuned leol. Bydd maes parcio segur yn cael ei drawsnewid yn goetir cymunedol newydd drwy bartneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Tref Pwllheli. Yn y warchodfa natur yng nghanol Pwllheli, mae maes parcio segur sydd tua hanner erw. Bydd y prosiect hwn yn galluogi’r cyngor i gael gwared ar y maes parcio a chreu coetir yn ei le, gan wella’r ardal leol a gwella cyfleoedd bioamrywiaeth a llesiant yn yr ardal.
Cliciwch yma am ddogfen Trafnidiaeth Cymru